Thema dywyll Thema golau

Cydbwysedd ac is-destun – rhestr fer Llyfr y Flwyddyn

Llyfr y Flwyddyn 2025 - Rhestr Fer categorïau oedolion Llyfr y Flwyddyn 2025 - Rhestr Fer categorïau oedolion
Llyfr y Flwyddyn 2025 - Rhestr Fer categorïau oedolion

Gwpl o ddyddiau’n unig wedi cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, a dyma ddigwydd clywed sylw am amlygrwydd merched ymysg yr awduron, a’r beirniaid. ‘Cyfle cyfartal yn iawn yn ei le, ond...’ Gallwch ddychmygu’r gweddill. A’r doethinebwr yn mynd ymlaen wedyn i ddatgan fel ffaith ‘fod gan ferched, wrth gwrs, fwy o amser i sgwennu ac i ddarllen’.  (O, y bobl y deuwch ar eu traws pan nad oes gwn yn eich meddiant...)

Syndod y byd, tydw i ddim wedi darllen pob un gyfrol ym mhob un categori yn y ddwy iaith. Fodd bynnag, rhwng dyletswyddau gwarchod, plannu hadau, gwaith cyfieithu, priddo’r tatws, paratoi am gyfarfodydd, ac amryfal fanion eraill, mi lwyddais i gael cip go dda ar y rhestr, a’r cyhoeddusrwydd ynghylch y cyfrolau, yr awduron, a’r wobr ei hun.

< Yn ôl
Aelodau grŵp Bôn

Meithrin doniau – arddangosfa cyntaf BÔN

Ymlaen >
Rhes o bobl yn eistedd - llun hanesyddol 1926

Arwyr Angof: Mai Roberts