Thema dywyll Thema golau

Delweddau’r cyfnod clo

erthygl-awst-2021-2253-1154 erthygl-awst-2021-2253-1154
Adolygiad o ‘Oriel Lockdown’, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Gwireddu’r cysyniad yw rhagoriaeth yr arddangosfa hon. Gwahoddwyd artistiaid o bob cwr i afon gwaith yn ymwneud ag unrhyw agwedd o’r pandemig – o’r firws a’r salwch, yr hunanynysu a’r newid byd, i brofiad yr unigolyn, y gymdogaeth a’r byd. Ac roedd penrhyddid o ran cyfrwng a maint y gwaith. Daeth dros 1,000 o weithiau i law drwy ddulliau digidol. O blith y rhain detholodd Ffion Rhys, Curadur Arddangosfeydd y Ganolfan, ac Anthony Shapland, Cyfarwyddwr Creadigol canolfan artistiaid g39, Caerdydd, bron 400 o ddarnau, yn weithiau unigol a chyfresi o waith. Yr hyn a darodd y detholwyr oedd y straeon a oedd wrth gefn cynifer o’r ceisiadau. Penderfynwyd peidio â gwahaniaethu rhwng y proffesiynol a’r amatur wrth ddewis gwaith gan 160 o artistiaid. Dyma arddangosfa agored yng ngwir ystyr y gair. Sioe ddemocrataidd. Ac er yr ymdrech gan y curaduron i ddilyn themâu, mae’r ystod o gyfryngau ac arddulliau yn syfrdanol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-awst-2021-2252-1153

Llacio cyfyngiadau – y pen ynteu’r galon sy’n trechu?

Ymlaen >
erthygl-awst-2021-2254-1155

Croeso i Wlad yr Asyn – holi Wyn Mason