Thema dywyll Thema golau

Cwrs y Byd

Pobol ifanc hefyd oedd y rhai cyntaf i heidio i Foriah, Casllwchwr yn 1904 i glywed gwr 24 oed o’r enw Evan Roberts yn cynnau tân a ymledodd drwy Gymru. Un gwahaniaeth rhwng newyddiadurwyr 1904 a rhai 2013 yw bod y Western Mail wedi deall yn syth bod y Diwygiad yn Stori Fawr. Aeth y papur ati i’w hyrwyddo’n ddeheuig. Gwerthwyd ffotograffau o’r diwygiwr golygus ‘with facsimilie signature’ am dair ceiniog yr un, fel pe bai Evan Roberts yn un o selébs ein dyddiau ni. Argraffwyd lluniau hynod ddeniadol hefyd o’r merched hardd a gynhesai’r cynulleidfaoedd cyn i’r diwygiwr ymddangos.

Ond difaterwch yw ymateb cyfryngau heddiw i ffenomen Cwmbrân. Ar wahân, wrth gwrs, i eitem mewn rhaglen grefydd am wyth o’r gloch ar fore Sul, ar orsaf nad oes fawr o neb yn gwrando arni.

Dwi’n gwybod i sicrwydd y byddem ni, newyddiadurwyr rhaglenni teledu Y Dydd a Heddiw, cyn dyfodiad S4C, wedi rhoi sylw i’r stori. A gellwch fentro y byddai Richard Taylor, y diwygiwr, ynghyd â Delyth, Eleri, Ffion a Sheena yn wynebau cyfarwydd i Gymru gyfan bellach.

Sothach da a sothach sothach

Dwi’n berffaith siwr nad oes yr un o ddarllenwyr Barn yn llawenhau bod yr unig orsaf Gymraeg yn y byd yn parhau i golli gwrandawyr. Dengys y ffigyrau diweddaraf ostyngiad pellach o 6,000 yng nghynulleidfa Radio Cymru.

Gwir ddagrau pethau yw’r ffaith nad oedd hynny’n synnu neb. Rhybuddiwyd hyd at syrffed, ers blynyddoedd bellach, bod gormod o lawer o oriau’r orsaf yn cael eu llenwi gan rwdlian anghelfydd. A chyn i chi ofyn, oes mae’r fath beth i’w gael â rwdlian celfydd.

Cyfareddwyd miliynau o wrandawyr Radio 2 am ddegawdau lawer gan rwdlian ysbrydoledig Terry Wogan. A phe byddai’n weddus dweud, rwdlian yn aml fyddai Sulwyn Thomas hefyd. Ond roedd ei rwdlian yn anwylo Sulwyn yng ngolwg ei gynulleidfa nid yn ei ddieithrio oddi wrthi. Felly hefyd Jonsi, ar ei orau, – cyn i benaethiaid diddychymyg Radio Cymru ddisgwyl iddo rwdlian am deirawr y dydd, bum diwrnod yr wythnos, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid sothach da sy’n deillio o ddiogi creadigol o’r fath ond sothach sothach.

Os nad wyf yn methu’n arw, credaf mai Dafydd Glyn Jones fathodd yr ymadrodd ‘sothach da’ i ddisgrifio’r math gorau o lenyddiaeth boblogaidd.

A stwff poblogaidd oedd clasuron radio arloesol Sam Jones a ddaeth â’i fabi, y BBC, i Fangor yn 1936. Onid prawf o’i fentergarwch a’i flaengarwch yw’r ffaith bod dau o’i gynyrchiadau’n dal i fynd hyd heddiw ar y radio ac ar y teledu – Ymryson / Talwrn y Beirdd a Noson Lawen?

Nid bod yn elitaidd yw mynnu bod Radio Cymru’n darparu rhagor o sothach da a mwy o sylwedd difyr. Yn yr un modd, mae’n rhaid i’r orsaf ddysgu pryd y mae’n briodol i chwarae cerddoriaeth a phryd nad oes ei angen. Y bore Sul o’r blaen, am fod cynhyrchydd Dewi Llwyd wedi mynd ati i chwarae record yn syth bin, cyn cychwyn y drafodaeth ar y wasg, fe es i draw at Vaughan Roderick ar Radio Wales. Efo fo yr arhosais.

