Gwobr: Llwy enamel mewn ffrâm
Eitem hyfryd o waith y grefftwraig adnabyddus Buddug Wyn Humphreys yw’r wobr y tro hwn.
www.buddug.com
ATEBION RHWNG Y CLORIAU
Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.
Anfonwch eich atebion at
Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin SA31 3EQ gyda’ch enw, cyfeiriad post ac e-bost
neu at swyddfa@barn.cymru erbyn 7 Chwefror 2025.
Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Mawrth.
1 Pwy sy’n dipyn o dderyn?
2 Beth oedd cynnyrch mynyddoedd yr Erzgebirge?
3 Pwy fu’n traethu am gasineb y Cymry tuag at y Gwyddelod?
4 Enwch aelodau Pedwarawd y Wenallt.
5 Pwy fu’n ‘sgwario’ mewn llun?
6 Un o ble oedd Julian yr ancres?
7 Beth yw’r gwin Nadolig delfrydol?
8 Pwy oedd perchennog y Grotrian-Steinweg?
9 Pwy oedd yn brif drombonydd gyda’r Morris Motors Silver Band?
10 Pwy ymunodd â’r Blaid Lafur yn 2016?
11 Faint o alcohol y gall pry-ffrwythau ei oddef?
12 Beth oedd drwgarfer Wil a Terence?
13 Pwy sy’n ‘fardd o ffotograffydd’?
14 Pwy wnaeth gyfarfod yn Llangrannog yn 1979?
15 Pwy oedd tad Gwenonwy?
16 Lle mae tafarn y Tom Collins?
17 Enwch gyfrol Alan S. Milward.
18 Pwy gafodd 33.7% o’r bleidlais?
19 Lle mae cyplau ifanc yn lapswchan?
20 Beth yw gwaith gŵr Claire?