Thema dywyll Thema golau

Diflaniad y ffeiliau

Rhwng canol y 1970au a blynyddoedd cynnar y 1980au, bu campws Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor (fel y gelwid y sefydliad bryd hynny) yn dyst i fwy o brotestio croch nag odid unrhyw sefydliad addysg uwch arall yn y Deyrnas Unedig. Hawliau iaith oedd y sbardun a’r ffaith fod y Cymry Cymraeg bellach yn lleiafrif dinod mewn Coleg yn un o gadarnleoedd y Gymraeg. Yn dilyn ei sefydlu yn 1976, daeth Undeb Myfyrwyr Colegau Bangor (UMCB) yn ffocws i’r protestio, ac erbyn 1978 roedd yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau i ehangu’r Coleg ymhellach. I nodi 50 mlynedd o hanes yr Undeb, mae llyfr newydd wedi’i ysgrifennu a’i olygu gan Arwel Vittle ar fin cael ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Yma cawn flas o’r llyfr drwy gyfrwng mewnwelediad i un o weithredoedd mwyaf herfeiddiol yr Undeb yn erbyn awdurdodau’r Coleg.

Trwy gydol Tachwedd, Tymor yr Hydref 1978, roedd yr Undeb wedi cydlynu cyfres o brotestiadau disgybledig ac effeithiol yn erbyn y cynlluniau i ehangu’r Coleg, gan gynnwys blocio’r cwad, gwrthdystiad yn Llys y Goron Caernarfon (yn ystod achos – aflwyddiannus yn y pen draw – yn erbyn tri o’i aelodau), glynu posteri ar hyd a lled y campws a drysu gweithrediad y Coleg. Gwnaed paratoadau manwl gan arweinyddiaeth UMCB ar gyfer unrhyw gamau disgyblu gan yr awdurdodau, ac ar yr union ddiwrnod pan gyhoeddwyd fod Robin Chapman, Iwan Edgar a Gwion Lynch wedi’u diarddel am amrywiol gyfnodau o’r Coleg, meddiannwyd y Gofrestrfa Academaidd a rhan o Adeilad Newydd y Celfyddydau gan bedwar ugain o aelodau UMCB.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Hanes gwraig ryfeddol

Ymlaen >

Morfydd Owen