Mae’n drueni o’r mwyaf bod hanes fel petai’n ei ailadrodd ei hun. Heddiw eto mae pobol wrth eu miloedd yn methu fforddio cynhesu eu tai yn ddigonol. Ac mae gwaeth i ddod. Ar hyn o bryd pris tanwydd yw’r broblem. Ond fe ddaw’r dydd, a hynny’n frawychus o fuan, pan na fydd digon o danwydd ar gael o gwbl. Ddim am unrhyw bris. Os na fyddwn ni’n gweithredu’n ddiymdroi.
Cyn ymhelaethu ar hynny, fodd bynnag, caniatewch imi grwydro mymryn.
Yn ddiweddar clywais seicolegwraig a adnabyddir fel un o gurus pennaf Ewrop yn sôn am y dröedigaeth a gafodd hi wrth wrando ar Radio 4 yn ei char. Mae Claire Howells yn cael ei disgrifio yng nghofiant David Torrance i Alex Salmond fel y wraig a feiriolodd ddelwedd Salmond, dweud wrth yr SNP am roi’r gorau i gwyno drwy’r adeg, ac argyhoeddi’r blaid mai hi fyddai’n ffurfio llywodraeth yr Alban. Er gwybodaeth, hi yw prif weithredwr REDco, RED am Really Effective Development.
Ar hyd ei hoes bu Claire Howells yn erbyn ynni niwclear. Ar hyd ei hoes, hynny yw, nes iddi, yn Chwefror eleni, ddigwydd clywed rhaglen dan y teitl The Life Scientific. Roedd yr Athro Jim Al-Khali, Pennaeth Ffiseg Prifysgol Surrey, yn sgwrsio efo Sue Ion, cyn-bennaeth British Nuclear Fuels. Cydnabyddir gan bawb mai hi, yn anad neb, a fu’n gyfrifol am argyhoeddi Llywodraeth y DU yn 1998 y byddai’r goleuadau’n diffodd ym Mhrydain os na eid ati i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o atomfeydd.
Y ddawn i adnabod malwyr awyr a thwyllwyr yw un o gryfderau mawr Claire Howells yn ei gwaith bob dydd. Ond mewn cwta hanner awr o wrando ar Sue Ion roedd rhagfarnau Claire yn erbyn ynni niwclear wedi cael eu sgubo ymaith.
Dadl waelodol Sue Ion yw nad yw hi’n bosib cynhyrchu’r ynni sydd ei angen arnom 24x7, 365 diwrnod y flwyddyn, bob blwyddyn o ffynonellau adnewyddol. Y mwyaf effeithlon o’r rheini yw tyrbini gwynt enfawr allan yn y môr ond byddai angen 1,500 ohonyn nhw i gynhyrchu’r un faint o drydan ag un orsaf niwclear. Ychwanegodd y byddai 1,500 tyrbin o’r fath yn defnyddio gofod sy’n cyfateb i arwynebedd Llundain gyfan. Diwedd y gân, yn ôl Sue Ion, yw y bydd pob atomfa ym Mhrydain, ar wahân i Sizewell B, wedi cael eu diffodd erbyn 2025. Fe awn ni o 20% o ddibyniaeth ar drydan niwclear i 3%. A dyna, meddai hi, pryd y bydd y golau’n diffodd…
Yn rhifyn diwethaf Barn (rhifyn 602, Mawrth 2013), roedd yr Athro Glyn O. Phillips, un o gefnogwyr mwyaf selog ynni nuclear, yn sgwennu’n onest am ei bryderon ynglYn ag un agwedd o’r cynlluniau arfaethedig. Gofidiai ymhellach nad oes odid ddim trafodaeth aeddfed ac agored ar faterion niwclear, a bod y naill ochr a’r llall yn ddall a byddar i ddadleuon ei gilydd. Yn y gobaith nad rhai felly yw’r cyfan o ddarllenwyr y cylchgrawn hwn, rwyf yn eich annog yn daer i roi cwta hanner awr o’ch amser i wrando ar y cyfweliad efo Sue Ion. Ewch i http://www.bbc.co.uk/programmes/b015sqc7 i’w chlywed yn ei chyfanrwydd.
Soniais mai Claire Howells fu’n rhoi cyngor i Alex Salmond. Fel yr adroddwyd eisoes yn y wasg, mae Leanne Wood hefyd yn un o’i chleientau. Ydan ni am ein paratoi ein hunain ar gyfer tröedigaeth arall?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
