Un o nodweddion mwyaf dadlennol yr etholiad Ewropeaidd diwethaf – a’r mwyaf digalon, ar sawl ystyr – oedd cyn lleied o sôn a gafwyd yn ystod yr ymgyrch am wrthrych honedig y pleidleisio, sef Ewrop a’i Hundeb. Prin fod gan y tair plaid fawr sy’n bleidiol i integreiddio Ewrop unrhyw beth o gwbl i’w ddweud, bellach, ar y pwnc. Aeth y Torïaid hwythau hefyd yn gynyddol dawedog. Wrth iddynt ddynesu at ffurfio llywodraeth, mae dyn yn amau bod y mwyaf hirben yn eu plith erbyn hyn yn dechrau sylweddoli y gallai gweithredu eu polisi Ewropeaidd creiddiol – sef cynnig refferendwm ar Gytundeb Lisbon – yn hawdd arwain at yr argyfwng mwyaf difrifol ym mholisi tramor y Deyrnas Gyfunol ers dyddiau Suez. Argyfwng a oedd hefyd, wrth gwrs, yn ganlyniad i anallu’r Blaid Geidwadol i gydnabod y ffaith bod Prydain wedi colli ei phwysigrwydd a’i statws imperialaidd blaenorol. Plus ça change...
Yr unig blaid led-ddifrifol (rwy’n bod yn garedig) a oedd yn wirioneddol awyddus i drafod Ewrop oedd Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol – UKIP. Ysywaeth, mae ei dealltwriaeth hithau o’r pwnc mor wyrdroëdig o annigonol – Brwsel megis bwci-bo yn gweithio nos a dydd i danseilio hawl sylfaenol pob un o Ddeiliaid Ffyddlon Ei Mawrhydi i fwyta bwyd wedi ei heintio â chemegau a nofio mewn moroedd yn llawn carthion dynol – fel nad yw’n syndod fod cymaint o’r Aelodau rheini a etholir yn ei lliwiau i’r Senedd Ewropeaidd yn mynd ar gyfeiliorn.
Yn wyneb hyn oll, hawdd anghofio sut yr oedd hi brin ddegawd yn ôl. Yr adeg honno, ac yn arbennig felly yng Nghymru, fe gymerwyd yn ganiataol y byddai Ewrop – yn enwedig ‘Ewrop y Rhanbarthau’ – yn ganolog i’n dyfodol gwleidyddol.
Paham y ciliodd y ddelfryd o ‘Ewrop y Rhanbarthau’ o’r dychymyg gwleidyddol Cymreig? Yn un peth, fe brofodd y sefydliadau sydd i fod i ymgorffori’r ddelfryd honno yn andros o siom. Mae’n siwr fod yna yn rhywle bwyllgor sy’n fwy di-fudd na Phwyllgor y Rhanbarthau; ond rhaid cyfaddef fy mod yn ei chael hi’n anodd meddwl am un. Dyma’r siop siarad ddiarhebol. Yn sicr ddigon, mae’r syniad a goleddwyd gan rai ym Mhlaid Cymru ddechrau’r 1990au y gallai, gydag amser, ddatblygu’n ail siambr i’r Senedd Ewropeaidd, bellach yn ymddangos bron yn chwerthinllyd o naïf.
Y gwir amdani yw fod anallu cynulliad o ranbarthau Ewrop i ddatblygu llais ystyriol yn adlewyrchu’r ffaith mai ychydig iawn, iawn sydd gan ranbarthau Ewrop yn gyffredin. A bod yn deg, roedd arweinwyr Plaid Cymru wastad yn ymwybodol o hyn: dichon mai dyna un o’r rhesymau pam eu bod yn arfer yr ymadrodd ‘Ewrop y Rhanbarthau a’r Cenhedloedd Hanesyddol’ yn hytrach nag Ewrop y Rhanbarthau, yn unig. Hyd yn oed yn ystod awr fawr y freuddwyd ranbarthol Ewropeaidd, roedd cydnabyddiaeth nad oedd pob rhanbarth yn gyfartal. Rhagdybiwyd fod yna, eto, ddigon o debygrwydd sylfaenol rhwng yr unedau hyn i fod yn sail i ryw fath o undod a chyd-ddealltwriaeth. Roedd y rhagdybiaeth honno’n gwbl anghywir.
