Thema dywyll Thema golau

Digon ar eu plât – brwydr y bwytai i oroesi

erthygl-rhagfyr-2020-i-ionawr-2021-2170-1073 erthygl-rhagfyr-2020-i-ionawr-2021-2170-1073
Tra oeddwn ar daith gwaith i’r gogledd yng nghanol mis Mawrth fe glywais newyddion mawr. Ro’n i’n swpera â chyd-berchennog Manorhaus Rhuthun (a chadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru) Chris Frost, pan dderbyniodd alwad frys. Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, oedd ar y ffôn. Ei neges? ‘Paratowch i gau eich busnes am chwe mis.’ Yn syfrdan braidd, es i ymlaen ar fy nhaith i brofi lletygarwch Castell Deudraeth. O dan yr amgylchiadau – ac wythnos cyn cyhoeddi’r clo mawr – doedd ’nunlle gwell i ddod yn ôl at fy nghoed. Roedd fy ymweliad â Phortmeirion, sy’n gwneud cymaint dros Gymru a’r Gymraeg ar lefel ryngwladol, yn falm i’r enaid. A serch gofidiau cwsmeriaid a staff, dyfalbarhau a wnaeth pawb â’u gwaith, gan gyrraedd safonau uwch nag erioed o ragoriaeth. Gadewais dan deimlad, â baneri Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn cyhwfan yn dawel uwch afon Dwyryd. Wrth nadreddu fy ffordd tuag adref i Gaerdydd, pasiais ddrysau caeedig Bistro Bermo a Bwyty Mawddach gydag un cwestiwn ar fy meddwl: be nesa?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-rhagfyr-2020-i-ionawr-2021-2169-1072

Moethusrwydd yr ailwerthuso

Ymlaen >
'Tri' (acrylig) gan Wil Rowlands

Ceinder yn nyddiau’r Covid