Thema dywyll Thema golau

Dameg y caws – gwleidyddiaeth 2020

erthygl-rhagfyr-2020-i-ionawr-2021-2168-1071 erthygl-rhagfyr-2020-i-ionawr-2021-2168-1071
Megis syllu ar gysgodlun y mae ei amlinell yn glir ond ei du fewn yn dywyll, go brin y byddai neb am roi ond hyn a hyn o sylw i minutiae diflastod eithriadol misoedd Covid-19. Digwyddiadau’n ymwneud â’r pla yn hytrach na’r pla ei hun sy’n bwysig o ran dyfodol y gymdeithas, ac mae hen ddigon o’r rheini. Ar y llwyfan rhyngwladol, Black Lives Matter. Yng Nghymru, Yes Cymru. Ac yng Nghymru, Black Lives Matter hefyd wrth gwrs. Pethau anarwyddocaol os ydi rhywun yn synio am wleidyddiaeth fel cyfarfod o is-bwyllgor seneddol. Pethau gyda’r pwysicaf o feddwl am bolitics fel ewyllys y bobl. O ran Black Lives Matter, mi fydd yn arwain, gobeithio, at Gymru Gymraeg amlhiliol a thecach. Eto, nid oes gwleidydd Cymraeg du na bardd Cymraeg du, ac mae llawer i’w gyflawni cyn creu gwlad sy’n gyfiawn gyfartal. O ran Yes Cymru, maen nhw wedi rhoi mater ymreolaeth Gymreig ar yr agenda wleidyddol mewn ffordd ddifrif am y tro cyntaf er 1896.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-rhagfyr-2020-i-ionawr-2021-2167-1070

Nid Gwyddel ffug yw’r Arlywydd Biden

Ymlaen >
erthygl-rhagfyr-2020-i-ionawr-2021-2169-1072

Moethusrwydd yr ailwerthuso