Gwobr: Bocs o gaws Cymreig gwerth £70
Cyfle i ennill detholiad o saith caws Cymreig gyda chracyrs a siytni, gan y Welsh Cheese Company.
Mae siopau’r busnes yn cynnig dewis eang o gawsiau Cymreig ac mae eu siop ym Mharc Fictoria, Heol Ddwyreiniol y Bont‑faen, Caerdydd (CF5 1BE), hefyd yn far caws a gwin sydd ar agor bob dydd a hyd fin nos ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
www.welshcheesecompany.co.uk
ATEBION RHWNG Y CLORIAU
Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn cyfredol, dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau (na’r lluniau) o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.
Anfonwch eich atebion, gyda’ch enw, eich cyfeiriad post ac e‑bost, at swyddfa@barn.cymru erbyn 6 Chwerfror 2026.
Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn ymddangos yn rhifyn Mawrth.
1 Darn o ba gêm fwrdd sy’n cuddio dan y soffa?
2 Faint o gyflenwad trydan y byd a lyncwyd gan Ganolfannau Data yn 2020?
3 Beth yw cerbyd y canwr gwlad crwydrol?
4 Pa anifail sy’n cynnig sylwebaeth ar fywyd wrth edrych dros y cwm?
5 Beth sy’n llenwi bwlch yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol?
6 Tafod pwy sydd yn ei foch wrth weu stori o gwmpas traddodiad Cymreig?
7 Pregeth pwy oedd Cymunedoli Cariad?
8 Beth allai fod yn bwnc llosg adeg etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf?
9 Beth ddylai pob awdur creadigol o bob oed fod yn ymwybodol ohono?
10 Pwy ddaru ddim cyrraedd ar gyfer y spaghetti bolognese a’r crymbl afal?
11 Pa brifysgol yng Nghymru sy’n rhan o’r Russell Group?
12 Beth yw enw cynhenid Ogwen Falls?
13 Beth sydd ar bob cenedl ei angen yn ôl y plât?
14 Ar diwlips pwy yr ymosododd Annette?
15 Yn lle mae James Dean Bradfield yn canu yn Gymraeg am y tro cyntaf?
16 Pwy alwodd newid hinsawdd yn ‘con job’?
17 Perfformiad pwy oedd yn ‘agos at fod yn berffaith’?
18 Pwy sy’n berchen ar ‘bendantrwydd tawel’?
19 Beth yw nod grŵp Cant i Gymru?
20 Pwy oedd aelod cyntaf Plaid Cymru?