Thema dywyll Thema golau

Degawd fy Mrawd wrth y Llyw

Roeddwn i yn y Senedd at y dathliadau ar yr wythfed a’r nawfed o Ragfyr, a chyn i Rodri roi ei araith olaf ar brynhawn y nawfed, gofynnais iddo amser cinio sut oedd yn teimlo. Ystumiodd â’i ddwylo ei fod yn bur emosiynol. Dywedais wrtho ei fod yn ddyn oedd wastad yn gallu cuddio’i emosiynau, ac felly y bu, wrth gwrs. Aeth fy meddwl yn ôl dros lawer o bethau, a chofio’r prynhawn y siaradodd am y tro cyntaf yn San Steffan yn 1987, yn aelod dibrofiad. Cyn i Mam a minnau fynd i fyny i’r oriel gyhoeddus, gallwn weld ei fod braidd yn nerfus. D’wedais wrtho, ‘Nawr cofia un peth. Roedd Tom Ellis Cynlas, chwip Gladstone, yn rhannu llwyfan ar Bwnc y Tir gyda Hen Dat- cu Blaenrolchfa, a dywedodd Tom Ellis wrtho mai ef oedd y siaradwr gorau ar wleidyddiaeth y tu allan i San Steffan. Does bosib na elli di, a’r holl addysg yna yn Rhydychen a Harvard, wneud yn well na Hen Dat-cu.’ Gwyddwn fod Rhodri yn falch iawn ohono, o gofio hefyd fod tad-cu i hwnnw, Morgan Morgan, wedi ei garcharu am arwain Terfysg Beca yng Ngorllewin Morgannwg. Sythodd ei gefn ar unwaith, a chodi’i ên, a cherdded mewn i’r Ty. Siaradodd yn huawdl, gan roi chwinc i ni yn yr oriel pan eisteddodd lawr. 

Un rheswm pam y mae Prif Weinidogion yn ei chael hi’n anodd i gysgu’n esmwyth yw ofni codi’r bore a chael bod rhywbeth adfydus wedi digwydd yn ystod y nos – fel y dywedodd Macmillan, ‘Events, dear boy, events’ yw gofid mawr yr un sy’n dal yr awenau. Mae trafferthion teuluol ambell Brif Weinidog ar ddechrau 2010 yn atgoffa dyn o’r peryglon. I ryw raddau mae hyd yn oed tylwyth Prif Weinidog ar bigau’r drain, rhag ofn. Fel y dywedodd Rhodri ei hun, mae’r Cynulliad wedi bod yn ddi-sgandal, ac wedi cadw ei urddas. A diolch am hynny. Ond mae’r teulu i gyd yn gallu anadlu’n fwy esmwyth wedi deng mlynedd o fod yng ngoleuni llachar y cyfryngau. 

Ar y nawfed o Ragfyr roedd y tylwyth, y plant a’r wyrion agos i gyd, wedi dod i oriel gyhoeddus y Senedd i glywed Rhodri yn traethu am y tro olaf yn ei swydd. Y peth rhyfedd a’m trawodd y prynhawn hwnnw oedd cof amdanom ni’n dau yn 1950 yn cael ein gwahodd i Erw’r Delyn, Penarth, i barti pen-blwydd Elfed (1860–1953) yn 90 mlwydd oed. Gan fod yna genhedlaeth wedi codi ‘nad adnabu Joseph’ gwell imi ddweud fod Elfed nid yn unig yn bregethwr a bardd ac archdderwydd enwog, ond hefyd yn y 1890au yn un o arweinwyr Cymru Fydd. Elfed yn Ionawr 1896 a wnaeth y cynnig tyngedfennol yng Nghasnewydd i uno Rhyddfrydwyr y De â mudiad Cymru Fydd a oedd dan law Lloyd George. Gwrthodwyd y cynnig yn llwyr, dan anogaeth Robert Bird – yr oedd ei ferch Miss Bird yn gymdoges inni yn Radur, Caerdydd, am flynyddoedd. Trychineb i Gymru Fydd, a chenedlaetholdeb yn colli’i ffordd am genhedlaeth gyfan. Meddyliais am fethiant Cymru Fydd bryd hynny a llwyddiant y Cynulliad, gan mlynedd yn hwyr. Ond daeth rhywbeth rhyfeddach i’m cof am y parti pen-blwydd hwnnw. Gofynnodd Rhodri i Elfed ar ôl tê, ‘Wel, pam y’ch chi wedi gofyn i ddau fachgen bach i ddod i ddathlu’ch pen blwydd? Oes dim ffrindiau gyda chi o’ch oedran eich hunan?’ Ac ebe Elfed, ‘ Ah, machgen i, rwyf wedi’ch dewis chi yn arbennig iawn. Rwyf am i rywun fy nghofio yn yr unfed ganrif ar hugain.’ Yn yr oriel wrth fy ochr yr oedd wyrion Rhodri, un ohonynt ychydig dros deirblwydd oed. A meddwl yr oeddwn, tybed a fydd ef yn gallu cofio’r achlysur hwn yn nechrau’r ail ganrif ar hugain?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd - Eira

Ymlaen >

Ferrari a Golf GTI