Thema dywyll Thema golau

Dave y llythyrwr – a phrociwr y sefydliad

erthygl-awst-2021-2256-1157 erthygl-awst-2021-2256-1157
Yn fy ngholofn ddiwethaf mi wnes i ddigwydd dyfynnu ‘Cân i Gymry’ gan Datblygu wrth drafod gwyliau haf a sut roedd ein teulu ni ‘wastad yn mynd i Lydaw, byth yn mynd i Ffrainc’. Ychydig a wyddwn i ar y pryd, wrth gydnabod fy nghrach-fraint fy hun, y byddem yn colli David R. Edwards ychydig ddyddiau wedyn. Doedd neb tebyg i Dave Datblygu am fedru rhoi gewin dan grachan y caswir, nes bod rhywun yn gwingo mewn hunanadnabyddiaeth chwyslyd. Dwi wedi gweld isio Dave yn ofnadwy yn ddiweddar, wrth i ddadl boeth (arall) dorri allan ar Trydar am y gair ‘crachach’. Wn i ddim yn iawn beth oedd asgwrn y gynnen, ond fwya sydyn roedd yna lond y trydarfyd o Gymry Cymraeg dosbarth canol yn gwadu’n groch fod y fath beth â ‘chrachach’ yn bodoli. Dwi’n cofio clywed ‘Cân i Gymry’ am y tro cynta a theimlo’n amddiffynnol a reit ryw bwdlyd amdani. Roedd gen i ‘radd da yn y Gymraeg’ ac os nad oedd gen i Volvo roedd gen i’n sicr fathodyn Tafod y Ddraig.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-awst-2021-2255-1156

Cofio Elystan Morgan – dyn dewr o argyhoeddiad anghyffredin

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Awst