Thema dywyll Thema golau

Cwmni yn y cyfnod clo

erthygl-medi-2020-2141-1044 erthygl-medi-2020-2141-1044
Adolygiad o Cynan – Drama Bywyd Albert Evans Jones gan Gerwyn Wiliams (Y Lolfa, £19.99, allan ddiwedd Medi) Nid yw llenorion degawdau agoriadol yr ugeinfed ganrif fel petaent am lacio’u gafael ar ddychymyg a sylw degawdau agoriadol yr unfed ar hugain. Gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf gofiannau i Owen Morgan Edwards, T. Gwynn Jones a T.E. Nicholas – ac mae eraill (i Ifor Williams ac R.T. Jenkins) ar y gweill. A dyma groesawu i’w plith y gyfrol hynod sylweddol a hynod ddarllenadwy hon am y ‘ffenomen unigryw’ hwnnw, Cynan. Mae’n waith cyforiog. Dilynir y gwrthrych o’i gartref ym Mhwllheli i Goleg Bangor, ac oddi yno i Facedonia, lle gwasanaethodd fel caplan. Adroddir am ei fuddugoliaethau eisteddfodol, gan gynnwys y bryddest ‘Mab y Bwthyn’ yn 1921, a’i ymwneud â’r Eisteddfod Genedlaethol, fel Cofiadur ac Archdderwydd a phensaer ei seremonïau. Olrheinir ei hanes fel tiwtor a siaradwr cyhoeddus, fel pregethwr a dramodydd a sensor – ac, yn ystod ei flwyddyn lawn olaf y rhan flaenllaw a chwaraeodd yn hanes Arwisgiad ‘Croeso ’69’.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-medi-2020-2139-1043

Man gwyn man draw – tybed?

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Medi