Thema dywyll Thema golau

Cymru a’r UE – gwersi’r gorffennol

Dweud Na i’r Ewro – Fi oedd yn Iawn

Serch hynny, o gael y cynnig fy nheimlad oedd – pam lai! A thipyn o gythraul a arweiniodd at fy newis o bwnc, adlewyrchiad efallai o'r ffaith fy mod yn parhau â diddordeb byw yn yr Undeb Ewropeaidd er i'r diddordeb hwnnw ddirwyn fy aelodaeth o blaid fy nhaid a phlaid fy rhieni i ben. Ta waeth, nid fy mwriad heddiw yw trafod pam mai fi oedd yn iawn ynghylch gwallgofrwydd yr arian sengl (tynnaf fy het yma i Adam Price a Leanne Wood – dau a fu'n gyson amheus o farn arweinyddiaeth Dafydd Wigley, Ieuan Wyn Jones a Chynog Dafis ar y mater ond mewn dulliau mwy cymodlon nag y bu i mi eu harddangos!).

Fy mhledleisiau ar y mater Ewropeaidd ers 2010

Ers imi ddod yn Aelod Seneddol rwyf wedi sylweddoli mai digon cymedrol yw fy ewro-sgeptigaeth mewn cymhariaeth â nifer helaeth o aelodau mainc gefn y Blaid Geidwadol. Yn wir, o'r tair pleidlais a achosodd broblemau i'r Prif Weinidog ar y mater ers 2010 dim ond un y bu i mi ei chefnogi. Er gwaethaf fy ewro-sgeptiaeth yr wyf wedi gwrthod y dewis hawdd a phoblogaidd o fewn y Blaid Geidwadol, sef bod yn gefnogol i adael yr Uundeb Ewropeaidd.

Ond i droi at y pwnc yn nheitl fy narlith, 'Diwedd aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd – Y Gwersi o Ddiflaniad Ymerodraeth Awstria-Hwngari', ceir dau osodiad yma sy'n gofyn am gyfiawnhad ac eglurhad.

Yn gyntaf, a yw aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd yn debygol o ddirwyn i ben?

Ac yn ail, os ydyw, a oes gwersi o ddiflaniad yr Ymerodraeth Ewropeaidd sydd wedi dal fy nychymyg ers chwarter canrif a mwy?

Gadewch i ni drafod y cwestiwn cyntaf cyn troi at yr Ymerodraeth ‘nad oedd yr haul yn machlud arni’ – ac ia, yn wir, Ymerodraeth yr Hapsbwrgiaid a roddodd fodolaeth i'r disgrifiad hwnnw a gysylltir bellach â'r Ymerodraeth Brydeinig, pan oedd tiriogaethau Sbaen, Portiwgal a'r Iseldiroedd oll yn rhan o waddol yr Hapsbwrgiaid.

Mesur James Wharton

Ar hyn o bryd rwyf yn un o noddwyr mesur preifat James Wharton, AS Stockton on Tees a chyfaill agos, sy'n cynnig deddfu ar gyfer refferendwm i bobl Cymru a Phrydain ynghylch eu dyfodol o fewn yr UE. Bwriad y mesur yw cynnig pleidlais yn 2017 a hynny yn y gobaith y bydd y Prif Weinidog yn llwyddo i daro bargen o'r newydd o ran aelodaeth y DU o'r UE ymhell cyn hynny. Yn ei hanfod y mae'n fesur sy'n cynnig cyfle gwirioneddol i ddadlau'r achos dros berthynas fwy aeddfed â’r UE a fydd yn llawer mwy hyblyg na'r hyn a welir heddiw.

Y mae'n fesur sy'n rhoi cyfle i Gymru barhau yn aelod o'r UE gan gydnabod y galw am hawl i fynegi barn ar y mater – galw sy’n weddol amlwg bellach.

Erthyglau’r Athro Richard Wyn Jones

Ar y pwynt hwn mae'n rhaid ceryddu colofnydd gwleidyddol Barn sy'n dueddol i ysgrifennu am y byd fel y mae'n dymuno iddo fod yn hytrach nag ymdrechu i ddadansoddi yr hyn sy'n digwydd go-iawn. Yn fras, does 'na ddim llawer o dystiolaeth fod trigolion Cymru’n fwy brwdfrydig dros yr UE mewn polau piniwn na'r hyn sy'n dod i'r amlwg o rannau helaeth o Loegr.

Ond efallai mai adlewyrchu barn ei ddarllenwyr a wna’r Athro. Arwydd amlwg o ddiffyg perthnasedd Cymry dosbarth canol Cymraeg i wleidyddiaeth Cymru oedd y ffaith fod 90% o gyfranwyr i bôl piniwn Golwg 360 yn bleidiol i barhau o fewn yr UE tra oedd pôl piniwn yr Western Mail yr un wythnos wedi darganfod fod mwyafrif o'u cyd-Gymry am adael. Bois bach, 'dach chi ddim yn nabod eich pobl eich hunain! Ac wrth gwrs, 'chydig yn ddoniol yw’r ffaith fod y ganran uchaf sydd am adael yr UE yma yng Nghymru yn bodoli ym mwrdeistref Merthyr, sef cartref WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru)!

Ond gwir fethiant trafodaethau am ddyfodol Cymru yn Ewrop ymysg llawer o’r dobarth gwleidyddol yma yng Nghymru yw'r awgrym y byddai pleidlais o blaid aros o fewn yr UE yma yn gwneud unrhyw wahaniaeth i bethau.

Barn Prydain, nid Cymru, fydd yn cyfrif

10%–12% ar y gorau yw nifer yr etholwyr yma yng Nghymru sy'n credu mewn Cymru annibynnol. Tra pery hynny, rhan o ganlyniad Prydain fydd y bleidlais yng Nghymru – dim byd mwy a dim byd llai.

