Thema dywyll Thema golau

Cwrs y Byd – Cestyll ein Balchder

Am flynyddoedd roeddwn i’n un o’r rhai na fyddai wedi mynd ar gyfyl y castell dros fy nghrogi. Yn araf, fodd bynnag, roedd rhywun yn dod i ddeall bod Cymreictod yn fwy gwydn nag yr oeddem ni wedi ei sylweddoli. Un mis ar ddeg yn unig ar ôl yr Arwisgiad, yn Etholiad Cyffredinol 1970, daeth Plaid Cymru yn Arfon o fewn trwch blewyn i ddisodli Llafur. Hi, fel y blaid a oedd mewn llywodraeth ar y pryd, oedd wedi trefnu’r Arwisgiad, yn rhannol er mwyn ceisio torri crib cenedlaetholdeb. Enillodd Plaid Cymru’r sedd yn yr Etholiad nesaf yn 1974 ac mae hi wedi ei chadw byth oddi ar hynny. Yn 1974 hefyd y ffurfiwyd Cyngor Sir Gwynedd. Amherffaith a ffaeledig iawn fu’r Cyngor hwnnw mewn sawl dull a modd ond heb yr esiampl a roddodd Gwynedd i Gymru gyfan o sut i roi parch a bri i’r Gymraeg – ac ar ei defnyddio hi fel iaith weinyddol – byddai’r Gymraeg wedi bod ar ei cholled yn arw. Yn enwedig o gofio nad oedd yr un ohonom ar y pryd yn sylweddoli am eiliad y byddai’r mewnlifiad mawr i gefn gwlad yn Seisnigo hen bentrefi ôl-chwarelyddol Sir Gaernarfon hyd yn oed erbyn y ganrif bresennol.

Drwy’r cyfan, yng nghysgod castell Caernarfon yn llythrennol, bu dynion a merched yn gwneud eu gorau, pa mor annigonol neu annoeth bynnag fu’r gorau hwnnw yn aml, i geisio creu gwleidyddiaeth o natur ac anian Gymreig. Arloesodd Gwynedd. A bellach, mewn Cymru sy’n ymddangos yn ddigon hyderus i fynnu’r hawl i ddeddfu heb ganiatâd Llundain, mae’r fath beth i’w gael â gwleidyddiaeth genedlaethol Gymreig benodol. A gwleidyddiaeth yw honno a gofleidiwyd gan bob un o’n prif bleidiau gwleidyddol, er clod iddyn nhw. Dyna gamp fawr datganoli.

Er gwaethaf ein holl broblemau economaidd mae Cymru’n fwy hyderus ac yn fwy sicr o’i hunaniaeth nag yr oedd hi yn 1969. Dyna pam y gallwn ni bellach ymhyfrydu yn y ffaith bod ymwelwyr wedi gwirioni ar ein cestyll. Bu VisitBritain – sef Awdurdod Twristiaeth Prydain – yn holi 10,000 o ymwelwyr tramor â’r ynysoedd hyn. O holl atyniadau Prydain, cestyll Cymru oedd y ffefryn. Yn ail daeth Palas Buckingham! Fe gurodd ein cestyll Gôr y Cewri, gwylio gêm bêl-droed Uwch Gynghrair a siopio yn Harrods. Fe guron nhw’r cyfan.

Ein lle ninnau yw manteisio i’r eithaf ar ein 641 o gestyll – hyd yn oed rhai Edward I. Neu’n hytrach, yn arbennig rhai Edward I. Mae cadernid eu hadeiladwaith yn deyrnged i nerth a gallu’r Tywysogion Cymreig. Yn enwedig felly yn achos castell Caernarfon. Meddyliwch am y peth. Roedd hi’n Ragfyr 1282 ar y Saeson yn lladd Llywelyn ap Gruffudd. Yn syth bin yn 1283, heb oedi dim, aeth Edward 1 ati i godi castell Caernarfon. Roedd ei fwriad yn amlwg. Ond fe fethodd. Caernarfon, heddiw yn yr unfed ganrif ar hugain, yw’r dre Gymreiciaf yn y byd. A ni sydd biau’r castell. Symbol o’n darostyngiad oedd o. Bellach mae’r castell yn symbol godidog o’n goroesiad.

Ond fel y dywedodd Michael Houlihan, cyn Gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru, nid lleoliad deniadol yng ngorllewin Prydain efo llawer o gestyll a mynyddoedd yw Cymru. Rydan ni’n genedl. Mae gan y genedl honno ei stori. Defnyddiwn ein hatyniadau i ddweud y stori honno wrth y byd.

Meddiannwn ein cestyll. A meddiannwn ein diwydiant twristiaeth.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Beth yw Buddugoliaeth?

Ymlaen >

Obama ac Israel: Persbectif Pesimistaidd