Er fod ’na wahaniaethau mawr rhwng aelod- wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd – megis rhwng Lwcsembwrg fach a’r Almaen, dyweder – y mae yna, wedi’r cyfan, ddolenni cyswllt amlwg. Yn bennaf oll, maent yn mwynhau’r breiniau a ddaw i’w rhan yn sgil y ffaith eu bod yn wladwriaethau sofran. Er bod gwahaniaethau enfawr rhwng Lwcsembwrg a’r Almaen, mae’r ffaith eu bod ill dwy yn wladwriaethau sofran yn golygu bod yna hefyd debygrwydd teuluol gwaelodol rhyngddynt. Nid felly y mae hi yn achos rhanbarthau Ewrop. Nid aelodau o’r un teulu mohonynt ond, yn hytrach, aelodau o rywogaethau cwbl wahanol.
Ceir tystiolaeth drawiadol o hyn mewn arolwg diweddar o agweddau etholwyr ar y gwastad rhanbarthol a gynhaliwyd gan griw o ysgolheigion – gan gynnwys Roger Scully a minnau o Gymru – dan arweiniad yr Athro Charlie Jeffery o Brifysgol Caeredin. Yn hytrach na syrthio i’r fagl arferol o gymharu tebyg efo’i debyg – Cymru a’r Alban, dyweder, neu’r Alban a Catalunya – fe geisiwyd cynnwys yn yr arolwg amrywiaeth eang o wahanol ranbarthau, gan adlewyrchu’r gwahaniaethau mawr a geir yn eu plith o ran statws cyfansoddiadol, lefelau llewyrch economaidd, nodweddion diwylliannol, natur hunaniaeth y ‘rhanbarth’ dan sylw, ac ati.
Hyd yma, casglwyd gwybodaeth mewn 14 rhanbarth: 3 ohonynt yn Awstria (gwladwriaeth ffederal, o safbwynt ei threfniadaeth gyfansoddiadol, ond gwlad lle ystyrir bod y gwahaniaethau hunaniaethol rhwng un ardal a’r llall yn bur fychan); 3 yn yr Almaen (gwladwriaeth ffederal arall, a gwladwriaeth arall sy’n cael ei hystyried fwy neu lai’n unffurf o ran hunaniaeth genedlaethol, er gwaethaf gwahaniaethau rhanbarthol eraill); 3 yn Sbaen (gwladwriaeth sydd wedi estyn mesur helaeth o ddatganoli i’w chymunedau ymreolus ers dyfodiad democratiaeth yng nghanol y 1970au, nifer o’r rheini yn ymgorffori a chynrychioli cenhedloedd penodol); 3 yn Ffrainc (gwladwriaeth ag iddi draddodiad hir o ganoli grym ac o unffurfioli diwylliannol, ond sydd bellach yn gynyddol ddatganoledig ac sy’n gartref i rai grwpiau sy’n parhau i arddel hunaniaeth ranbarthol, neu hyd yn oed genedlaethol, is-wladwriaethol); a 2 yn y Deyrnas Gyfunol, sef Cymru a’r Alban.
Er bod y data yma’n newydd sbon, a’n bod yn parhau i ymaflyd â’r problemau technegol o geisio’u hintegreiddio, gan wybod bod carfan – o leiaf – o blith darllenwyr Barn â diddordeb byw yn y pethau hyn, dyma gyhoeddi (am y tro cyntaf yn unman, debyg) ambell i ganlyniad er mwyn pwysleisio pa mor anghymarus yw agweddau ar draws rhanbarthau Ewrop.