Taro Bargen o’r Newydd

'Ta waeth, 'nôl at fesur James Wharton. Galw a wna'r mesur hwn am roi'r cyfle i'r Prif Weinidog daro bargen o'r newydd ar gyfer Prydain yn Ewrop cyn cynnal pleidlais o blaid y berthynas newydd neu o blaid gadael yr UE. Os bu cyfle erioed i ofyn am newid y cytundebau sy'n greiddiol i aelodaeth Prydain o'r UE dyma fo, gan fod angen amlwg i wadu y freuddwyd o Undod Agosach er mwyn hwyluso'r broses o roi'r gallu i'r Almaen a'r Banc Ewropeaidd lunio rhaglen a fydd yn achub yr arian sengl, boed hynny ar gyfer yr 17 aelod cyfredol neu efallai lai. Cawn weld, ond fe fyddai ymyrraeth o’r fath yn gofyn am newidiadau cytundebol a fyddai angen cefnogaeth Prydain. Yr hyn sy'n amlwg yw bod Ewrop unedig o wledydd gydag aelodaeth gyfatebol yn freuddwyd sydd wedi hen chwythu ei phlwc.

Prosiect ‘Fresh Start’

Deallaf yn iawn fod nifer sy'n coleddu agweddau cefnogol i'r syniad hen ffasiwn o oruwchwladwriaeth unedig, sef yr UE, yn awgrymu mai methu fydd ymdrech y Prif Weinidog i greu trefniant newydd i Brydain ond fe fyddwn yn awgrymu y dylent bwyllo. Fel aelod o'r prosiect 'Fresh Start' (neu Quislings Cameron fel y bedyddiwyd y gr?p gan rai o anian mwy gwrth-Ewropeaidd) yr oeddwn yn un o ddwsin a oedd yn gyfrifol am faniffesto ar gyfer UE hyblyg a fyddai'n adlewyrchu gofynion y rhai hynny sydd o blaid mwy o fasnach o fewn yr UE a llai o bob dim arall sy'n gymaint o bla ar economïau yr holl gyfandir.

Fel rhan o waith y prosiect hwn rwyf wedi teithio i Warsaw, Prâg, Berlin a'r Hâg er mwyn canfod agweddau gwleidyddion Ewropeaidd tuag at y broses o newid.

Y neges glir? Mae angen newid! Ac mae 'na frwdfrydedd dros syniadau ac arweinyddiaeth o Brydain ynghylch newid o'r fath.

Barn Wahanol yn yr Almaen

Yn wir, dim ond yn yr Almaen y cafwyd unrhyw neges negyddol a hynny gan gyn-lysgennad yr Almaen ym Mhrydain. Pan ofynnwyd iddo pam na fyddai'r Almaen yn cofleidio'r syniad o barth arian gogleddol a deheuol ar gyfer yr Arian Sengl (mewn geiriau eraill dau Ewro) yr ateb a gafwyd oedd fod gan yr Almaen broblem sylfaenol gyda syniad o'r fath gan y byddai ffin yr arian deublyg yn syrthio ar y Rhein. Mewn geiriau eraill fe fyddai Ffrainc yn syrthio i barth yr Ewro deheuol oni bai am reidrwydd gwleidyddol i’w thrin fel partner cyflawn i'r Almaen.

O gyfaddawdu a rhannu sofraniaeth drwy greu a choleddu'r UE holl fwriad yr Almaen oedd sicrhau perthynas wleidyddol gadarn ac adeiladol â Ffrainc – clodwiw a dealladwy heb amheuaeth ond fel yn achos ymrwymiad biwrocratiaid Ymerodraeth Awstria-Hwngari wrth lynu at gyfaddawd 1867 gydag Uchelwyr Hwngari efallai y gwelwn y bydd pris i'w dalu drwy roi perthynas ag un wlad ymysg 28 uwchlaw pob un arall yn achos yr UE hefyd. Fe ddof yn ôl at hyn maes o law.

Buddugoliaeth Geidwadol er mwyn Diogelu Cymru yn Ewrop!

Fodd bynnag, i grynhoi, mae fy nhrafodaethau uniongyrchol gyda gwleidyddion mewn sawl prifddinas Ewropeaidd yn awgrymu bod cyfle gwirioneddol yn bodoli ar gyfer bargen o'r newydd a fydd yn sail i bleidlais yn 2017. Fe af ymhellach, bargen o'r fath fydd y cyfle gorau i'r rhai hynny ohonoch yn y gynulleidfa sy'n dymuno gweld Cymru a Phrydain yn parhau yn aelod o'r UE. Ond ceir un amod bach.

Fe fydd angen i chi obeithio'n daer am fuddugoliaeth Geidwadol yn 2015 os am barhau gyda'r slogan gwag – 'Cymru yn Ewrop'.

