Thema dywyll Thema golau

Croeso i Wlad yr Asyn – holi Wyn Mason

erthygl-awst-2021-2254-1155 erthygl-awst-2021-2254-1155
Os Nad Nawr. Mae’n enw addas ar gwmni theatr sy’n bwriadu canolbwyntio ar ysgrifennu newydd sy’n berthnasol i Gymru gyfoes. Ond go brin y byddai Wyn Mason a Branwen Davies, wrth sefydlu’r cwmni dros ddwy flynedd yn ôl, wedi gallu rhagweld sut y byddai’r enw’n magu arwyddocâd pellach maes o law a hynny yn sgil amgylchiadau cwbl anrhagweladwy. Daeth Covid i rwystro lansiad gwreiddiol y cwmni yn Eisteddfod Genedlaethol 2020 gan i’r Eisteddfod ei hun gael ei gohirio, a bu siom bellach eleni yn sgil gohirio Prifwyl Tregaron am yr eilwaith. Er hynny, mae’r ‘Nawr’ bellach, o’r diwedd, wedi cyrraedd gan fod y cwmni ar fin mynd â’u sioe gyntaf ar daith ledled Cymru, a hynny mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Fel cyd-sylfaenydd Os Nad Nawr ac awdur Gwlad yr Asyn, a hefyd fel rhywun sy’n hanu o Geredigion, roedd Wyn Mason yn naturiol yn siomedig o beidio â chael lansio’r cwmni mewn Eisteddfod yn ei sir frodorol. Ond mae rhyw dda ym mhob drwg ac mae’r newid yn y cynlluniau’n golygu y bydd ei ddrama yn awr yn cael ei gweld mewn chwe lleoliad yn hytrach nag un, gyda set fwy.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-awst-2021-2253-1154

Delweddau’r cyfnod clo

Ymlaen >
erthygl-awst-2021-2255-1156

Cofio Elystan Morgan – dyn dewr o argyhoeddiad anghyffredin