Thema dywyll Thema golau

Dirgelwch y Cryman

Wyddoch chi am y teimlad hwnnw a ddaw weithiau wrth ddarllen gwaith rhywun arall – yn sydyn mae’r awdur yn disgrifio eich union brofiad chi, yn mynegi eich meddyliau chi. Dyma ddigwyddodd i mi wrth ddarllen colofn Elin Llwyd Morgan y mis diwethaf. Sôn yr oedd am gloriau llyfrau, a sut y ceir siom weithiau o ddarllen llyfr er bod y clawr allanol yn un deniadol ac yn addo pethau da y tu mewn – profiad cyfarwydd iawn i lawer ohonom. Yna nododd dair nofel na chafodd eu siomi ynddynt, am fod y cynnwys cystal os nad gwell na’i wisg allanol; ac yn wir dyna lle’roeddwn innau, nôl yn fy arddegau cynnar eto, yn methu rhoi Wuthering Heights Emily Brontë i lawr, nac wedyn Rebecca Daphne du Maurier. Wuthering Heights ar ôl darllen y stori fesul wythnos mewn comic i genod ddechrau’r 60au, wedi ei ddarlunio’n ddramatig a llawn awyrgylch tywyll gan arlunydd dawnus; a Rebecca ar ôl gweld y ffilm efo Laurence Olivier fel Max de Winter. Ac yna’r drydedd nofel, un Gymraeg, ‘chware teg’, gan Islwyn Ffowc Elis.

Roeddwn i wedi tyfu i fyny yn swn enw Islwyn, am ei fod yn ffrind i fy nhad ar ôl bod yn coleg efo f’ewyrth. A phan ddaeth yn bryd cyhoeddi cyfrol arobryn Medal Ryddiaith Llanrwst, at fy nhad, Jack Williams, y trodd Islwyn am siaced lwch Cyn Oeri’r Gwaed a’r pedair nofel a ddilynnodd, sef Cysgod y Cryman, Ffenestri Tua’r Gwyll, Yn Ôl i Leifior a Blas y Cynfyd. Roeddwn wedi ei weld wrthi yn llunio’r rhai diweddarach, wrthi’n ddiwyd ar ôl diwrnod o waith fel athro ysgol, efo’i inc persawrus gyda’r nos gefn gaeaf yn rhoi awr neu ddwy i’r gwaith cyn noswylio.

Pan ddaeth Cysgod y Cryman i’r llwyfan y llynedd es ati, fel nifer ohonom mae’n siwr, i ailddarllen y nofel. Fel Elin, copi’r genhedlaeth hªn oedd gen i, ac ar hwn mae’r cyfarchiad ar y flaenddalen yn darllen ‘I Jack… gyda’r Dymuniadau Gorau, Islwyn’, yn ei lawysgrifen dwt, osgeiddig. Y tu mewn mae llythyr yn ei blyg, ‘Llannerch, Llanfair Caereinion, Y Trallwm. Rhagfyr 11eg, 1953. Annwyl deulu bach’. Roeddwn wedi ei ddarllen o’r blaen ac fe’i darllenais o eto. Yr ail baragraff aeth â’m sylw y tro hwn:

“Wel, dyma gopi o’r llyfr. Mae arna’i ofn y bydd yr hen glawr yma’n ddolur i’th lygad di, Jac. Ond os bydd yn rhyw gysur i ti, canmol mawr glywais i arno gan bawb. Amryw yn syllu’n hir arno gan ryfeddu. Wrth gwrs, fe fyddi di’n meddwl gymaint yn well a fyddai petai’n iawn fel y dylai fod.”

Am y tro cyntaf, am wn i, dechreuais feddwl beth yr oedd Islwyn yn ymddiheuro amdano. Mae clawr Cysgod y Cryman yn gyfarwydd i gymaint ohonom a dw i’n siwr na welodd neb ryw lawer o ddim byd o’i le arno. Dros y dudalen aiff y paragraff yn ei flaen:

“Anfonais at y Brodyr Lewis, yn gofyn iddynt anfon eglurhad iti ar yr hyn a ddigwyddodd. Echdoe yr anfonais. Hwyrach dy fod wedi cael gair ganddynt erbyn hyn.”

Roedd Jack yn ddyn trefnus iawn efo’i ohebiaeth ond mi fuasai ein ty ni fel archifdy petasai wedi cadw pob un llythyr, felly wn i ddim a fu gair o eglurhad gan y Brodyr Lewis ai peidio.

