Gwobr: ces o win o Dylanwad
Bydd enillydd y Cwis yn derbyn ces o win gwerth £100 o Gwin Dylanwad, Dolgellau. I weld y dewis gwych sydd ar gael ewch i’w siop ar-lein ar eu gwefan dylanwad.co.uk/
Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.
Anfonwch eich atebion at
Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin SA31 3EQ gyda’ch enw, cyfeiriad post ac e-bost neu at swyddfa@barn.cymru erbyn 9 Medi 2024.
Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Hydref.
- Pwy yw Corynwraig?
- Lle cafodd postmon o Cameroon lwyddiant etholiadol?
- Ym mha flwyddyn y bathwyd y term ‘gordwristiaeth’?
- Beth oedd yr enw ar drigolion cynnar Cwm Rhondda?
- Yn lle y ffilmiwyd Rhosyn a Rhith?
- Pwy yw gŵr Janet Wei?
- Pa lun ymddangosodd gyntaf yn y Daily Mirror ym Medi 1936?
- Pwy sy’n credu mai ‘nhw sy’n cyfrif go iawn’?
- Beth oedd proffesiwn Clement Attlee?
- Pa dri ddaeth i amddiffyn Dai?
- Lle ceir dau gwrs am £14.99?
- Pwy oedd yn byw yr ochr draw i’r Co-op?
- Beth aeth dros y môr i Brifysgol Yale?
- Pwy sy’n dal ar ei ffordd i Ddamascus?
- Pa nofel enillodd Wobr Tir na n-Og ddeng mlynedd yn ôl?
- Beth oedd hen enw Cymraeg Köln?
- Pa ddrama sy’n ‘annatblygedig’?
- Faint o bobl sy’n byw yn Krohiawhiar?
- Pwy oedd aelod ieuengaf Cylch Cadwgan?
- Ar beth y gwariwyd £20,000 yn 1952?