Buddugoliaeth Geidwadol yn 2015

Pam hynny, clywaf rai ohonoch yn ei ofyn? Sut yn y byd mae modd cysoni dymuniad i weld Cymru yn parhau fel rhan o'r UE a dymuniad am fuddugoliaeth Geidwadol yn 2015? Wel yn syml iawn, dwi'n hollol sicr y bydd Llafur cyn 2015 yn ategu addewid y Ceidwadwyr, yn unol â mesur James Wharton, i gynnig refferendwm yn 2017. Beth fydd canlyniad hynny? O fuddugoliaeth Geidwadol yn 2015, dim llawer. Fe fydd y Prif Weinidog yn gwneud ymdrech wirioneddol i daro bargen newydd ac fe fydd, i raddau syndod o helaeth, yn llwyddo. O ofyn am bleidlais o hyder yn y berthynas newydd, a hynny gyda chefnogaeth pob plaid ac eithrio UKIP, yn ogystal â chefnogaeth yr Undebau Llafur, cynrychiolwyr busnesau mawr os nad busnesau bychain Prydain a hefyd mwyafrif y cyfryngau torfol, fe fydd y Prif Weinidog yn denu mwyafrif cyfforddus i roi pleidlais o hyder yn y berthynas newydd hyblyg hon gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Buddugoliaeth Lafur yn 2015

I'r rhai ohonoch sy'n wrth-geidwadol a chefnogol i'r ddelfryd Ewropeaidd yna druan ohonoch – fe fydd yn rhaid i chi ddewis. Gydag addewid o refferendwm fe all Miliband a Llafur gipio buddugoliaeth o drwch blewyn yn 2015 a hynny trwy chwalu’r Rhyddfrydwyr yn y dinasoedd ac yng ngogledd Lloegr gan leihau’r gynrychiolaeth Geidwadol i tua 270–280 o seddi.

Y canlyniad fydd ymdrech mewn enw yn unig i ailddiffinio perthynas Prydain ag Ewrop ynghyd â refferendwm yn 2017.

Wedi dwy flynedd o lywodraeth Lafur, a fydd dan fygythiad dyddiol yn y Senedd oherwydd eu mwyafrif bychan, fe fydd Miliband yn dadlau o blaid parhau yn aelod o UE nad yw newid fawr ddim a hynny yn erbyn plaid Geidwadol dan arweinyddiaeth ewrosgeptig pybyr (o golli ni fydd Cameron yn aros wrth y llyw) sy'n denu cefnogaeth UKIP i ymgyrch 'Na' ar y cyd.

Fe fydd Ffederasiwn y Busnesau Bychain yn galw am bleidlais 'Na', gan na fydd dim cyfaddawdu o du'r UE o ran galwadau ar fusnesau bychain, ac fe fydd yr undebau a'r CBI yn rhanedig. Fe fydd y cyfryngau torfol, gan eithrio’r BBC, yn frwd dros 'Na' a dyna a ddaw. O weld Llafur yn addo refferendwm y mae'r ffeithiau gwleidyddol yn awgrymu'n glir mai dim ond Llywodraeth Geidwadol a fyddai'n gallu ymladd refferendwm i gadw Prydain, a thrwy hynny Cymru, o fewn yr UE.

Felly i ateb y cwestiwn cyntaf. A yw aelodaeth Cymru o'r DU yn dirwyn i ben? Mae'n llawer mwy tebygol na'r hyn a dybia mwyafrif sylwebwyr gwleidyddol Cymru ac o weld y Ceidwadwyr yn wrthblaid yn 2015 fe fyddwn yn nodi fod pleidlais 'Na' yn 2017 bron yn anorfod. Y mae'n llawer mwy tebygol nag annhebygol dan amgylchiadau o'r fath.

Ymerodraeth Awstria-Hwngari – a oes gwersi?

Felly, gyda hynny o ddadansoddiad gwleidyddol o'r tebygolrwydd y bydd Cymru yn gadael yr UE, gadewch i ni droi at yr ail gwestiwn. A oes gwersi i Gymru o gwymp ymerodraeth Awstria-Hwngari yn 1919?

Efallai nad yw’r mwyafrif ohonoch yn y Gynulleidfa yn rhannu fy niddordeb yn yr Ymerodraeth Hapsbwrgaidd ac yn fwy penodol efallai Ymerodraeth Awstria-Hwngari o 1867 ymlaen sef 49 mlynedd olaf teyrnasiad Franz Josef a thair blynedd y cwymp rhwng 1916 a diwedd yr ymerodraeth yn 1919. Os felly, sticiwch efo fi!

Joseph Roth

Wn i ddim beth ddaeth gyntaf, y diddordeb yn y cyfnod 1867-1919 yn Awstria-Hwngari neu fy eilun-addoliaeth bron o Joseph Roth – llais unigryw, doeth a difyr a fu'n ysgrifennu am ddiflaniad yr Ymerodraeth o ddiwedd y Rhyfel Cyntaf hyd ei farwolaeth yn ?r cymharol ifanc ym Mawrth 1939 a hynny ddyddiau yn unig wedi cwblhau nofel fer hyfryd a hudolus, sef The Legend of the Holy Drinker (Die Liegend vom Heiligen Trinker yn y gwreiddiol) – can tudalen o berffeithrwydd llenyddol.

Pwy oedd Roth a pham fod yr athrylith hwn yn cyfrif wrth ystyried y gwersi i ni heddiw o weld yr UE mewn cyfnod o wewyr? Yn fras, Iddew o Galicia a anwyd mewn tref sydd bellach yn yr Wcráin, a g?r a oedd, fel Iddew addysgedig, yn coleddu'r Almaeneg fel iaith gyntaf ac yn ystyried yr Ymerodraeth gymhleth amlieithog ac amlgenedl yn gartref cyfforddus a naturiol. Yn dilyn diflaniad yr Ymerodraeth, un o dair brif thema ei waith (twf Natsïaeth a doniolwch chwyldroadwyr comiwnyddol yw'r ddwy arall), mae Roth yn ei weld ei hun yn ddigartref ac yn ddiwladwriaeth am weddill ei oes, themâu sy'n amlwg yn ei glasur rhyfeddol Radetsky March (Radetzkymarsch) ynghyd â nofelau eraill megis Tarabas a The Emperor's Tomb (Die Kapuzinergruft).

