Thema dywyll Thema golau

Dirgelwch y Bae – galw am help DCI Mathias

erthygl-1718-626 erthygl-1718-626
Dwi’n hollol gefnogol i’r Cynulliad. Ond credaf, hefyd, fod yna chwarel dda iawn y gallai cyfres Y Gwyll ei chloddio yng ngweithrediadau’r Senedd – onid oes sawl dirgelwch yno? Wele sgerbwd ar gyfer cyfres arall o ymchwiliadau tywyll DCI Mathias. Pennod 1: Dirgelwch y Siambar Sorri Pam mae’r Siambr mor ofnadwy o farwaidd, gyda phawb mor gythreulig o gwrtais? Lle mae’r emosiwn a’r tân? Hefyd – ar beth maen nhw’n edrych? Ydi cyfrifiadur o’ch blaen yn gwneud ichi ymddangos yn bwysicach? Ofar tw iw, Mathias? Pennod 2: Dirgelwch y Polisi Pwy sy’n gyfrifol am bolisïau Llywodraeth Cymru? Yn rhy aml, ymddengys fod polisi yn gyfan gwbl ddibynnol ar farn y Gweinidog sy’n ei weithredu. Cymerwch faes pwysig llywodraeth leol. Yn ystod teyrnasiad y tri gweinidog diwethaf cyflwynwyd polisïau gwahanol a hynny, hyd y gwela i, heb damaid o drafodaeth. Sôn am lunio polisi cenedlaethol ar gefn paced sigaréts…

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-rhagfyr-2016-i-ionawr-2017-1717-625

Brexit a phentref gwleidyddol San Steffan

Ymlaen >
erthygl-rhagfyr-2016-i-ionawr-2017-1719-627

O Beirut i Eryri