Thema dywyll Thema golau

Dan Ganu: Holi Arwel Gruffydd

 

Mae’n bosib mai Bryn Terfel, heb yn wybod iddo, a yrrodd Arwel Gruffydd ar hyd y llwybr sydd wedi ei arwain erbyn heddiw i barchus arswydus swydd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. Yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog, 1987, daeth Arwel yn ail yng nghystadleuaeth yr unawd bariton i’r cawr o Bant-glas. Ac ymhen blynyddoedd, pan ddaeth hi’n fater o ddewis llwybr ei yrfa, gyda cherddoriaeth yn tynnu un ffordd a drama’n tynnu’r ffordd arall, fe gofiodd Arwel am y profiad ym Mhorthmadog.

Cerddoriaeth oedd ei gariad cyntaf. Nid yn unig canu ond chwarae piano a chorn. Ac yntau’n tyfu i fyny yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, pan oedd yn naw oed ymunodd â band yr Oakley. Maes o law cafodd flas ar arwain y band hwnnw ambell dro. Yn y coleg ym Mangor, astudiodd gerddoriaeth fel ail bwnc (gyda Chymraeg fel prif bwnc) gan barhau i ganu ac arwain corau. Ond erbyn hynny roedd diddordeb arall yn dechrau cydio o ddifri – actio. Roedd wedi cael llwyddiant mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus yn yr ysgol, ond ym Mangor y grymusodd y wefr o berfformio ar lwyfan, yn enwedig yng nghynyrchiadau’r Gymdeithas Ddrama o dan gyfarwyddyd y darlithydd a’r dramodydd William R . Lewis. Tra oedd yn dal yn fyfyriwr, cafodd ran mewn ffilm ar gyfer S4C gan Endaf Emlyn, Stormydd Awst. Yn 1987 yr oedd hynny, blwyddyn Eisteddfod Port a blwyddyn yr epiffani, fel y mae Arwel yn ei ddisgrifio – y sylweddoliad mai ym myd y ddrama y byddai ei ddyfodol.

‘Fy chwaer ddaru ddigwydd deud, wrth inni deithio yn y car un diwrnod, “Pam nad ei di yn actor?” Tan hynny, doedd o ddim wedi fy nharo y gallwn wneud bywoliaeth o actio. Os o’n i’n meddwl o gwbl am yrfa fel perfformio, ym myd cerddoriaeth yr oedd hynny. Ond rwan, fe wnes i ddechrau gofyn i mi fy hun – be ydw i isio o ddifri mewn bywyd? Ac roedd y profiad o ddod yn ail i Bryn Terfel rywsut yn crisialu’r peth. O ran cerddoriaeth a chanu, ro’n i’n teimlo ’mod i ymhell o fod yr un safon â rhywun fel Bryn, hynny yw y safon angenrheidiol i fod yn llwyddiant fel canwr neu gerddor proffesiynol. Ac erbyn hynny, hefyd, roedd gen i fwy o hyder yn fy ngallu fel actor a doedd syniad fy chwaer ddim yn ymddangos mor wirion.’

Ar ôl graddio, felly, penderfynodd fynd i goleg actio, sef ysgol ddrama DouglasWebber yn Llundain. Arweiniodd hynny at sawl rhan mewn dramâu llwyfan, gyda Chwmni Theatr Gwynedd, Hwyl a Fflag a Bara Caws. Cafodd rannau hefyd mewn cynyrchiadau ffilm a theledu (gan gynnwys Cylch Gwaed a Hedd Wyn) a’r gwaith hwnnw a daniodd ei ddiddordeb yn yr ochr gyfarwyddo.

‘Wrth wylio Endaf Emlyn wrth ei grefft wnes i sylweddoli mewn gwirionedd mai ei job o o’n i isio’i gwneud! Ond ro’n i’n sylweddoli nad oedd gen i’r profiad na’r sgiliau i wneud y job honno, ac felly dyma gychwyn ar brentisiaeth dawel a hir yn y maes.’

