Thema dywyll Thema golau
Cip ar weddill rhifyn Mai
Cyfri’r dyddiau – annhegwch rheol llety gwyliau
Pa fodd y baglodd y cedyrn?

Cyfri’r dyddiau – annhegwch rheol llety gwyliau

Golygfa i ddenu ymwelwyr -  edrych dros harbwr Pwllheli  at Garn Fadryn a Garn Boduan Golygfa i ddenu ymwelwyr -  edrych dros harbwr Pwllheli  at Garn Fadryn a Garn Boduan
Daeth mesur i rym y mis diwethaf gyda’r nod o wahaniaethu rhwng ail gartrefi a thai gwyliau at bwrpas treth. Ers mis Ebrill, rhaid i berchnogion llety gwyliau brofi bod ganddynt gwsmeriaid ar 182 noson yn flynyddol i fod yn gymwys ar gyfer treth busnes. Fel arall, byddant yn talu treth cyngor ar raddfa uwch fel perchnogion ‘ail gartrefi’. Gallai hyn fod yr ergyd farwol i aml i fusnes llety gwyliau dan berchnogaeth leol sy’n ffynhonnell incwm allweddol i gadw teulu yng nghefn gwlad. Oes diwydiant arall lle mae’r llywodraeth yn rheoli lefelau cwsmeriaid? Mae’r mesur 182 diwrnod yn ceisio ffurfioli’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng ail gartref a thŷ gwyliau ac mae hynny’n dda o beth. Nid yw pob tŷ gwyliau yn addas i’w osod yn hirdymor. Mae’r gofyniad i osod am 182 o ddyddiau yn gynnydd aruthrol o’r 70 diwrnod blaenorol. Rhwng Chwefror a Thachwedd, golyga osod am 75% o’r dyddiau. Mae’n sicr am fod yn dalcen caled.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Mai

Ymlaen >
Tudalennau blaen papurau newydd yn rhoi sylw i drafferthion yr SNP

Pa fodd y baglodd y cedyrn?