Ac un peth arall, glywsoch chi hysbysebion ‘Sgwrs’ ar Radio Cymru? Dyna’r enw tybiedig-slic ar ymarferiad PR yr orsaf. Gofynnir i’r cyhoedd sut y dylai’r penaethiaid wneud yr hyn y maen nhw’n cael eu talu i’w wneud! Fel rhan o’r heip holir: ‘Sut y gall Radio Cymru ehangu ei hapêl i’r rhai llai hyderus eu Cymraeg?’ Cwestiwn digon teg.

Ond oni fyddai’n rheitiach iddi’n gyntaf fynd ati i ehangu ei hapêl i’r rhai sy’n hyderus eu Cymraeg? Yn hyderus ond yn dewis peidio gwrando. Neu’n gwrando ar Radio Wales? Dwi’n clywed mwy a mwy o Gymry Cymraeg – fe dybiaf – o Wynedd a Dyfed yn ffonio i ddweud eu dweud ar raglen Jason Mohammad. A phwy all eu beio? Mae hi’n rhagori ar Taro’r Post. Cofiwch, mae gwaeth pethau o lawer na honno hyd yn oed i’w dioddef – neu eu hosgoi – yn foreol ar ein gwasanaeth cenedlaethol Cymraeg.

Dwi’n bod yn gas yn y gobaith y bydd rhywun yn mynd i’r afael â’r gwasanaeth yn ddiymdroi. Mae dirfawr angen gwneud hynny.

Yn eisiau: olwyn

Oes gan eich car olwyn sbâr? Ydach chi’n siwr? Roeddwn innau’n meddwl bod gen i un nes imi gael pynjar. Dychwelais at y car, 180 milltir oddi cartref (wrth gwrs) ar bnawn glawog (wrth gwrs) i ganfod bod gen i deiar fflat fel crempog. Ar ôl agor y gist, rhaid oedd ei gwagio o bob math o drugareddau er mwyn cael at yr olwyn sbâr sy’n llechu fel rheol mewn ffynnon yn llawr pob car a fu gen i erioed. Ond y ffynnon oedd wag! Yn lle olwyn sbâr yr hyn a oedd gen i oedd pibell, potelaid blastig o hylif tew, gludiog, a phwmp. Cyfarwyddwyd fi i gysylltu un pen o’r bibell wrth y botel a’r pen arall wrth yr olwyn. Yna rhaid oedd gwasgu’r hylif, fel gwasgu tiwb o bast dannedd, i mewn i’r teiar fflat cyn ei bwmpio. Digon yw dweud na wnaeth hynny ddim gweithio. Ddaru’r hylif ddim selio’r twll bychan bach yn y teiar. Sylw cyntaf dyn yr AA pan gyrhaeddodd i’m hachub oedd bod hwn yn ddigwyddiad diflas o gyfarwydd. Aeth â fi a’r car i garej teiars. Roedd dynion y teiars yn fwy huawdl. Esboniwyd imi fod y gwneuthurwyr ceir bellach yn arbed tua chanpunt y cerbyd drwy beidio darparu olwyn sbâr. Gocheler…

Syr Alex yng nghapel y Groeslon

Fedrai ddim peidio ychwanegu un atgof annileadwy at sylwadau Derec Llwyd Morgan (tud.50) am Syr Alex Ferguson. Ym Mai 2006 daeth rheolwr Manchester United i gyrion Dyffryn Nantlle i draddodi’r deyrnged yn angladd un o sgowtiaid talent y clwb pêl-droed, Huw Roberts – (Huw Man U) – y dyn ddaru ddarganfod Mark Hughes. Cododd Syr Alex ar ei draed yn y capel. Edrychodd am eiliad mewn distawrwydd ar y gynulleidfa cyn pwyntio ati a dweud, ‘Welsh’. Pwyntiodd wedyn ato fo ei hun. ‘Scottish,’ meddai. Yna, gyda gwên fawr ar ei wyneb, cyhoeddodd: ‘No English’. Saib dramatig. Ac yna’r dyfarniad: ‘Isn’t it wonderful!’

Afraid dweud na wnaeth y Daily Post ddim meiddio cyhuddo Syr Alex o fod yn hiliol.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

‘Bomwyr Boston’

Ymlaen >

Cymru ac Ewrop: Rhwng y Cwn a’r Brain...