Yn gyntaf, gadewch i ni droi at y teimlad o berthyn a geir ymhlith y trigolion tuag at y rhanbarth dan sylw, gan gymharu hynny efo’r teimlad tuag at y wladwriaeth y mae’r rhanbarth honno yn bodoli oddi mewn iddi. Fel y gwelir yn Nhabl 1, mae’r sampl o 14 rhanbarth yn rhannu’n ddigon twt. Mewn saith ohonynt, mae’r teimlad o berthyn tuag at y rhanbarth yn gryfach na’r teimlad o berthyn tuag at y wladwriaeth. Go brin ei bod yn gyd-ddigwyddiad fod 5 o’r 7 yn ‘genhedloedd hanesyddol’, chwedl Plaid Cymru. Mae’r ddau eithriad i hynny, hefyd yn ddiddorol. Un o’r Länder yn Nwyrain yr Almaen yw Thuringia, ac fel yng ngweddill yr hen ddwyrain mae hunaniaeth yr Ossi – a theimlad o ymddieithriad oddi wrth weddill y wlad – yn parhau’n gryf yno. Mae Bafaria, yn ei thro, yn fwy diddorol fyth. Er mawr syndod i’r ysgolheigion Almaenaidd sy’n rhan o’r prosiect – ac fel y cadarnheir eto yn y man – dyma hunaniaeth ranbarthol sydd â llawer o nodweddion cenedlaethol yn perthyn iddi: y math o hunaniaeth a allasai’n hawdd fod wedi blaguro’n hunaniaeth genedlaethol llawn petai amgylchiadau hanesyddol wedi bod yn wahanol.

O ran y 7 rhanbarth lle’r oedd graddfa’r teimlad o berthyn i’r rhanbarth yn llai na (neu’n gyfartal â’r) teimlad o berthyn tuag at y wladwriaeth, does dim dwywaith mai’r ddolen gyswllt rhyngddynt yw natur yr hunaniaeth diriogaethol a welir yn eu plith. Mewn byr eiriau, ni cheir ynddynt unrhyw lun ar hunaniaeth genedlaethol is-wladwriaethol. Gan gofio bod 4 o’r 7 yn daleithiau ffederal, ymddengys bod statws cyfansoddiadol yr ardaloedd dan sylw yn gwbl amherthnasol o ran yr ymdeimlad o berthyn a fegir ynddynt.
Mae Tabl 2 yn cynnig mesur mwy uniongyrchol o’r patrymau o hunaniaeth yn y 14 rhanbarth dan sylw. Bydd y cwestiwn a ofynnwyd yn gyfarwydd i ddarllenwyr Barn: gofynnwyd i’r sawl a holwyd nodi eu hymdeimlad o hunaniaeth gan ddewis hicyn ar ystod yn ymestyn o hunaniaeth wladwriaethol yn unig i hunaniaeth gwbl ranbarthol. Yn fwy diriaethol, yn yr achos Cymreig roedd 5 dewis: Prydeinig nid Cymreig; Mwy Prydeinig na Chymreig; Cydradd Gymreig a Phrydeinig; Mwy Cymreig na Phrydeinig; a, Cymreig nid Prydeinig. At ddibenion y tabl, hepgorwyd pob ateb arall.

Fel y gwelir, tra bod ’na wahaniaethau amlwg rhwng gwahanol wladwriaethau – er enghraifft, mae hunaniaeth ranbarthol yn amlwg yn gymharol gryf yn Awstria (eto, er peth syndod i’n cydweithwyr yno) – serch hynny, mae hunaniaeth ranbarthol ar ei chryfaf yn yr ardaloedd hynny lle mae’r hunaniaeth is-wladwriaethol yn un genedlaethol ei naws. Tua gwaelod y tabl ceir ardaloedd lle mae’n amlwg nad oes nemor ddim hunaniaeth ranbarthol o gwbl. Petaem ni wedi llwyddo i godi digon o arian i ymholi i agweddau pobl yn un o’r rhanbarthau a grëwyd ar gyfer Lloegr, mae dyn yn tybio mai yn y rhan hon o’r tabl y lleolid ei thrigolion hithau hefyd.
Ceir golwg ar oblygiadau cyfansoddiadol hyn oll yn Nhabl 3. Eto dyma gwestiwn sy’n gyfarwydd i ddarllenwyr Barn. Yn wir, dyma gwestiwn a ddatblygwyd gennym ar gyfer y cyd-destun Cymreig sydd bellach yn cael ei ofyn am y tro cyntaf y tu allan i’r cyd-destun Prydeinig. Mae’r cwestiwn yn gofyn i ymatebwyr ddynodi pa lefel o lywodraeth sydd â’r dylanwad mwyaf dros y modd y llywodraethir y rhanbarth dan sylw, ac wedyn pa lefel yn eu barn nhw a ddylai gael y mwyaf o ddylanwad. Yn yr arolwg dan sylw, cynigwyd tri opsiwn: y lefel Ewropeaidd, y lefel wladwriaethol berthnasol, a’r lefel ranbarthol berthnasol. Yn Nhabl 3 nodir y canrannau a ddywedodd mai’r lefel ranbarthol a ddylai gael y dylanwad mwyaf ynghyd â’r canrannau a nododd mai’r lefel honno sydd â’r dylanwad mwyaf ar hyn o bryd. Nodir hefyd y gwahaniaeth rhwng y ddwy ganran i ddangos graddfa’r bwlch rhwng dyhead a realiti, fel petai.

