Thema dywyll Thema golau
Hanes yr albwm coll
Culhau gorwelion wrth gyrraedd carreg filltir
Sownd yn Fenis

Culhau gorwelion wrth gyrraedd carreg filltir

Trystan Llŷr Griffiths yn The Flying Dutchman. Llun: Craig Fuller

Yn ddiweddar roedd Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu pen‑blwydd arbennig. Er bod digon i ymfalchïo ynddo, mae sefyllfa bresennol y cwmni yn peri pryder i’n sylwebydd, ac ategwyd ei deimladau pan aeth i weld eu cynhyrchiad diweddaraf.

Profiad digon hynod oedd cyrraedd y Prince of Walesar Heol y Santes Fair, Caerdydd, mor blygeiniol fel nad oedd un cwsmer ar gyfyl y lle. Bore Mercher 15 Ebrill oedd hi a chriw Dros Frecwast a finnau yno i ddathlu union ben‑blwydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn 80 yn fyw ar Radio Cymru. Yn 1946, theatr grand oedd yr adeilad ond tafarn anferth ydyw heddiw yn eiddo i gwmni Wetherspoon – cyn crychu trwyn, fodd bynnag, rhaid diolch i’r cwmni am adfer y tu mewn i’w hen ogoniant fel theatr. Gall unrhyw gwsmer, felly, werthfawrogi awyrgylch yr oes a fu wrth weld pileri mawreddog y llwyfan a’r proseniwm, y blychau ar bob ochr a’r rhesi seddau o’r ‘Gods’ i fyny yn y nefoedd i lawr at y Cylch Uwch a’r Cylch Crand. Yng nghefn y llwyfan mae darn o hen gefnlen yn creu’r teimlad bod cynhyrchiad ar ei hanner – ac mae yno, hyd yn oed, boster o wythnos agoriadol WNO yn hysbysebu’r perfformiadau o Cavalleria rusticana a Pagliacci (‘Cav & Pag’) ac ar yr ail noson Faust gan Gounod. Daeth y gorffennol yn fyw o’m hamgylch.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Hanes yr albwm coll

Ymlaen >

Sownd yn Fenis