Dechreuwyd y cwlt hwn yn hwyr mis Ionawr pan bleidleisiodd cyfranddalwyr menter Y Byd i ddal at y freuddwyd, er gwaethaf mwy na hanner degawd o fethiant o ran ymdrechion Dyddiol Cyf; er gwaethaf diffyg cynllun busnes realistig; er gwaethaf y dirywiad cyson ymhlith papurau newydd ledled y byd.
Fe’m hatgoffwyd gan y Bydiaid am ddechreuadau Tystion Jehofa, sef y bobl glên hynny a gnocia ar eich drws pan ydych chi’n brysur yn gwylio Y Dywysoges Fach, ac yn gofyn a fyddech chi’n hoffi copi o’r Watchtower. Sefydlwyd Tystion Jehofa gan Charles Taze Russell, pregethwr o Bensylfania a oedd wedi proffwydo y byddai diwedd y byd yn cyrraedd ym mis Ebrill 1878. Pan aeth yn fis Mai 1878, roedd yna gryn lawer o wynebau coch ymhlith cynulleidfa’r hen C.T.R., ond penderfynodd nifer ohonynt roi cyfle arall iddo. A dyna fe’n proffwydo Dydd y Farn eto; ond y tro yma roedd yn ddigon call i beidio rhoi dyddiad penodol i’r peth.
Mwy na chanrif yn ddiweddarach, mae’r Tystion Jehofa’n dal ati o hyd. Tybed a fydd yr un peth yn wir am y Bydiaid? Gallaf ddychmygu person yn y flwyddyn 2150, yn cerdded (neu’n hofran – efallai y bydd cerdded yn passé) lan Heol y Frenhines yng Nghaerdydd ac yn ceisio osgoi aelod o’r Bydiaid sy’n dosbarthu taflenni ac yn gwisgo arwydd yn dwyn y geiriau ‘MAE DECHRAU Y BYD YN AGOS’.
Wrth gwrs fel Americanwr, rydw i o blaid y fath beth – mewn ystyr athronyddol. Mae gwlad fy ngeni yn gartref i bob math o grefydd anghonfensiynol. Ond hefyd rydw i’n credu y dylai fod gwahaniad rhwng crefydd a’r llywodraeth. Hynny yw, pob lwc i’r Bydiaid yn eu hymdrech afrealistig, ond ddylen nhw ddim cael arian cyhoeddus ar ei chyfer. Beth bynnag wnaiff y Bydiaid o hyn ymlaen, nhw, a nhw yn unig, ddylai fod yn talu amdano.
Rydw i’n sylweddoli yr ymddengys fy mod i’n swingio bwyell yn beryglus o agos i’r cash cow trwy awgrymu na ddylai fod cymorth ariannol i fenter Y Byd. Wedi’r cyfan, onid ydw i’n ysgrifennu colofn i gylchgrawn sy’n cael y fath arian? Sut allwn i fod yn erbyn y syniad o arian i gefnogi’r cyfryngau Cymraeg? Ond, wrth gwrs, dwi ddim yn erbyn y fath beth. Mae yna wahaniaeth mawr, amlwg rhwng Y Byd a Barn. Mae Barn yn bodoli. Dyma fe, yn eich dwylo chi, ar hyn o bryd; petaech chi’n Matt Damon yn The Bourne Supremacy, gallech chi rolio’r cylchgrawn a’i ddefnyddio i’ch amddiffyn eich hunan rhag asasin. Neu mae’r cylchgrawn yn bodoli ar eich cyfrifiadur trwy http://www.cylchgrawnbarn.info/. Ond er gwaethaf hanner degawd o addewidion Dyddiol Cyf, nid yw’r naill beth na’r llall yn wir am Y Byd.
Ac erbyn hyn mae’n rhy hwyr iddo. Ym mhob cornel o’r byd mae papurau newydd yn cwympo neu’n cael trafferth i barhau. Enghraifft dda yw’r New York Times. Mae’n bapur newydd enfawr, dylanwadol-o-gwmpas-y-byd, sy’n siglo dan straen y tueddiadau cyfoes. Mae rhai’n credu y gallai’r papur ddod i ben. Mae yna nifer o resymau am y problemau hyn, ond un o’r rhai amlycaf yw bod rhagor a rhagor o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd i gael eu newyddion.
Cyn y trobwynt ym mis Mai 2008 pan ddosbarthwyd arian cyhoeddus i fenter wahanol, ar y we – a achosodd ychydig o chwalu ymhlith y ffyddloniaid – roedd yn amlwg mai papur print yr oedd Y Bydiaid yn dyheu amdano. Roeddent eisiau rhywbeth go iawn i’w chwifio mewn wynebau Seisnig fel tystiolaeth o ddilysrwydd yr iaith Gymraeg. A dyna i chi’r broblem i’r Bydiaid: doedd y peth erioed am ddarparu newyddion. Yn y bôn, doedd gan y bobl a honnai fod ganddynt y gallu i adrodd ar faterion cyfoes ddim gafael ar y byd cyfoes. Roedd yn ymdrech ffantasi.
OK, oedd, yn y blynyddoedd diweddarach roedd yna sôn am ddatblygu gwefan, ond roedd yn sôn amwys, anhrefnus ac afrealistig. Wrth edrych yn ôl trwy hen flog Y Byd, gwelir nad yw’r wefan yn cael ei chrybwyll tan fis Mehefin 2007 – rhyw ddegawd ar ôl i wefan newyddion y BBC gael ei lansio, a rhyw dair blynedd a hanner ar ôl i’r BBC gyhoeddi y byddai papur newydd dyddiol Cymraeg yn bodoli ‘mewn blwyddyn’. Ac roedd Dyddiol Cyf yn disgwyl i bobl dalu am danysgrifiad i’w gwefan. Dyna rywbeth a gafodd ei drio gan bapurau newydd yn y nawdegau – a rhywbeth a fethodd.
Bellach mae gan Golwg yr arian cyhoeddus dymunol hwnnw (mae gennyf ryw deimlad/obaith y bydd eu gwefan yn cael ei lansio yn fuan, felly ni chwynaf am ei diffyg). Ac mae gan y Bydiaid eu gobeithion. Pleidleisiodd mwy na 85% o’r Bydiaid o blaid parhau gyda’u breuddwyd. Am wn i, does ganddynt yr un cynllun na syniad ar gyfer y dyfodol. Fel y d’wedais, pob lwc iddynt. Ond petaen nhw’n mynd ati i gnocio ar ddrws y llywodraeth i ofyn am arian eto, gobeithio na fyddant yn cael ateb.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
