Thema dywyll Thema golau
Prysurdeb wyna mewn printiau
Cwmwl Tystion – sgwrs â’r trwmpedwr Tomos Williams
Cofio athrylith William Mathias

Cwmwl Tystion – sgwrs â’r trwmpedwr Tomos Williams

Tomos Williams yn chwythu ei drwmped Tomos Williams yn chwythu ei drwmped
Gyda thaith ym Mai a Mehefin yn benllanw dy brosiect Cwmwl Tystion, wnei di sôn ychydig am y syniad sy’n sail i’r prosiect? O ble y daeth a pham? Roeddwn i’n awyddus i greu prosiect jazz Cymreig a Chymraeg, a fyddai’n dwyn ysbrydoliaeth o’n llenyddiaeth, ein diwylliant a’n profiadau ni fel Cymry. Mae jazz yn gyd-destun eang, yn fyd o brofiad ynddo’i hun, felly roedd y syniad o archwilio Cymru yn y cyfrwng hwnnw, yn ogystal â thrio rhoi i jazz beth o flas diwylliannau Cymru, yn ysgogiad pendant. Daw’r enw Cwmwl Tystion o’r gerdd ‘Pa Beth yw Dyn?’ gan Waldo Williams. Roedd y teitl hwnnw’n ffordd o dynnu nifer o wahanol linynnau at ei gilydd o’r dechrau un: mae sail Beiblaidd iddo ond mae e hefyd yn sianelu’r traddodiad Affro-Americanaidd a’r syniad o ‘dystiolaethu’, fel petai, bearing witness. Fe ddefnyddiais i ‘Witness’ fel teitl ar gyfer pennod gynta’r prosiect a chadw Cwmwl Tystion wedi hynny, er mwyn ‘tystiolaethu’ agweddau pellach ar y profiad Cymreig, y da a’r drwg.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Eleri Jones yn ei harddangosfa

Prysurdeb wyna mewn printiau

Ymlaen >
William Mathias wrth Bont Menai, tua 1981.  Roedd yn byw ym Mhorthaethwy.

Cofio athrylith William Mathias