Thema dywyll Thema golau

Ddeugain mlynedd yn ôl

Eluned Phillips yn cael ei hurddo fel enillydd y Goron, Eisteddfod Llangefni 1983 Eluned Phillips yn cael ei hurddo fel enillydd y Goron, Eisteddfod Llangefni 1983
Yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983 fe ddigwyddodd dau beth sydd wedi aros yn fyw iawn yn fy nghof dros yr holl flynyddoedd a aeth heibio’n frawychus o gyflym ers hynny. Testun llawenydd llwyr ac un sydd wedi parhau a chynyddu hyd y dydd heddiw yw un o’r digwyddiadau hynny. Mae’r llall, ac efo hwnnw dwi’n cychwyn, yn fwy cymhleth ac astrus ond ar yr un pryd yn hynod ddiddorol. Ymwneud y mae â’r ymateb anhygoel a fu i fuddugoliaeth Eluned Phillips yng nghystadleuaeth y Goron yn Llangefni. Honno oedd ei hail goron genedlaethol. Roedd hi eisoes wedi ennill coron y Bala yn 1967. Yn y cylchoedd barddol ac academaidd roedd y stori’n dew ar y pryd bod Ms Phillips wedi cael ‘cymorth’ i gyfansoddi ei phryddest goronog ond wnaeth neb feiddio crybwyll hynny’n gyhoeddus. Gwahanol iawn oedd y sefyllfa ar ôl ei buddugoliaeth yn 1983. Ar Newyddion Saith S4C – Llangefni oedd Prifwyl gyntaf y Sianel – fe ddarlledwyd un o’r cyfweliadau rhyfeddaf a mwyaf ych-a-fi a welais i erioed.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Dinas Istanbwl

Erdogan yn ôl eto yn ei balas

Ymlaen >
Dafydd Owain mewn fideo gan S4C

Croeso i fyd Uwch Dros y Pysgod