Thema dywyll Thema golau

Cwrs y Byd – RS

Nid ymwelydd â Chaergybi, fodd bynnag, ond un a fagwyd yn yr hen borthladd sy’n cael fy sylw i’r mis hwn. Mae eleni’n ganmlwyddiant geni’r bardd R.S. Thomas, deryn drycin arall. Ond fe wnaeth o lai o ddifrod o lawer na’r ddiweddar Brif Weinidog. Mae ei lle hi yn y llyfrau hanes yn ddiogel am genedlaethau lawer ond synnwn i ddim na fydd barddoniaeth R S yn para’n hirach hyd yn oed na bywyd ac anfadwaith Thatcher. Yn wir, mae pob lle i gredu y bydd ei gerddi ef yn cael eu darllen tra pery’r iaith Saesneg.

Jôc chwerw ydi hynny, mewn gwirionedd. Ei feistrolaeth o’r Saesneg a ddaeth â bri rhyngwladol iddo. Ac eto roedd y ddawn fawr honno hefyd yn dân ar ei groen – neu’n hytrach, fel y dywedodd o mewn cyfweliad wnes i efo fo yn Ebrill 1996, ‘yn graith ar fy enaid’. Am iddynt ei amddifadu o’r Gymraeg, cyfeiriai’n chwerw at ei rieni fel Sais-Gymry. A dyna’r term a ddefnyddiai – yn gwbl gyfeiliornus – i ddisgrifio’r Cymry di-gymraeg yn eu crynswth. Ond ei rwystredigaeth bersonol ei hun oedd yn gyfrifol am hynny, rhwystredigaeth a ddeilliai o’r ffaith eironig mai drwy’r Saesneg yn unig y gallai ef fynegi mewn barddoniaeth ei anian a’i angerdd Cymreig. Uniaith yw awen bardd, neu fel y mynnai Robert Frost, ‘Barddoniaeth yw’r hyn a gollir mewn cyfieithiad’.

Fel y soniais eisoes, cyfwelais R S droeon. Ym Mangor Uchaf y gwnes i hynny gyntaf yn Chwefror 1978 yn ystod gorymdaith brotest yn erbyn diarddel myfyrwyr a oedd wedi dwyn 3,000 o ffeiliau o swyddfa’r prifathro. Holais ef wrth iddo frasgamu heibio Ysbyty Môn ac Arfon i gyfeiriad y coleg. Taranai’n huawdl yn erbyn Syr Charles Evans, y pennaeth, a’r cynlluniau i Seisnigo’r coleg drwy ei ehangu’n sylweddol. Ar ôl gorffen y sgwrs Gymraeg, gofynnais iddo am gael gwneud yr un peth yn Saesneg. ‘Na,’ meddai’n blwmp ac yn blaen, ‘Tydi o ddim busnes i’r Saeson’. A gyda hynny diflannodd heibio i hen gapel Twr Gwyn.

Ond roedd o’n ddigon parod i gael ei gyfweld yn Saesneg yn 1980 ar gyfer rhaglen a gynhyrchais i HTV ar gyfer rhwydwaith Brydeinig ITV am y tanau tai haf dan y teitl, A Real Fire. O wybod am ei amharodrwydd diarhebol i gael ei holi yn Saesneg doeddwn i ddim yn sicr o gwbl a fyddai’n cytuno ai peidio i gymryd rhan. Ond derbyniodd yn llawen. Gyda’r direidi hwnnw y byddai’n ei guddio rhag Saeson – a rhag Cymry nad oedd o’n eu hoffi – dywedodd: ‘Mae o’n gyfle i ddychryn y Saeson a chadw ambell un ohonyn nhw oddi yma’n llwyr, gobeithio’. Ar ôl iddo broffwydo ar gamera y byddai’r mwyafrif o dai haf Cymru’n lludw cyn y gaeaf, dwi’n cofio awgrymu i R S ei fod o’n gor-ddweud pethau, braidd. ‘Wrth gwrs fy mod i,’ atebodd, a dechrau chwerthin yn braf. Dwi’n reit siwr mai dychryn Saeson oedd ei hobi a’i bennaf difyrrwch.

Roeddwn i wedi cyfarfod R.S. Thomas am y tro cyntaf ym 1968 yn lled fuan ar ol iddo fo ymgartrefu yn Aberdaron. Fy mwriad i a’r diweddar Peter Davies – Pete Goginan – oedd mynd efo’n gilydd i Goleg Pencraig, Llangefni i glywed R S yn darllen ei gerddi. Ond gwnaeth Goginan a minnau’r camgymeriad o drefnu cyfarfod ein gilydd yn y Bull. Pan ddaeth hi’n adeg inni ei throi hi am Bencraig roedd yr hen gyfaill wedi setlo cystal wrth y bar fel na allai feddwl am newid aelwyd.