Neges y nofelau hyn yw bod Roth, yr Iddew digrefydd o Galicia, wedi canfod ei hun yn ddigartref a diwladwriaeth o'r dydd y daeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari i ben ac doedd o, na nifer tebyg iddo, wedi rhagweld y fath ddatblygiad. Gyda'i dref enedigol yn amrywio rhwng bod yn rhan o Wlad P?yl a bod yn rhan o'r Undeb Sofietaidd newydd ym mlynyddoedd cyntaf y 1920au doedd o'n amlwg ddim yn perthyn i'r cenhedloedd newydd hyn ond doedd o chwaith ddim yn gyfforddus yn yr hyn a oedd yn weddill o’r tiroedd Almaeneg eu hiaith o fewn yr Ymerodraeth a roddodd fodolaeth i Awstria.

Mae'n debyg mai ym Merlin Weimar y teimlodd Roth yn fwyaf cartrefol ac am bron degawd ef oedd y newyddiadurwr uchaf ei barch (yn sicr yr uchaf ei gyflog) yn yr Ewrop Almaeneg ei hiaith. Y mae ei waith o Berlin a hefyd o Baris pan fu'n ohebydd tramor yn y ddinas honno yn werth ei ddarllen ac mae’n llygad-dyst miniog a hynod blaen ei dafod o'r hyn yr oedd twf Natsïaeth yn ei olygu. Dihangodd o'r Almaen yn 1933 (cafodd ei lyfrau eu llosgi gan y Natsïaid yn dilyn ethol Hitler fel Canghellor) ac fel ffoadur yn byw mewn gwestai y treuliodd ei chwe mlynedd olaf. Bu'n byw yn gyson ar haelioni Steffan Zweig, er na fu'n arbennig o ddiolchgar i'w gyd-awdur o Iddew, cyn marw’n alcoholic truenus ym Mharis ym Mawrth 1939. Diolch am hynny efallai – er nad oedd yn grefyddol fe fyddai ei Iddewiaeth law yn llaw â' agweddau gwrth-Natsiaidd wedi bod yn ddigon i'w roi ar frig unrhyw restr ar gyfer concentration camp wedi cwymp Ffrainc yn 1940.

Ond dowch dowch dwi'n eich clywed yn meddwl. Beth sydd a wnelo Roth ag unrhyw wersi i Gymru heddiw? Wel yn syml iawn, o ddarllen Roth fe fu i mi ddarllen mwy a mwy am hanes cwymp yr Ymerodraeth, a'r hyn a oedd yn hollol amlwg oedd fod y rhai a oedd yn byw trwy'r cyfnod yn coleddu agweddau hollol wahanol tuag at ddyfodol yr Ymerodraeth o gymharu â'r rhai sydd wedi ysgrifennu am gwymp yr ymerodraeth fel haneswyr.

Methiant yr Ymerodraeth – Canlyniad Anorfod?

Y dyddiau hyn mae 'na ymdeimlad fod yr Ymerodraeth yn dirwyn i ddiwedd ei hoes erbyn 1914 ac mai anorfod oedd chwalfa 1919 gyda chreu nifer o wledydd newydd o'r hyn a oedd wedi bod yn ymerodraeth ddaearyddol fwyaf Ewrop hyd 1914. Onid dyna ganlyniad anorfod 14 pwynt Woodrow Wilson? Ond na, er gwaethaf y gefnogaeth gan y ddogfen hon i'r syniad o hunanreolaeth genedlaethol yr oedd y ddogfen hefyd yn galw am barhad 'Brenhiniaeth y Danube'. Esblygiad ac nid diflaniad yr Ymerodraeth oedd bwriad dogfen Wilson ac felly hefyd farn mwyafrif y grwpiau cenedlaethol o fewn yr Ymerodraeth nid yn unig yn 1914 ond hyd 1916 ac ymhellach mewn amryw o achosion.

Doedd 'na ddim brwdfrydedd dros ddiflaniad yr Ymerodraeth ymysg rhengoedd un rhan o'r tîm rheoli, sef uchelwyr Hwngari (yr Almaenwyr oedd y llall) ac roedd hynny'n wir hefyd am garfan dda o'r dosbarth rheoli yn y tiriogaethau Pwylaidd wrth i’r uchelwyr yno gael gwahoddiad i fod yn drydedd rhan y cylch cyfrin yn dilyn cyfaddawd 1867. Yn wir, fe fu'r bloc Pwylaidd yn rhan o lywodraeth Gorllewin yr Ymerodraeth gan ddarparu dau Brif Weinidog a sawl Ysgrifennydd Tramor yn y cyfnod rhwng 1870 ac 1914.

Tra nad oedd unrhyw beth am gymell dosbarth rheoli Hwngari i gefnu ar y trefniant hwn, rhesymol yw datgan nad oedd y Pwyliaid chwaith ar frys i wneud hynny cyn 1914. Dim ond y posibilrwydd o ailsefydlu'r Wladwriaeth Bwylaidd a newidiodd fwriadau'r dosbarth rheoli Pwylaidd a hynny yn benodol oherwydd chwalfa y Rhyfel Mawr. Hyd 1914 gweithio o fewn yr Ymerodraeth oedd y bwriad.

Yn y de roedd dadlau ffyrnig ymysg cenedlaetholwyr y Slafiaid deheuol (syniad rhyfeddol yw hynny o ystyried tystiolaeth yr Ail Ryfel Byd a hanes trychinebus y Balcanau gydol y nawdegau) yngl?n â'r ffordd ymlaen – pa un ai uno’r Slafiaid deheuol, y Croatiaid, y Slofeniaid, y Serbiaid a'r Bosniaciaid o fewn Serbia fwy ynteu eu huno o fewn yr Ymerodraeth fel balans i'r grym llywodraethol a orweddai yn nwylo'r Almaenwyr, y Hwngariaid ac i raddau llai y Pwyliaid. Gyda threigl amser pwy all wadu y gallai undod o fewn yr ymerodraeth fod wedi bod yn ddewis llawer llai gwaedlyd iddynt? Ond mae'r ffaith fod dadl o'r fath yn bodoli yn awgrym clir nad oedd diflaniad yr Ymerodraeth yn rhan o gynlluniau’r cenedlaetholwyr hyn.

