Thema dywyll Thema golau

Ddoe a heddiw rhwng haenau

Hâf Weighton yn ei stiwdio a delweddau o'i llyfr braslunio. Llun Hâf: Noah Bakour. Llun y gwaith celf: Dewi Tannatt Lloyd

Mae arddangosfa sydd newydd agor yn Rhuthun yn fyfyrdod ar fyd y stryd fawr. Bu’r artist tecstiliau HÂF WEIGHTON yn sôn wrth Barn am ei chreadigaethau lliwgar.

Os oes llawer o fusnesau a phobl wedi cefnu ar y stryd fawr, nid felly Hâf Weighton. I’r gwrthwyneb, mae’r stryd fawr wedi bod yn atynfa barhaus iddi fel artist ers tro. O feddwl mor llwm yr olwg yw cymaint o strydoedd canolog ein trefi a’n dinasoedd bellach, efallai y bydd rhai yn synnu bod lluniau Hâf ohonynt mor lliwgar a phrysur. Ond lluniau sy’n gwneud mwy na dogfennu yw’r rhain. Tra mae’r adeiladau yn cynrychioli llefydd go iawn, fel y dynoda eu teitlau, yma mae byd solat y cerrig a’r brics yn cyfarfod byd y dychymyg. Mae cyfuniad haniaethol o ddarnau o ddefnydd, paent, gwaith pwytho ac argraffu’n meddiannu rhannau helaeth o sawl llun, gydag aml i sblash o liw neu siapiau ar draws blaendir gwyn neu olau. Dro arall mae llinellau a sgwigls duon ar draws y darlun cyfan. Effaith y cyfan yw rhoi gwedd fwy dieithr ar olygfa gyfarwydd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Llenor y chwyldro

Ymlaen >

Chenin Blanc ar noson oer