Thema dywyll Thema golau

Cwis i’n darllenwyr

Gwobr: Taleb £100 gan CannaDeli, Caerdydd

Caffi Cymreig yw CannaDeli (@cannadeli), wedi’i leoli ym Mhontcanna, Caerdydd (CF11 9DF / 07767 726902). Ers agor ei ddrysau dros ddeng mlynedd yn ôl, mae wedi mynd o nerth i nerth drwy ganolbwyntio ar hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau Cymreig.

ATEBION RHWNG Y CLORIAU

Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o Barn dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau (na’r hysbysebion, sylwer!) o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.

Anfonwch eich atebion, gyda’ch enw, eich cyfeiriad post ac e‑bost, at swyddfa@barn.cymru erbyn 7 Medi 2026.

Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn ymddangos yn rhifyn Hydref.

1 Lle’r oedd Sgot?

2 Pwy dalodd i ferch ifanc fod yn aelod o blaid wleidyddol?

3 Beth sy’n ‘hanner y lefel yn Lloegr’?

4 Ym mha flwyddyn y digwyddodd yr ‘ystryw athrylithgar’?

5 Beth yw Gaztea?

6 Ym mha ddrama y bydd Owen Alun yn actio cyn bo hir?

7 Beth oedd gwaith y Nigeriad ifanc?

8 Yn lle cewch chi Flwyddyn Drawsnewid?

9 Beth oedd unwaith yn ‘jom iet’?

10 Pwy sy’n ‘llawiau’?

11 Beth fydd i’w weld ar 24 Gorffennaf?

12 Lle cawn ni hanes Iola Sawl Bola?

13 Beth ddigwyddodd am 11.46 p.m?

14 Sawl Manon Steffan Ros oedd yna yn Springfield?

15 Lle mae Sommelier gorau Prydain?

16 Pwy gyhoeddodd lyfr yn 1915?

17 Am beth y talwyd £76?

18 Enwch gyfrol Timothy Morton.

19 ‘Mam Cymru’ – pwy oedd hi?

20 Beth ddigwyddodd ym Mart Aberteifi?

< Yn ôl

Andy Burnham – Mr Awyr Iach y Gogledd?

Ymlaen >

Rhai o gyfranwyr y rhifyn