Thema dywyll Thema golau

Datrys y dirgelwch?

Yn y llyfryn hwn ceir ymdrech i ddatgelu’r ‘gwir’ am ladd Llywelyn yn 1282. Ond er mwyn perswadio’u darllenwyr o gywirdeb eu dadleuon, mae REBECCA THOMAS yn teimlo y dylai’r awduron fod wedi cyfeirio mewn mwy o fanylder at eu ffynonellau. Mae tuedd hefyd i anwybyddu’r ffaith fod haneswyr eisoes yn fwy nag ymwybodol o natur broblematig rhai o’r ffynonellau hyn.

Llofruddio Llywelyn: Cynllwyn 1282
Geraint Jones ac Ieuan Wyn
tt. 48, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, £6

Argraffwyd yma ddwy ddarlith gan Geraint Jones ac Ieuan Wyn sy’n archwilio amgylchiadau lladd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282. Mae’r ail, ‘Ar drywydd y Gwir’ gan Ieuan Wyn, yn pwyso ar waith Anthony Edwards wrth ailymweld â’r ffynonellau cynradd a’r dystiolaeth mai trwy gynllwyn a brad y lladdwyd Llywelyn, ac mai yn Aberedwy y digwyddodd hyn. Mae digon yma i gnoi cil arno a cheir sylw i fathau gwahanol o ffynonellau, gan gynnwys croniclau o Loegr a barddoniaeth Gymraeg.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Fel yr Haul

Ymlaen >

Dychweliad Marged