Ac yn olaf, i berwyl fy nadl, beth am y Tsieciaid a oedd, hyd yn hwyr iawn yn y dydd, heb hyd yn oed goleddu’r syniad o Tsiecoslofacia! Unwaith yn rhagor prif fwriad pleidiau cenedlaetholgar oedd cael eu derbyn o fewn yr Ymerodraeth ar sail cyfatebol i'r Almaenwyr a'r Hwngariaid. Dim ond datblygiad y rhyfel ac, i raddau, marwolaeth Franz Josef yn 1916, a arweiniodd at i Masaryk a Palacky ddechrau ystyried yr angen am chwalu'r Ymerodraeth a llunio gwladwriaeth o'r newydd.

Dim Sicrwydd Hanesyddol – cofiwch hynny!

A dyna'n fras fy neges gyntaf i Gymry Ewropeaidd brwd heddiw. Bwrdwn gwaith Roth am ugain mlynedd wedi 1919 oedd ei syndod ac yn wir ei siom a'i deimlad o golled lwyr fod ei gartref ysbrydol wedi mynd. Yn yr un modd, gwleidyddion cenedlaetholgar yr Ymerodraeth – addasu o fewn y strwythur oedd y bwriad, nid cael gwared o'r cyd-destun. Wedi chwe chan mlynedd pwy yn ei iawn bwyll a fyddai'n rhagweld diflaniad yr Ymerodraeth yn 1913?

Ac eto i ni heddiw, ac yn wir i haneswyr Saesnig o'r 1920au ymlaen, yr oedd cwymp Awstria-Hwngari yn ymddangos, o edrych yn ôl, yn anorfod. Ond nid felly farn trigolion yr Ymerodraeth ar y pryd. Iddynt hwy yr oedd cynllunio dyfodol ar sail parhad yr Ymerodraeth yn broses resymol a dealladwy – yn yr un modd y gwelir heddiw gynllunio dyfodol yr UE heb roi unrhyw ystyriaeth i'r posibilrwydd y gall yr hyn sy'n ymddangos yn barhaol droi yn llwch mewn dim.

Mae’r ddadl Ewropeaidd yn aml yn un eithafol ond mae hynny'n wir am y ddwy ochr. Y pwynt allweddol gan gefnogwyr Undod Ewropeaidd serch hynny yw'r syniad fod hanes a moderniaeth o blaid yr UE – fod dyddiau'r genedl-wladwriaeth yn dod i ben. Lol yw hynny, fe fyddwn yn dadlau, ac yn sicr mae'r un mor ddi-sail â hyder y rhai hynny, Roth yn eu plith, fod yr Ymerodraeth yn rhan sefydlog o'u dyfodol.

Os nad yw'n gwneud dim arall mae hanes yn ein dysgu ni oll nad oes dim yn sicr – hyd yn oed Undod Ewropeaidd. Fe ddylai ein sefydliad gwleidyddol yma yng Nghymru (a dwi ddim yn rhan o hwnnw) o leiaf ddechrau ystyried beth a ddaw o Gymru heb yr UE. Wedi'r cyfan, tydi 2017 ddim yn bell!

Beth felly yw’r ail wers?

Wel yn fan hyn dwi am fynd yn ôl at y cyn-llysgennad Almaenig a oedd yn rhoi'r trefniant ar berthynas rhwng yr Almaen a Ffrainc yn uwch na dim arall yn ei bolisi Ewropeaidd. A ddylid cwestiynu hyn? Os y bwriad oedd osgoi unrhyw ryfel rhwng Ffrainc a'r Almaen, yna fe fu'r UE yn llwyddiant. Ond i ba raddau y mae ofn o'r fath yn rhesymol heb sôn am fod yn rhesymegol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain?

Cytundeb 1867 – Dau Brif Bartner

Un o rwystredigaethau mawr rhai o genhedloedd llai 'hanesyddol' yr Ymerodraeth oedd y cytundeb rhwng Almaenwyr yr Ymerodraeth a'r Hwngariaid a ddaeth i fodolaeth yn 1867. Gan eithrio uchelwyr Pwylaidd Galicia a ddaeth i gyfaddawd gyda'r Almaenwyr yn rhanbarth orllewinol yr Ymerodraeth gan sicrhau llais mewn llywodraeth yn gyson o ddechrau'r 1870au hyd y Rhyfel Mawr, methiant cymharol fu ymdrech y grwpiau eraill cenedlaethol o fewn yr Ymerodraeth i dderbyn cydnabyddiaeth a hawliau tebyg i'r Pwyliaid heb sôn am hawliau tebyg i'r Almaenwyr a'r Hwngariaid. Canlyniad hyn oedd anniddigrwydd ac ymwrthod â pherthynas gadarnhaol gyda'r canol yn achos amryw o wleidyddion y cenhedloedd hyn megis y Tsieciaid yn benodol ond hefyd rhai o genhedloedd Slafaidd y de.

Rhwystredigaeth y Tsieciaid

Yn achos y Tsieciaid yr oedd y methiant hwn yn destun rhwystredigaeth go iawn gan fod Bohemia, Moravia a rhanbarthau eraill a oedd â phoblogaeth sylweddol o Tsieciaid yn rhai o’r rhanbarthau mwyaf blaenllaw o ran diwydiant o fewn yr Ymerodraeth.

