Thema dywyll Thema golau

‘Croesi Traethau’

Traeth Glas, gan Lesley Birch Traeth Glas, gan Lesley Birch
Mae pob un o’r peintiadau a’r cerfluniau a fydd i’w gweld tan ddechrau’r flwyddyn nesaf yn Oriel Kyffin Williams, a leolir y tu mewn i Oriel Môn, wedi dod o gasgliad preifat syfrdanol. Casglwyd y cyfan, yn agos i 90 o weithiau celf, gan Sian a Ken Owen dros gyfnod o 30 mlynedd a’u harddangos i gyd yn eu cartref ar arfordir dwyreiniol Môn. Fe ddechreuodd y cyfan yn 1990, yn fuan ar ôl iddyn nhw briodi. Ar ymweliad ag Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llŷn cyfareddwyd y ddau gan ‘Traeth Gwyllt’, dehongliad tawel ond taer Selwyn Jones o’r olygfa o ochrau Brynsiencyn dros afon Menai tuag at Eryri. ‘Roedden ni’n meddwl ein bod ni’n bobol soffistigedig dros ben,’ meddai Ken gan wenu’n atgofus. Ceisio osgoi bod yn ymhonnus mae o, gan wybod yn iawn pa mor hawdd yw ymddangos yn siwdaidd wrth drafod gweithiau celf. Ond y gwirionedd yw bod gan y pâr ifanc a brynodd y llun cyntaf hwnnw chwaeth gadarn.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Brecwast yn Llanrwst

Ein lluniaeth a’n llawenydd

Ymlaen >
Tap gyda dwr a tabledi

Mae pris i’w dalu am bopeth