Thema dywyll Thema golau

Cwsg, croesiadau a chimeriaid

Pysgodyn jeli

Dysgu mwy am esblygiad cwsg, a dau hanesyn rhyfeddol am hybridiau – un yn gynnyrch labordy a’r llall yn rhan o stori dditectif go iawn.

Ar ôl treulio mwy na’m siâr o amser yn pendwmpian ar ôl cinio dros yr Ŵyl a’r Flwyddyn Newydd, hyfryd oedd gweld bod pysgod jeli yn mwynhau’r un ddefod! Mae’n debyg bod rhythmau cysgu i’w gweld ym mhob math o anifail sydd â rhwyd nerfau yn rhan o’u cyfansoddiad, o’r pysgod jeli (y cnidariaid) i ni. Yn ôl Lior Appelbaum o Brifysgol Barilan, Israel, awgryma hyn i’r arfer ymddangos yn ystod y cyfnod anturus yn hanes y byd a elwir y Ffrwydriad Cambriaidd, tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan sefydlwyd cymaint o’r patrymau corff sy’n bodoli hyd heddiw. Y dybiaeth yw bod cwsg yn hanfodol i berchnogion ymennydd cymhleth gan mai dyma sy’n galluogi cael gwared â’r gwastraff metabolig sy’n cronni yno yn ystod yr oriau effro. Ond pam y byddai angen seibiant ar rwydwaith syml niwronau pysgod jeli, sydd heb ymennydd? Yn arbennig felly o ystyried peryglon cysgu mewn byd llawn gelynion!


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Chwilio am gysur ganol gaeaf

Ymlaen >

Teithiau llon ac enbyd