Thema dywyll Thema golau

Cymdeithas groesawus?

erthygl-chwefror-2022-2309-1201 erthygl-chwefror-2022-2309-1201
Mae eleni yn 45 o flynyddoedd union ers i Jose Cifuentes gyrraedd Cymru. Gydag ef roedd ei gymar, ei compañera, Maria Cristina a’u merch fach flwydd oed. Roedd y teulu ar ffo o Chile ac yn dianc rhag unbennaeth greulon y Cadfridog Pinochet. A hwythau’n fyfyrwyr yn llawn delfrydiaeth a gobaith ar ddechrau’r 1970au pan etholwyd yr Arlywydd Salvador Allende a’i lywodraeth asgell-chwith flaengar yn eu mamwlad, erbyn 1973 – pan ddaeth coup milwrol Augusto Pinochet – roedd eu breuddwydion yn deilchion a’u bywydau hwy a miloedd ar filoedd o’u cyd-wladwyr mewn peryg oherwydd eu daliadau gwleidyddol. Roedd Jose a Cristina yn rhan o genhedlaeth ifanc o ymgyrchwyr, wedi eu cyffroi gan yr addewid o newidiadau a chyfiawnder cymdeithasol a oedd yn sylfaen i lywodraeth sosialaidd Allende; roedden nhw’n weithgar mewn cymunedau difreintiedig. Yn llygaid milain byddin Pinochet, fodd bynnag, roedden nhw a’u tebyg yn fygythiad i’r wladwriaeth, yn Gomiwnyddion, ac roedd yn rhaid eu cosbi. Ac yntau’n ddyn ifanc yn ei ugeiniau cafodd Jose ei garcharu yn Chile cyn llwyddo i adael y wlad a chael noddfa fel ffoadur gwleidyddol yn Abertawe yn 1977.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2022-2308-1200

Pryd y daeth y Gymraeg i Ynys Prydain?

Ymlaen >
erthygl-chwefror-2022-2310-1202

Paent, tir a chof - holi Gareth Hugh Davies