Thema dywyll Thema golau

Dewi Myrddin Hughes 1941-2026

Dewi Myrddin Hughes

Gogleddwr uchel ei barch a dreuliodd ei holl yrfa yn gweinidogaethu mewn eglwysi yng nghymoedd Morgannwg a dwyrain Sir Gaerfyrddin.

Roedd Dewi yn frodor o Lansannan, Sir Ddinbych, a dreuliodd ei holl yrfa yn gwasanaethu cynulleidfaoedd yng nghymoedd glofaol de Cymru. Aeth i’r Rhondda ar daith gasglu pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Bala‑Bangor, syrthio mewn cariad â’r lle a phenderfynu taw yno yr hoffai ddechrau ei weinidogaeth. Cafodd ei ddymuniad pan dderbyniodd alwad yn 1965 gan ddwy eglwys yn y Rhondda Fach, Saron, Ynys‑hir, ac Ebenezer, Tylorstown.

Yn Llansannan y derbyniodd ei addysg gynradd cyn symud ymlaen i’r ysgol ramadeg yn Ninbych. Oddi yno aeth i Goleg Bangor gan ennill gradd anrhydedd yn y Gymraeg a B.D. o Goleg Bala‑Bangor. Pan oedd yn ei arddegau, derbyniwyd Dewi yn aelod yng nghapel y teulu, Capel Coffa Hiraethog, ac yn fuan dechreuodd gymryd rhan yng ngwasanaethau a holl weithgareddau’r eglwys. Sylweddolodd yn gynnar iawn taw’r weinidogaeth fyddai ei briod alwedigaeth.

Pan gyrhaeddodd Dewi Gwm Rhondda, roedd yno garfan gref o weinidogion profiadol a byddai bob amser yn dweud mor ddyledus oedd i’r rhain, am eu cefnogaeth a’u cymorth ymarferol wrth iddo ddechrau ar ei weinidogaeth ac yn gorfod ymgodymu am y tro cyntaf â ‘bagad gofalon bugail’. Roedd y blynyddoedd a dreuliodd yn Ynys‑hir yn rhai hapus. Cyn cyrraedd, roedd Dewi wedi priodi â Blodwen Morgan a gyfarfu yn y coleg a chyfoethogwyd eu bywydau’n fawr pan aned eu dau fab, Aled ac Ifan.

Yn 1971 cafodd Dewi alwad i ofalu am Gapel Newydd, Cwmllynfell. Pentref glofaol, cymdogol, tebyg i Ynyshir oedd ei ail gartref ond bod yr ardal dipyn yn Gymreiciach a phan gafodd ei drydedd alwad yn 1981 aeth ymlaen i Rydaman i fod yn weinidog ar Gellimanwydd ym maes y glo carreg.

Roedd gan Dewi bersonoliaeth gyfeillgar ac agos atoch a barai i bawb ymddiried ynddo a’i barchu. Roedd ganddo hefyd egwyddorion oedd yn bwysig iawn iddo, yn enwedig ei heddychiaeth a’i wladgarwch, a glynai wrthynt yn ddigyfaddawd yn ei ffordd dawel a chadarn. Wrth bregethu pwysleisiai berthnasedd yr efengyl i amgylchiadau heddiw a theimlai’n gryf fod rhaid i eglwysi ymaddasu i gwrdd â gofynion y byd sydd ohoni. Hyd yn oed wedi iddo ymddeol yn swyddogol yn 2006, arweiniodd y fenter o sefydlu Capel y Nant yng Nghlydach, Cwm Tawe. Golygai hyn ddod ag aelodau a hanai o wahanol enwadau’r ardal at ei gilydd ac addasu hen adeilad capel traddodiadol at ddibenion cyfoes.

Pan oedd yn y coleg, roedd Dewi wedi ymddiddori yn y Gymdeithas Ddrama a manteisiodd ar y diddordeb hwn ym mhob un o’i gapeli er mwyn dod â grwpiau ynghyd i gydweithio’n greadigol. Diddordeb arall oedd ganddo oedd gwylio tîm pêl‑droed Abertawe. Prynai docyn tymor bob blwyddyn ac roedd wrth ei fodd yn cefnogi’r Swans.

Yn 1990 cafodd y teulu ergyd drom pan fu farw Blodwen yn dilyn cystudd hir a chreulon. Roedd hi wedi bod yn gefn iddo ym mhob un o’i ofalaethau ac roedd colli cymar annwyl a thalentog, yn gymharol ifanc, yn drychineb. Pan ailbriododd ag Annette, gweddw ei gyfaill y Parch Gareth Thomas, yn 1995, cafodd nid yn unig wraig o gyffelyb fryd ac anian ond cariad a chefnogaeth lwyr teulu newydd. Amlygwyd hyn yn arbennig yn ystod ei gystudd olaf, blin.

Roedd gan bawb feddwl uchel o ddoniau a phersonoliaeth gynnes Dewi, ei gadernid tawel a’i gydbwysedd barn. Gwelwyd hyn pan gafodd ei ethol yn Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1999 wrth i’r enwad wynebu cyfnod heriol iawn yn ei hanes. Gwyddent y byddai Dewi yn arweinydd cytbwys a chadarn am ei fod ym marn pawb, yn anad unpeth arall, ‘yn ddyn da’. Braint oedd cael ei gyfrif yn gyfaill.

• Ganed Dewi Myrddin Hughes ar 9 Ebrill 1941. Bu farw ar 17 Mawrth 2026.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Llŷr Gruffydd 1938-2025

Ymlaen >

Dyfed Evans 1925-2026