Ar fy mhen fy hun y cychwynnais am Bencraig. Wrth garej Ford stopiodd Mini Countryman gwyn a gofynnodd y gyrrwr imi am gyfarwyddiadau i Goleg Pencraig. Gan adleisio H.M. Stanley wrth i hwnnw, bron i ganrif union ynghynt, gyfarch Livingstone ar lan Llyn Tanganyika, llefarais innau’r geiriau.: ‘R.S. Thomas ydach chi yntê’. Dywedais mai ar fy ffordd i’w weld oeddwn i. Gan gynnig ei dywys i’w gyhoeddiad, gyda hyder ieuenctid, neidiais i’w gar heb aros am wahoddiad a chyrraedd Coleg Pencraig yng nghwmni’r bardd.

Cofiaf imi gael fy ngwefreiddio’r noson honno gan ei ddarlleniadau o gerddi Iago Prytherch a’r ddeuoliaeth yn ei agwedd tuag at Iago a thuag atom ninnau, yr ‘impotent people / sick with in-breeding / worrying the carcase of an old song’.

Cofiaf rywbeth arall am y noson honno hefyd. Pan wahoddwyd y gynulleidfa i gynnig sylw neu ofyn cwestiwn, cododd un o wragedd mwyaf mawreddog Llangefni ar ei thraed a dweud wrth R S ei bod hithau fel yntau yn sgwennu poetri yn Saesneg. ‘Meddwl oeddwn i, Mr Cadeirydd,’ medda hi, ‘y byddai Mr Thomas yn fodlon cymryd golwg ar fy ngherddi i.’ Daeth yr ateb cyn iddi gael eistedd. Un gair. Dyna’r cyfan: ‘Na.’

Yn dilyn marwolaeth R S yn 2000 fe gefais i’r fraint o lunio rhaglen goffa iddo fo ar gyfer S4C. Difyr oedd clywed gan y Canon William Lloyd Jones yn Llyn am yr achlysur pan wysiwyd offeiriaid yr esgobaeth i Fangor i gael eu hannerch gan yr esgob ei hun. Wedi i hwnnw orffen, gwnaeth y deon beth ffôl. Gwahoddodd R S i ddiolch i’r esgob, ar ran y trwps, am ei eiriau doeth. ‘Na,’ unwaith eto oedd ateb R S. Ond y tro hwn ymhelaethodd: ‘Doeddwn i ddim yn gwrando.’

Gofalai am stondin CND Cymru efo’r dramodydd W.S. Jones ar y Maes ym Mhwllheli ar foreau Sadwrn yn yr wythdegau. Byddai Wil Sam wrth ei fodd yn adrodd sut y byddai  R S yn hoffi meddwl ei fod o’n medru adnabod Saeson o bell. ‘Drychwch ar hwn W S,’ dywedai, gan gyfeirio at rywun a oedd yn dod i’w cyfeiriad. ‘Fe fedrwch chi ddweud wrth ei osgo fo mai Sais ydi o.’ Ond bron yn ddieithriad, byddai’r honedig Sais yn mynd heibio gan eu cyfarch yn rhadlon mewn Cymraeg glân gloyw.

Fe gafodd Thatcher ei diwrnod mawr. Deng miliwn o bunnau o sbloet. Cafodd ei chladdu fel brenhines. Ond ar achlysur canmlwyddiant ei eni mae R.S. Thomas yn cael blwyddyn fawr. Ym Mhrifysgol Bangor mae arddangosfa o ddefnyddiau o archif Canolfan R S yn ei hen goleg. Ar 25 Mai cofir amdano yng Ngwyl y Gelli. Ar 27 Mehefin cynhelir Diwrnod R.S. Thomas yng Ngwyl Gregynog. Ddeuddydd yn ddiweddarach bydd taith lenyddol R S yn Aberdaron. Mae’r digwyddiadau hyn yn arwain at yr hyn a ddylai fod yn uchafbwynt y cofio, darlith R.S. Thomas ar 11 Rhagfyr gan Rowan Williams ym Mhrifysgol Bangor.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Mewn undod mae nerth? Heddlu cenedlaethol newydd yr Alban

Ymlaen >

Teledu - Gwyliwr disgwylgar