Maes o law aeth ati i ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilmiau byrion ei hun. Yn 2002 enillodd un o’r rhain, Cyn Elo’r Haul, Wobr D. M. Davies iddo yng Ngwyl Ffilmiau Ryngwladol Caerdydd. Yn 2008, ar ôl cyfnod fel Rheolwr Llenyddol gyda Sgript Cymru ac yna Sherman Cymru, daeth yn Gyfarwddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru.

Pinacl ei gyfnod fel cyfarwyddwr gyda Sherman Cymru, yn ddi-os, oedd Llwyth a fu’n teithio y llynedd. Cafodd y ddrama ddwys-ddoniol hon gan Dafydd James, gyda’i phortread o griw o fechgyn hoyw allan ar noson gêm rygbi yng Nghaerdydd, groeso brwd gan gynulleidfaoedd ledled y wlad a chan y beirniaid hefyd, gyda rhai o’r adolygwyr yn mynd mor bell â’i disgrifio fel trobwynt yn hanes y ddrama broffesiynol Gymraeg. A’r union ddrama hon fydd cynhyrchiad cyntaf Arwel i’r Theatr Genedlaethol gan fod y cwmni’n uno gyda Sherman Cymru i’w hail-lwyfannu. Byddant yn ei pherfformio i ddechrau yng ngwyl y Fringe, Caeredin, ym mis Awst (gydag uwch-deitlau), yn y gobaith o ddenu diddordeb rhyngwladol ynddi, cyn mynd ar daith, unwaith eto, trwy Gymru.

Mae Arwel wrth ei fodd fod ei swydd newydd yn dod â chyfle iddo ail-lwyfannu drama sy’n golygu llawer iddo, yn broffesiynol, ac yn bersonol hefyd, fel person hoyw.

‘Dyma oedd y tro cyntaf i mi, fel cyfarwyddwr, ymdrin â drama hoyw. Nid mai drama am fod yn hoyw ydi hi’n bennaf. Mae hi’n ymwneud â hunaniaeth gyfoes Gymreig a Chymraeg yn ehangach ond ei bod hi’n gwneud hynny drwy ddefnyddio stori am griw o ddynion hoyw. Ac mi o’n i’n betrusgar, am ’mod i’n ansicr sut fyddai’r ddrama’n cael ei derbyn oherwydd natur y deunydd, ond hefyd am ’mod i, fel llawer o ddynion hoyw Cymraeg, wedi ymrafael â chwestiynau’n ymwneud â hunaniaeth hoyw a Chymreig. Dydi hi ddim bob amser yn hawdd bod yn lleiafrif o fewn lleiafrif. Ond be oedd yn braf am yr ymateb gwresog i Llwyth oedd nad oedd yr elfen hoyw ddim wedi gelyniaethu neb. Mae’n arwydd ein bod ni wedi symud ymlaen fel cenedl, ein bod ni’n fwy eangfrydig ac aeddfed.’

Ond beth am ei weledigaeth gyffredinol ynglyn â’r Theatr Genedlaethol? Dywed ei fod eisiau adeiladu ar lwyddiannau’r cwmni hyd yma ond gan ymateb hefyd i’r feirniadaeth a fu arno mewn blynyddoedd diweddar. Hoffai i’r cwmni fod yn fwy hyblyg gan dorri ar y patrwm a’i nodweddodd hyd yma o gael tri chynhyrchiad teithiol prif-ffrwd y flwyddyn er mwyn cadw diddordeb pobl, peidio â mynd i rigol a sicrhau bod y cwmni’n cyfrannu at ‘esblygiad y cyfrwng theatraidd’. Er ei bod yn fwriad ganddo barhau â’r arfer o lwyfannu clasuron weithiau, hoffai weld ambell gynhyrchiad mwy cymunedol ei naws gyda chast llai. Ond ac yntau wedi treulio blynyddoedd yn gweithio gydag awduron newydd yng Nghaerdydd, yn datblygu eu sgriptiau, prin ei fod yn syndod ei fod hefyd yn rhoi pwyslais ar feithrin ysgrifennu newydd. Mae’n argyhoeddedig fod talent ysgrifennu, a syniadau am ddramâu, i’w cael yng Nghymru, ond fod angen gwaith a pherswâd i’w dwyn i olau dydd. Ac felly mae Arwel yn treulio’r wythnosau cyntaf yn ei swydd newydd yn ‘plannu hadau’ chwedl yntau – mynd o gwmpas yn trafod syniadau gyda hwn a’r llall gan obeithio y bydd ambell hedyn o leiaf yn syrthio ar dir ffrwythlon.