O ystyried y diffyg hwn o ran cydnabod dyheadau digon rhesymol y Tsieciaid mae'n rhyfedd fod arweinwyr y mudiad cenedlaethol yno wedi parhau i weithio am drefniant oddi mewn i'r Ymerodraeth yn hytrach na threfniant a fyddai'n sicrhau ateb allanol.

Asesiad arweinwyr megis Palacky a Masaryk oedd sicrwydd y byddai diwedd yr Ymerodraeth yn arwain at Wladwriaeth Almaenig unedig – gwladwriaeth a fyddai'n fygythiad i unrhyw wladwriaeth Tsiec neu Tsiecoslofac o ran hynny. Gyda 13 miliwn o Almaenwyr o fewn yr Ymerodraeth yr oedd yna fodd o osgoi sefyllfa o'r fath ond yn ystod y Rhyfel Mawr daeth arweinwyr megis Masaryk i'r casgliad fod yr Ymerodraeth yn debyg o syrthio ac felly yr oedd yn rhaid mynd am yr ail ddewis, sef dyfodol y tu allan i'r Ymerodraeth. Dagrau'r sefyllfa o ystyried hanes Tsiecoslofacia rhwng 1919 a diwedd yr Ail Ryfel Byd oedd fod dadansoddiad yr arweinwyr hyn wedi bod yn hollol gywir.

'Ta waeth, yn ôl at fy nadl. Er gwaethaf ymdrechion rhesymol gan amryw o weinidogion y llywodraeth ganolog i ymateb i ddyheadau'r grwpiau cenedlaethol hyn, methiant oedd yr ymdrech i gynnig statws cyfatebol i'r ddau brif bartner ar gyfer y Tsieciaid a hynny'n benodol oherwydd gwendid a diffyg gweledigaeth y dosbarth rheoli yn Hwngari.

Mae'n deg dweud fod ymrwymiad y dosbarth rheoli hwn i'w statws fel partner cyfatebol i'r Almaenwyr o fewn yr Ymerodraeth wedi bod yn gyfrifol am danseilio ymdrechion niferus i ddod i gytundeb gyda gofynion (rhesymol yn aml iawn) nifer o'r grwpiau cenedlaethol llai o fewn yr Ymerodraeth.

Yr oedd yr Hwngariaid yn gweld unrhyw gyfaddawdu o'r fath fel bygythiad i'w statws unigryw hwy o fewn yr Ymerodraeth ddeublyg a'r oruchafiaeth amlwg oedd ganddynt o fewn rhanbarth ddwyreiniol yr Ymerodraeth. Oherwydd hyn bu iddynt wrthwynebu symudiadau tuag at fwy o hyblygrwydd gan ganolbwyntio ar eu lles eu hunain o fewn yr Ymerodraeth yn hytrach nag ystyried yr hyn a fyddai'n gadarnhaol i'r Ymerodraeth yn ei chyfanrwydd.

Yr Almaen a Ffrainc heddiw – dim hyblygrwydd

A dyna ni'n gweld heddiw yr UE yn crefu am berthynas llawer mwy hyblyg ac amrywiol er mwyn cydnabod y problemau economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu'r cyfandir ond mae'r ddau rym canolog sydd wedi llywio'r UE ers hanner can mlynedd a mwy yn ymwrthod â hynny, nid oherwydd fod hyblygrwydd o'r fath yn debygol o wneud drwg i ddyfodol yr UE ond gan fod hyblygrwydd o'r fath yn dra thebygol o wneud drwg i statws a sefyllfa y gwannaf o'r ddau brif bartner – yn yr achos hwn Ffrainc.

Y mae'n weddol amlwg bellach fod yna ddadgysylltu rhwng economi Ffrainc a rhanbarthau gogledd Ewrop megis Fflandyrs, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Gwledydd Llychlyn a'r Ffindir. Eto, o weld a chydnabod y pellhau economaidd amlwg hwn (sy'n gwaethygu ers dyfodiad yr Arlywydd Hollande a phenderfyniad y Sosialwyr i wrthod y syniad o reoli gwariant cyhoeddus), parhau i wrthod unrhyw newid sy'n bygwth y berthynas â Ffrainc a wna arweinwyr yr Almaen yn yr un modd ag y gwrthododd arweinwyr yr Ymerodraeth weithredu oherwydd pwysigrwydd honedig y berthynas gyda’r Hwngariaid.

Fe gafodd yr Ymerodraeth ei gwanhau oherwydd diffyg parodrwydd y dosbarth rheoli yn rhanbarth gorllewinol a dwyreiniol yr Ymerodraeth i dderbyn unrhyw newid a fyddai'n tanseilio'r berthynas reoli a oedd yn bodoli, am resymau hanesyddol, rhwng yr Almaenwyr a'r Hwngariad. Ddaru hynny ynddo'i hun ddim arwain at gwymp yr Ymerodraeth ond fe gyfrannodd at wanhau ymrwymiad y grwpiau cenedlaethol i'r Ymerodraeth fel y bodolai.

Ar y cyfan efallai nad oedd y grwpiau cenedlaethol hyn am weld diwedd Ymerodraeth Awstria-Hwngari yn 1914 ond yr oedd yr ymrwymiad cadarn a fyddai'n allweddol i’w pharhad wedi'i wanhau.