Fel y gwelir, mae’r Tabl yn awgrymu bod cefnogaeth bron yn gyffredinol ar draws y rhanbarthau ar gyfer llywodraeth fwy lleol – dim ots beth yw’r gyfundrefn gyfansoddiadol bresennol. Ond unwaith yn rhagor mae ’na wedd genedlaethol amlwg i’r ymatebion gyda’r canfyddiad o’r gwahaniaeth rhwng dyhead a realiti ar ei gryfaf yn yr union ranbarthau hynny lle mae hunaniaeth genedlaethol is-wladwriaethol hefyd ar ei chryfaf. Yr Alban, Catalunya a Chymru sydd ar frig y rhestr, a hynny er gwaetha’r ffaith fod llywodraethau Caeredin a Barcelona eisoes yn fwy dylanwadol nag unrhyw lywodraethau rhanbarthol eraill yn Ewrop.
Fel y gellir disgwyl, efallai, cafwyd patrwm tebyg i’r hyn a gafwyd pan holwyd am y dyheadau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol yr haen lywodraethol ranbarthol (Tabl 4). Y pum opsiwn a gynigwyd y tro hwn oedd: annibyniaeth; mwy o bwerau; y status quo; parhad yr haen ranbarthol gyda llai o bwerau; a diddymu’r haen ranbarthol yn gyfan gwbl. Er mwyn symleiddio ryw gymaint ar y Tabl, rwyf wedi cyfuno’r sawl sydd am fwy o bwerau gyda’r rheini sy’n ffafrio annibyniaeth – gan roi’r ffigwr olaf mewn cromfachau rhag ofn ei fod o ddiddordeb penodol. Rwyf hefyd wedi cyfuno’r diddymwyr (sef 9% o’r sampl Gymreig) efo’r rheini sydd am leihau grymoedd yr haen ranbarthol. Cafodd pob ateb arall ei hepgor o’r Tabl.

O gyflwyno’r data yn y modd yma, fe welir mai dim ond mewn 5 o’r 14 y cafwyd mwyafrif (yn hytrach na phlwraliaeth yn unig) o blaid mwy o bwerau. A’r rheini, fel y gellir mentro, oedd y mwyaf cenedlaethol o’r rhanbarthau.
Er na chawsant eu gwyntyllu heb sôn am eu hateb yn ystod yr etholiad Ewropeaidd, mae ’na gwestiynau dyrys ynglan â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Gyda’r Undeb wedi cynyddu mor sylweddol o ran maint, cynyddu hefyd a wnaeth maint y gagendor rhwng pobloedd Ewrop a’r sefydliadau Ewropeaidd sydd yn eu gwasanaethu. Ar y naill law, ceir ymdeimlad cynyddol o ymddieithriad a drwgdybiaeth. Ar y llaw arall, gwelir gwleidyddion a gweision sifil Ewropeaidd sy’n ofni bod degawdau o waith gofalus yn cael ei beryglu gan dwf poblyddiaeth diddeall a disynnwyr. Mae’r naill ochr a’r llall fel petaent yn siarad heibio i’w gilydd. Nid ym Mhrydain yn unig mae gwleidyddion domestig wedi ildio’r maes gan hen roi’r gorau i geisio cynnig arweiniad ar y materion hyn.
I bobloedd di-wladwriaeth (sofran) fel y Cymry, mae’r her yn fwy dyrys fyth. Sut mae ceisio dylanwad ar y lefel Ewropeaidd, a hynny mewn sefyllfa lle mae ehangu’r Undeb wedi cadarnhau unwaith yn rhagor mai llais y gwladwriaethau sy’n cyfrif. Yn sicr, rhith oedd ac ydyw Ewrop y Rhanbarthau. Cenedligrwydd sy’n cyfrif, ac i raddau bychan y mae Cymru’n cyfrif ar y lefel Ewropeaidd. Mae hynny oherwydd bod Cymru’n genedl ac nid yn rhanbarth.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