Os caiff ei ffordd, bydd y Theatr Genedlaethol o dan Arwel yn adlewyrchu pob math o agweddau ar fywyd y Gymru gyfoes, yn un ‘gynhwysol’ yn yr un modd ag yr oedd Llwyth yn gynhwysol, meddai. Yn sicr, bydd sefydlu perthynas hefyd â’r gynulleidfa ddi-Gymraeg ar yr agenda.

‘O ystyried y gair “cenedlaethol”, mae’n bwysig nodi mai Theatr Genedlaethol Cymru ydi enw’r cwmni yn hytrach na Theatr Genedlaethol y Cymry Cymraeg.Wrth gwrs mai theatr ar gyfer Cymry Cymraeg ydi hi, ond mae gan bobl ddi-Gymraeg hefyd berthynas â’r iaith ac mae’n bwyig archwilio a mynegi’r berthynas honno ar lwyfan. Mae gan sefydliad cenedlaethol Cymraeg fel hwn ddyletswydd genhadol efallai. Does dim eisiau bod ofn y syniad yna o genhadaeth. Mi fydd o yna yn y mix.’

Wrth ddechrau ar y swydd, mae Arwel yn awyddus i dalu teyrnged i ddau gyfarwyddwr Cymreig sydd wedi bod yn ddylanwad mawr arno, yn enwedig y diweddar Graham Laker, cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Gwynedd gynt, ac Elen Bowman (cyfarwyddwr sioe ddiweddaraf y Theatr Genedlaethol, Deffro’r Gwanwyn). Bu cefnogaeth a chyfeillgarwch y ddau yn allweddol i ddatbygiad ei yrfa, ac Elen yn anad neb a’i hysgogodd i ddilyn trywydd y cyfarwyddwr.

Ynghanol yr holl drafod difrifddwys ar bethau mawr fel gweledigaeth, syniadau a dylanwadau, mae’n rhannu un atgof doniol. Mae’r atgof hwnnw am Tim Lyn yn ei gyfarwyddo yn un o’i rannau ffilm cyntaf, Cylch Gwaed, ac yntau’n actor ifanc a dibrofiad. Actio mecanic mewn garej ac roedd yn methu’n glir â chael gafael ar y cymeriad – nes i Tim Lyn ddweud wrtho am ‘chwythu tôn i mewn i beipen egsôst a chwarae’r olygfa’r un pryd’. Cyngor od, ond fe weithiodd. Datglowyd enaid y cymeriad. Ac erbyn hyn mae Arwel ei hun yn gredwr mawr mewn ‘cael hwyl a chwarae gemau’ wrth ddatblygu actorion yn eu rhannau.

Gellir disgwyl, felly, y bydd yna gryn dipyn o chwerthin i’w glywed yn dod o ystafell ymarfer Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. O ystyried yr her fawr sy’n wynebu’r cwmni a’i fos newydd, mewn cyfnod o gystadleuaeth ffyrnicach nag erioed o du cyfryngau adloniant eraill, a chyfnod hefyd pan fo’r celfyddydau’n gyffredinol dan wasgfa ariannol, fydd y gallu i gael hwyl wrth greu ddim yn ddrwg o beth.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Argyfwng y Diwydiant Cerddoriaeth

Ymlaen >

Caffis Cymru : Y Caban, Aberystwyth