Thema dywyll Thema golau

Diogelwch ein cynrychiolwyr seneddol

erthygl-tachwedd-2021-2281-1179 erthygl-tachwedd-2021-2281-1179
Roedd y newyddion hunllefus am lofruddiaeth Syr David Amess yn ergyd i bawb, yn enwedig i’r rhai ohonom oedd yn ei adnabod. Wedi’r cyfan, mae’r nifer o aelodau seneddol yn San Steffan yn ddigon tebyg i nifer y disgyblion mewn ysgol uwchradd fechan. Gan ein bod yn cydweithio mewn adeiladau gweddol gyfyng byddai pawb ohonom yn dod i adnabod ein gilydd. Roedd David bob amser â gwên lydan ar ei wyneb pan fyddwn yn ei weld ar un o goridorau’r Senedd. Yn Gristion cydwybodol, roedd yn eciwmenaidd ei feddylfryd gan gydnabod yr angen i grefyddwyr o bob credo gydweithio a chyd-fyw’n heddychlon. Mi fydd colled ar ei ôl. Yn fy nghyfnod cynnar yn San Steffan ar ddechrau’r 1990au, digon ysgafn oedd lefel y diogelwch. Dyrnaid yn unig o’r heddlu yn y Senedd oedd yn arfog ac roedd yr arfau hynny’n guddiedig. Dros y blynyddoedd, ysywaeth, rhaid oedd dwysáu’r diogelwch.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-tachwedd-2021-2280-1178

Y Wladwriaeth Brydeinig a Senedd Cymru

Ymlaen >
erthygl-tachwedd-2021-2283-1180

COP26 – gyda joch o dequila