Ond gwyddwn lle’r oedd ei ddarluniau, a chloriau gwreiddiol llyfrau, a phan ddois i o hyd i gynllun clawr gwreiddiol Cysgod y Cryman, mewn tri rhan – ‘Rough’ mewn dau liw, a ‘Block 1’Block 2’ yn null argraffu dyddiau fu, roeddwn eto yn edrych ar luniau digon cyfarwydd. Y cryman mawr yn hanner amgylchynu tª’r amaethwr cefnog ym mwynder Maldwyn. Y coed Douglas Fir tal – coed yr oedd fy nhad mor gyfarwydd â nhw ar dir y Gwynfryn – un ochr i’r plas; a phoplys gosgeiddig, na thyfai yn unman yn Eifionydd, yr ochr arall. Roedd Jack yn nabod ei goed, a gwyddai fod i bob coeden ei nodweddion ei hun. Roedd o yr un mor gydwybodol efo pensaerniaeth, a byddai wedi mwynhau darlunio manylion y plas. Ei syniad o oedd seilio ‘Lleifior’ ar y math o blasty Sioraidd a oedd i’w weld, medda fo, yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn. A gan fod y cynllun pensaernïol yn un cytbwys ac urddasol, roedd yn apelio ato yn arw. a ‘

Roeddwn wedi gweld y darluniau gwreiddiol yma lawer tro erioed. Ac eto, doeddwn i erioed wedi holi pam fod gair ar goll o deitl y gyfrol. Pam ‘Y Cryman’? Beth ddigwyddodd i’r gair ‘Cysgod’? Dyna lle’r oeddwn i felly, flynyddoedd lawer ar ôl cyhoeddi’r nofel ac, ysywaeth, rai blynyddoedd ar ôl marw’r awdur a’r darlunydd, yn dechrau edrych yn fanwl ar ddarlun Jack, yna ei gymharu â siaced lwch gyhoeddedig Cysgod y Cryman. Meddyliais ar y dechrau fod rhyw arlunydd arall wedi ailwampio rhyfaint ar gynllun fy nhad er mwyn gosod y gair ‘Cysgod’ i mewn – digwyddodd hynny pan ddarluniodd o gloriau ei gyfrolau ei hun, Pigau’r Sêr a Maes Mihangel dan yr enw J. G. Williams – ond buan y gwelais fod y newidiadau yn mynd ymhellach na rhyw fanion felly. Roedd Douglas Firs y cynllun pin-ac-inc oedd gen i yn un llaw yn debycach i goed Nadolig ar glawr y llyfr oedd yn fy llaw arall. Nid poplys oedd islaw’r dreif ar y clawr, ond coed di-dras. Fel mewn pôs ‘Spot the difference’, buan y dechreuais sylwi fod manylion pensaernïol y plasty yn wahanol yn y ddau lun, gyda’r nodwedd ‘dentil’ o dan y bondo yn sgwarog yn y llun gwreiddiol ac yn igam-ogam yn y llall; y ffenestri sash Sioraidd yn dair chwarel ar draws yn un ac yn ddwy ar draws yn y llall, a bod ongl to’r porth o flaen y drws ffrynt yn hollol wahanol yn y ddau lun. Yn wir, mwya yn y byd y craffwn ar y clawr, lleia yn y byd o ôl llaw fy nhad a welwn arno. Ac roedd ganddo fo ffordd efo cymylau – nid ei gymylau o oedd y rhain! Ac felly, rhaid oedd dod i’r casgliad nad ôl ysgrifbin – neu ddarlunbin – fy nhad a welaf ar glawr Cysgod y Cryman. Ei gynllun o, yn sicr, ond nid ei law.

Y cwestiwn cyntaf sy’n codi yw, pwy newidiodd enw’r nofel? Dw i’n siwr y cytunai pawb fod ‘Cysgod y Cryman’ yn dipyn fwy trawiadol a chofiadwy na ‘Y Cryman’. Ai rhywun yng Ngwasg Aberystwyth a gafodd y syniad? Yna’r ail gwestiwn; pryd y daeth y syniad gwych yma heibio? Yn sicr ar ôl i Jack ddarlunio’r clawr. Mwy na thebyg ar ôl iddo’i anfon i’r wasg lawr yn Llandysul yn y de. Tybed a welodd rhywun yno y clawr, ac ar ôl sylwi ar y mymryn cysgod o dan y cryman, dyma syniad yn dod heibio?

Ac wedyn – o newid enw’r llyfr – sut oedd ailwampio’r clawr? Yn y dyddiau pell hynny heb nac e-bost nac Adobe Illustrator na dim ffordd slic na chyflym i roi llawdriniaeth frys i ddelwedd, boed yn waith llaw neu ffotograffig, doedd dim amdani ond rhoi pin ar bapur eto, yn llythrennol. Sgwn i pam nad ofynnwyd i fy nhad ail-wneud y darlun? A gymerai hynny ormod o amser? Roedd amserlenni cyhoeddi llyfrau bryd hynny yn chwerthinllyd o dynn – dim ond yn hwyr yn y dydd yr âi llyfr i’r wasg erbyn marchnad y Nadolig (dydi pethau fawr gwell y dyddiau yma o ran hynny!). Mae gen i dystiolaeth o hyn ar ffurf llythyr arall o eiddo Islwyn ac mae’n werth ei ddyfynnu:

8 Gordon Terrace,

Ffordd y Garth,

Bangor.

