Thema dywyll Thema golau

Croesawu Senedd ond dim Cyfiawnder eto

erthygl-mehefin-2020-2100-1012 erthygl-mehefin-2020-2100-1012
Yng nghanol y Covid, collwyd y Cynulliad. Senedd sydd gan Gymru erbyn hyn ym Mae Caerdydd, neu ‘Welsh Parliament’ yn ôl y cyfieithiad swyddogol diangen. Dyma newyddion a ddylai godi calon pob Cymro. Ond mae’r enw newydd, ‘Senedd Cymru’, hefyd yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â’r setliad datganoli presennol. Pa Senedd deilwng o’r enw sydd heb bwerau deddfu llawn yn y maes cyfiawnder? Yr hydref diwethaf, cafwyd adroddiad manwl gan gomisiwn annibynnol, o dan arweiniad yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, yn argymell y dylai Cymru gael ei chyfundrefn gyfiawnder ei hun. Yn ôl y comisiwn, roedd parhau i geisio rhannu’r un gyfundrefn â Lloegr yn ‘gymhleth’ ac yn ‘aneffeithlon’ ers i bwerau ym meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol gael eu datganoli. Gwrthodwyd yr argymhelliad cwbl synhwyrol hwn yn syth gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol heb gynnig unrhyw reswm a oedd yn gwneud cyfiawnder â manylder yr adroddiad.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2020-2099-1011

Bod mewn dau le ar unwaith – gwlad ymddiriedaeth a gwlad diffyg ymddiriedaeth

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2020-2101-1013

‘Eich stori chi yw ein stori ni’