Onid dyna fydd hanes yr UE? Gyda gwleidyddion o nifer o wledydd, gan gynnwys hyd yn oed yr Iseldiroedd, yn galw am hyblygrwydd ac amrywiaeth o ran natur aelodaeth o'r clwb, onid hunanol a pheryglus yw ymrwymiad yr Almaen i'r berthynas â Ffrainc a hynny ar draul pob perthynas arall? O ymwrthod â'r angen am newid er mwyn diogelu statws Ffrainc fel partner cyfatebol, sy'n amlwg yn bartneriaeth gyfartal mewn enw yn unig bellach, onid lleihau ymrwymiad y cenhedloedd eraill i'r UE yw'r canlyniad anorfod?

Efallai na fydd ymrwymiad gwleidyddion yr Almaen a Ffrainc i'r berthynas unigryw yn ddigon i roi diwedd ar yr UE ond fel gyda'r Ymerodraeth, os yw mwyafrif yr aelodau yn dod i'r casgliad fod un berthynas yn fwy allweddol na'r gweddill o fewn y clwb efallai na fydd yr ymroddiad i ddiogelu'r clwb mor gryf â'r hyn y gallai fod.

A oes gan y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru gynlluniau i ymateb i ddiwedd yr UE os mai dyna fydd yn digwydd oherwydd difaterwch aelodau eraill o'r clwb? Neu a fyddant yn ymateb fel y gwnaeth y Slofeniaid yn 1919 wrth neidio o badell ffrio yr Ymerodraeth i dân undod y Slafiaid deheuol?

Conglfeini yr Ymerodraeth

Yn olaf, y tri llinyn amlwg oedd yn sylfaen gadarn i’r Ymerodraeth oedd y Frenhiniaeth, y Fyddin a'r Gwasanaeth Sifil. Y rhain oedd y glud a oedd yn uno'r cyfan er gwaethaf amryw o fethiannau gwleidyddol a chyfansoddiadol.

Un yn unig o'r rhain sydd gan yr Undeb Ewropeaidd!

Yr Ymerawdwr

Yr hyn sy'n amlwg yw fod yr Ymerawdwr, yn enwedig felly Franz Josef, wrth iddo deyrnasu am drigain mlynedd wedi denu ffyddlondeb nifer helaeth iawn o'i bobl – ffaith sy'n cael ei hamlygu yng ngwaith Joseph Roth, yn benodol felly yn ei nofel Radetsky March. Anodd iawn yw dychmygu teyrngarwch pobl o wahanol genhedloedd Ewrop i Mr Van Rumploy neu Mr Barroso. Does gan yr UE ddim ffigur sy'n cyfateb i daid cymodlon fel yr oedd gan Awstria-Hwngari. Yn 1916, pan fu farw Franz Josef wedi teyrnasiad o 68 mlynedd, fe chwalwyd un o gonglfeini yr Ymerodraeth. Yr oedd yn drobwynt.

Y Fyddin

Roedd yr un modd gyda'r Fyddin. O fewn Awstria-Hwngari dyma un o'r ychydig sefydliadau a oedd yn uniongyrchol atebol i'r Ymerawdwr a'i gynghorwyr – eilradd a hynod gymhleth oedd atebolrwydd y Fyddin i seneddau dwy ran yr Ymerodraeth. Oherwydd hyn, mewn cyfnod pan roddwyd bri ar y milwrol ym mhob gwlad Ewropeaidd, yr oedd gan yr Ymerodraeth bresenoldeb cryf mewn dinasoedd a threfi a hyd yn oed bentrefi trwy'r deyrnas a hwnnw'n bresenoldeb gweledol a chymharol uchel ei barch.

O safbwynt yr Ymerodraeth felly yr oedd byddin sylweddol yn unol yn eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i'r ddelfryd o wladwriaeth amlgenedl. Heb os, yr oedd y polisi o gynnal byddin gadarn a oedd yn atebol i'r Ymerawdwr yn allweddol i hygrededd yr Ymerodraeth gyda'i phobl. Hurt felly oedd mynd i ryfel am resymau cymharol ddibwys. Ym mlwyddyn gyntaf y Rhyfel Mawr fe gollodd Awstria-Hwngari dri chwarter miliwn o ddynion gan gynnwys canran helaeth o'r 'officer class' a oedd yn driw i'r Ymerodraeth.

Erbyn 1916, er bod lluoedd arfog Awstria-Hwngari bellach yn dal eu tir yn filwrol yn dilyn trychinebau 1914/15, yr oedd y to hwnnw o filwyr a oedd yn driw i'r Ymerodraeth wedi eu colli ac wrth gwrs, anodd iawn oedd ail-greu'r teyrngarwch i Franz Josef tuag at yr Ymerawdwr Charles a'i dilynodd. Yr oedd ail gorff allweddol i fodolaeth yr Ymerodraeth wedi ei golli.

Prin fod angen dweud nad oes gan yr UE luoedd arfog fel y cyfryw ac anodd gweld datblygiad o'r fath. Efallai'n wir y byddai'r rhan fwyaf o'r rhai hynny sy'n deyrngar i'r UE yma yng Nghymru yn ymwrthod â'r syniad o filwreiddo yr UE, ond does dim amheuaeth fod y fyddin yn un o'r rhesymau dros barhad teyrngarwch tuag at yr Ymerodraeth. Does dim teyrngarwch o'r fath erioed wedi bodoli tuag at yr UE, fe fyddwn yn dadlau.

Y Gwasanaeth Sifil – Achubiaeth yr UE?!

O'r drindod Ymerodraethol felly yr ydym yn cael ein gadael gyda gwasanaeth sifil – rhywbeth y mae gan yr UE gryn arbenigedd ar ei greu. Yn Ewrop gyfan dim ond y Groegwyr efallai a oedd yn fwy hael gyda'u gwasanaeth sifil gan dalu pedwar mis ar ddeg o gyflog i was sifil yn flynyddol. Bwriad y ddau fis ychwanegol oedd digolledu swyddogion gan nad oeddynt yn gallu osgoi trethi fel eu cyd-wladwyr hunangyflogedig!

