Thema dywyll Thema golau

Cyfieithu clasur o nofel am bla

Albert Camus a chlawr 'Pla' Albert Camus a chlawr 'Pla'
Afraid dweud bod y cyfieithiad yma’n amserol. A ninnau’n byw efo Covid ers rhai blynyddoedd bellach, magodd clasur Albert Camus La Peste, gryn arwyddocâd i ni yn yr oes sydd ohoni. Ond, ar wahân i’w pherthnasedd, mae nofel Camus, a gyhoeddwyd yn 1947, yn haeddu ei lle yng nghynhysgaeth ein llên a ninnau, wrth gwrs, yn haeddu’r hawl i’w darllen yn ein mamiaith. Nofel ydi hi sy’n sôn am frigiad ffuglennol o bla arall, y marw du, mewn dinas yn Algeria yn y 1940au. Ond mae hi’n fwy o lawer na hanes clafychu a marw erchyll. Mae La Peste yn wledd o’r amryfal weddau ar Camus. Roedd yn athronydd. Yn La Peste nid dim ond stori’r pla gawn ni, ond ystyriaethau ehangach gwahanu a hiraeth, marw a byw. Roedd hefyd yn fardd ac, yn yr erchylltra ciaidd, mae yma ddelweddau godidog, y bardd ynddo’n cael harddwch mewn hacrwch.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
'Goleuni', un o weithiau celf gwehyddu Elin Huws

Felly Llŷn ar derfyn dydd

Ymlaen >
Nicola Walker (Miss Moffat) ac Iwan Davies (Morgan Evans) yn Theatr y Lyttleton, Llundain

George ac Emlyn Williams – dau hanner Cymro