Thema dywyll Thema golau

Cwrs y Byd: Oscar a Ched

Vaughan Hughes

Fel yr hed y frân – nid fod y frân, mewn gwirionedd, yn mudo o gwbl o’r ynysoedd hyn –  mae yn agos i chwe mil o filltiroedd rhwng Pretoria yn Ne Affrica a Chaernarfon yng Ngwynedd. Ond cysylltir nhw, os nad gan frain, yna’n sicr gan ddau dderyn drycin. Yn ystod Hydref eleni rhyddhawyd Ched Evans, pêl-droediwr 25 oed, o garchar. Bu dan glo am union hanner y ddedfryd o bum mlynedd a dderbyniodd wedi i reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ei gael yn euog o dreisio merch 19 oed.

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach carcharwyd, hefyd am bum mlynedd, un arall o sêr y campau, Oscar Pistorius, mabolgampwr 27 oed. Roedd o wedi ei gael yn euog o ladd – ond nid o lofruddio – ei gariad. (Culpable homicide maen nhw’n galw’r drosedd yn llysoedd De Affrica, term sy’n cyfateb, fwy neu lai, i’r hyn a elwir yma yn ddynladdiad.) Roedd Pistorius wedi tanio pedair ergyd o’i wn drwy ddrws ystafell molchi’r ty a rannai â’i gariad. Gwnaeth hynny yn y gred, meddai yn ei amddiffyniad, bod lleidr wedi torri i mewn i’r ty. Fel y gwyr y byd bellach doedd dim lleidr ar gyfyl y lle. Dim ond ei gariad 29 oed.

Dyn gwyn yw Pistorius a dynes wen oedd ei gariad. Hyd yn oed ar ôl dymchwel trefn felltigedig apartheid mae lliw croen yn dal i fod yn arwyddocaol yn Ne Affrica – yn enwedig gan fod y cyhuddedig yn ddyn gwyn goludog ac enwog. Dyma, wedi’r cyfan, eilun rhyngwladol a lwyddodd, er iddo golli ei ddwy goes, i redeg yn y gemau Olympaidd agored yn ogystal â’r gemau Paralympaidd.

Roedd yn arwyddocaol hefyd mai dynes ddu a ddewiswyd gan yr awdurdodau i fod yn farnwr, mewn achos a deledwyd yn fyd-eang. Efo pob cyfiawnhad ymfalchïai’r wladwriaeth yn y cynnydd calonogol mewn cydraddoldeb a wnaed er 1994. Mor ddiweddar â hynny, cofier, y daeth De Affrica’n wlad ddemocrataidd. Pa well cadarnhad o’r newid a fu na gweld Thokozile Masipa, dynes o Soweto, treflan y gorthrwm, a’r hynaf o ddeg o blant, yn eistedd mewn barn ar Oscar Pistorius o bawb?

Ond gocheled neb rhag bod yn hunanfodlon. Amlygodd yr achos wedd frawychus ar ddiwylliant De Affrica yn yr 21g., yn enwedig diwylliant y dinasoedd. Fel yn Unol Daleithiau America mae ymlyniad cynifer o Dde Affricanwyr wrth y gwn yn destun pryder dwfn. Chwi gofiwch fod Pistorius, saethwr hyfforddedig, wedi cael ei gyhuddo hefyd yn yr un llys, a’i gael yn euog, o danio gwn mewn ty bwyta. Am hynny derbyniodd ddedfryd ohiriedig o dair blynedd yng ngharchar.

Yn achos Ched Evans (talfyriad o Chedwyn, gyda llaw) argyhoeddwyd y rheithgor bod Miss X yn rhy feddw, mewn gwesty yn Rhuddlan yn oriau mân un bore, i gydsynio i gael rhyw efo Ched Evans, streicar Sheffield United, a’i gyfaill, pêl-droediwr arall, Clayton McDonalds, amddiffynnwr tîm Port Vale. Â’r ddau ddyn wedi cyfaddef iddyn nhw gael rhyw efo’r ferch, wn i ddim pam mai Ched yn unig a gyhuddwyd o’i threisio. Yn enwedig gan iddi ddweud mewn tystiolaeth nad oedd hi’n cofio cael rhyw efo ’run o’r ddau...



Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Gwannaf Gwaedded

Ymlaen >

Sebon yn dod i oed