Hunanoldeb y Fiwrocratiaeth Ewropeaidd

O ystyried trefniadau pensiwn hael, grantiau ad-leoli, grantiau addysgu plant ynghyd â chyfraddau treth manteisiol, go brin fod gwasanaeth sifil yr UE yn debygol o greu unrhyw ymroddiad i'r Undeb ymysg pobl Ewrop.

Yn wir, yr oedd agwedd sarhaus Barroso tuag at y syniad o reoli cyflogau a thelerau ei swyddogion wrth i'r aelod-wladwriaethau alw am rewi'r gyllideb Ewropeaidd, yn drewi o gorff sydd wedi anghofio mai'r rheswm dros ei fodolaeth yw gwasanaethu'r bobl sy'n talu cyflogau'r swyddogion hynny.

Mewn cyfnod o leihad mewn gwariant cyhoeddus ym mron pob gwlad sy'n aelod o'r UE, onid rhyfeddol oedd barn y biwrocratiad Ewropeaidd eu bod uwchlaw unrhyw aberth ariannol a hynny ar adeg pan yr oedd yr union fiwrocratiaeth yn mynnu toriadau enbyd o lym mewn gwariant mewn gwledydd megis Groeg, Portiwgal ac Iwerddon?

Na, annhebygol iawn fyddai ymrwymiad trigolion Ewrop i'r UE oherwydd bodolaeth biwrocratiaeth sylweddol. Yn wahanol i'r Ymerodraeth, lle'r oedd gan y Gwasanaeth Sifil gydnabyddiaeth fel cynrychiolaeth o'r wladwriaeth ym mhob tref a rhanbarth, rhywbeth pell a dieithr yw'r fiwrocratiaeth Ewropeaidd i drigolion y cyfandir.

Crynhoi Pwynt Tri

A dyna'r drydedd wers efallai. Er gwaethaf tri sefydliad uchel ei barch a oedd yn uno gwahanol genhedloedd Awstria-Hwngari mewn teyrngarwch i'r syniad o Ymerodraeth amlgenedl, chwalu, a hynny'n gyflym iawn, fu hanes yr Ymerodraeth wrth i'r conglfeini hyn syrthio. Ystyriwch o ddifrif, pa sefydliadau Ewropeaidd sy'n denu ymrwymiad cadarn trigolion y cyfandir? Y Senedd? Y Comisiwn?

Yn syml iawn, yn wahanol i Ymerodraeth Awstria-Hwngari, a oes yna deyrngarwch gan drigolion y cyfandir i'r UE? Fydd yna nofelydd o safon ac athrylith Joseph Roth yn ysgrifennu nofelau am ddiflaniad yr UE pe byddai hynny'n digwydd? Dwi'n amheus.

Cwympo a mynd ar goll mewn hanes fu hanes yr Ymerodraeth er gwaethaf bodolaeth conglfeini cadarn. Go brin y gall hyd yn oed yr cefnogwr mwyaf pybyr i'r syniad Ewropeaidd ddadlau fod gan yr UE unrhyw gonglfaeni cyfatebol ac eto am ryw reswm mae cefnogwyr yr UE yn dadlau bod hanes o blaid y sefydliad yn yr un modd ag yr oedd hanes yn erbyn Awstria-Hwngari. Anodd gennyf gredu hynny rhywsut.

Felly dyma gloi fy sylwadau.

Oes 'na bosibilrwydd y bydd aelodaeth Cymru o'r DU wedi dirwyn i ben erbyn 2017?

Dwi'n credu i mi ateb bod posibilrwydd cryf o hynny er nad dyna fy nymuniad.

Oes 'na wersi o Awstria-Hwngari?

Wel mater i haneswyr yw hynny mewn gwirionedd ond fe fyddwn yn dadlau fod yr Ymerodraeth yn 1913 llawn mor gadarn a sicr ei dyfodol â'r UE heddiw.

Fe fyddwn yn dadlau ymhellach fod ymrwymiad nifer helaeth o wledydd yr UE i'r Undeb yn gadarn er fod yna rwystredigaeth fod perthynas dwy wlad yn dueddol o gael ei rhoi ar bedestal afresymol gan leihau'r teyrngarwch allai gael ei greu tuag at yr UE o fewn y gwledydd eraill.

Ac yn olaf fe fyddwn yn dadlau fod yr UE yn brin iawn o'r sefydliadau hynny a fyddai'n uno pobl, rhanbarthau a chenhedloedd y tu ôl i'r syniad a'r ddelfryd o undod gwleidyddol amlgenedl.

Yn fras mae gan yr UE lai o'i phlaid yn 2013 nag oedd gan Awstria-Hwngari yn 1913. Erbyn 1919 doedd yr Ymerodraeth yn ddim ond hanes. Pum mlynedd. Pum mlynedd a welodd Ymerodraeth a chanddi chwe chan mlynedd o hanes yn mynd i ddifancoll. Go brin y digwyddith hyn i'r UE ond onid doeth i'r dosbarth gwleidyddol yng Nghymru o leiaf ystyried y posibilrwydd na fydd yr UE yma am byth?

_____________________________________

Traddodwyd y ddarlith uchod, y drydedd yng nghyfres Darlithoedd Barn, yn Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau ar 6 Awst 2013. Dymuna Barn ddiolch i Brifysgol Bangor am adael inni gynnal y digwyddiad yn eu pabell.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Saunders: “Mae rhywbeth amdanat ti...”

Ymlaen >

Marwolaeth Seamus Heaney (1939-2013)