Mae’n 60 mlynedd ers i Dic Jones gipio’r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan gyda’i awdl ‘Cynhaeaf’. Fe’i disgrifiwyd ar y pryd gan un o’r beirniaid, Thomas Parry, fel ‘un o anesboniadwy wyrthiau’r awen… un o’r awdlau gorau a ddaeth erioed o gystadleuaeth Eisteddfodol’. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 1976, daeth Dic i’r brig drachefn yn Aberteifi gyda’i awdl orchestol ‘Gwanwyn’, ond am resymau sy’n dra hysbys Alan Llwyd a gadeiriwyd bryd hynny. Eleni, yn Eisteddfod y Garreg Las, datgan detholiad agored o ‘Gwanwyn’ Dic yw’r her yng nghystadleuaeth fawreddog y Côr cerdd dant, a bu hen ganu dros y blynyddoedd hefyd ar ‘Cynhaeaf’. Mae cryn debygrwydd rhwng y ddwy awdl, ond gwahaniaethau arwyddocaol hefyd yn enwedig o ran cywair ieithyddol, a’r cwestiwn mawr yw hwn – pa un yw’r orau? Gofynnwyd i rai o edmygwyr y bardd geisio ateb y cwestiwn hwnnw, gan wybod y byddai Dic yn hoff iawn o’r syniad ei fod yn cystadlu yn ei erbyn ei hun!
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
