Thema dywyll Thema golau

Dal gafael yn lliwiau’r enfys

Norma Glass. Llun: Catrin Evans

Daeth sgwrs yn ddiweddar efo aelod o hen deulu Iddewig yn Abertawe â realiti hyll gwrth‑semitiaeth ein dyddiau ni yn fyw i’n colofnydd, ond fe’i hatgoffwyd hefyd o’r frwydr barhaus yn erbyn hynny.

Rwy’n cwrdd â Norma Glass yn ei chartref yn un o faestrefi Abertawe ar noson braf o fis Mehefin. Drwy’r ffenest fawr yn ei fflat mae haul y diwedydd yn goleuo’r ystafell gysurus a’i nenfwd uchel, ac mae Norma fechan fywiog, yn ei throwsus pinc a’i thrainers, a chyda’i gwên lydan, yn groeso i gyd. O fewn y pedair wal yma mae yna greiriau a llyfrau di‑rif sy’n adlewyrchu ei diddordeb mewn celf a diwylliannau o bob math. Ond un o’r symbolau amlycaf yn y cartref clyd hwn yw Seren Dafydd. Yn ei geiriau ei hun, mae Norma yn Iddewes Gymreig falch. Cafodd ei geni a’i magu yn Abertawe ac yn y fan hon y mae wedi codi ei theulu. Gyda’r ddwy ohonom yn cyfarfod yn ystod mis Treftadaeth Iddewig, mae’n fwy na hapus i gamu’n ôl mewn amser ac adrodd ei hen hen hanes.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ar gyfer y barbeciw

Ymlaen >

Butlins a Fi