7 Tachwedd 1958.

F’annwyl Jac,

Deffroais bore heddiw i sylweddoli fod gennyf lyfr ar ei ffordd drwy’r wasg, a’i bod yn hwyr glas i mi ofyn iti a fyddet mor garedig â gwneud un o’th siacedi llwch digymar ar gyfer hwn eto. Dyma fesur y wyneb sydd gennyf – ’mod i’n gofyn peth fel hyn yng nghanol Tachwedd yn hytrach nag yn nechrau Awst.

Ond a deud y gwir iti, wyddwn i ddim tan rwan y byddai’n bosibl dod â’r llyfr allan mewn pryd i’r Nadolig. A doeddwn i ddim am ddod ar dy ofyn prysur heb fod rhaid. Felly, cyn gynted ag y daeth yr O.K. oddi wrth y Lewisiaid, dyma awgrymu iddynt fy mod yn gofyn i ti ei siacedu fel arfer. A chytunasant. Ond cofia, os yw dy ddwylo’n rhy lawn i wneud y gwaith yma o fewn y deng niwrnod nesa ’ma, rhaid iti ddweud hynny, a chaiff y llyfr ymddangos gyda siaced brintiedig am y tro. Os gelli wneud y gwaith, byddaf fi yn gwneud ymgais i’th ddigolledu yn ychwanegol at y mymryn a gei gan y wasg, fel arfer.

Syniad J. Huw Lewis, yn y wasg, oedd ‘llun o hen dresal Gymreig’ ar y clawr. Ymateb Islwyn i hynny oedd: ‘Popeth yn iawn; mae hen ddresal yn y nofel. Ond rhaid imi gyfaddef nad yw’n cyfleu dim o Flas y Cynfyd i mi – dyna deitl y llyfr, gyda llaw, rhag ofn i mi anghofio dweud.’

Yna aiff Islwyn yn ei flaen i roi braslun o’r plot (gan na fyddai digon o amser i Jack ddarllen y nofel), ac yna daw’r paragraff hwn:

“Yn awr, y syniad am glawr oedd gen i oedd trên… yn mynd i dwnel, a’r twnel yng nghanol y gromlech neu’r bryncyn crwn yma, a’r dderwen rhywfodd neu’i gilydd uwchben y cwbwl. Ond mae’n ymddangos fod J. Huw Lewis yn teimlo y byddai hynny’n rhy gymhleth. O leiaf, rwy’n casglu hynny. Ac efallai’i fod yn iawn. Felly, mi adawaf i ti benderfynu. Wn i ddim a fyddai gennyt amser i wneud braslun o’r syniad tresal a hefyd o’r syniad trên-a-chromlech (gellid anghofio’r dderwen). Neu efallai y bydd i’r thema awgrymu rhywbeth gwell a chynilach i ti dy hun. Gorau oll fyddai hynny.”

Yn y deng niwrnod a gafodd Jack i lunio’i siaced lwch, y dresal aeth â hi. O gofio arddull fanwl a chywrain fy nhad o wneud popeth, mae’n bur debyg iddo weld yn syth na fyddai ganddo byth mo’r amser na’r hamdden i wireddu syniad cymhleth a chordeddog Islwyn. Ac ni chafodd wybod a blesiodd y dresal ai peidio, oherwydd dyma’r siaced lwch olaf y gofynnwyd iddo ei llunio i nofelau Islwyn.

Yr hyn sy’n sicr yw fod Islwyn yn teimlo cryn embaras wrth anfon copi o Cysgod y Cryman i fy nhad – ‘Mae arna’i ofn y bydd yr hen glawr yma’n ddolur i’th lygad di, Jac… fe fyddi’n meddwl gymaint yn well a fyddai petai’n iawn fel y dylai fod’, ac yntau wedi diolch, y tu fewn i’r gyfrol, i’w gyfaill J. G. Williams ‘am ei weledigaeth a’i fedr ar y siaced lwch’.

Rhwng popeth, mae’n siwr fod perchnogion y wasg mewn tipyn o gyfyng-gyngor ynglªn â chlawr Cysgod y Cryman ar ôl penderfynu ei ail-enwi. Efallai fod arlunydd cyfleus wrth law i ail-lunio’r clawr, gan ddod â’r ty a’r cryman a’r bryniau yn is i lawr y ddalen er mwyn caniatáu mwy o awyr i’r gair ychwanegol. Tybed pa arddull a ddefnyddiwyd? Ar watercolour boardscraperboard? Ond, yn fwy na dim, pwy oedd yr arlunydd anhysbys? Atebion, os gwelwch yn dda, i’r cyfeiriad arferol. Clifford Milburn & Co, 54 Fleet Street, London EC4 y lluniodd Jack ei lun, efo Indian Ink du. Tybed beth ddefnyddiodd Arlunydd Rhif Dau? Efallai yr un math o fôrd, neu efallai

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Gwres yr haf

Ymlaen >

Yn ol i'r 70au