Thema dywyll Thema golau
Cofio Penri Jones
Disgwyl eiddgar am luniau o’r gofod
Binj-wylio

Disgwyl eiddgar am luniau o’r gofod

erthygl-chwefror-2022-2312-1204 erthygl-chwefror-2022-2312-1204
Un fantais o fod yng nghwmni pobl ifanc yw eu bod, o bryd i’w gilydd, yn ymgynghori â’u ffonau. Bendithiais frawd ‘bach’ fy merch yng nghyfraith wrth iddo fy ngoleuo ar lansiad hanesyddol Telesgop Gofod James Webb wrth iddo ddigwydd. I bawb sydd â hanner diddordeb mewn gwyddoniaeth dros y 30 mlynedd diwethaf, bu lluniau anhygoel Telesgop Gofod Hubble o ryfeddodau’r bydysawd yn bleser os nad yn addysg bur. Heb sôn am angen anthropomorffig bron yr Hubble i wisgo sbectol i gywiro’i olwg! Ond ers dros 15 mlynedd bu aros mawr am ei olynydd. Bu cryn oedi, ac yn 2011 pleidleisiodd y pwyllgor cyllid perthnasol i ddileu’r prosiect oherwydd ei gost gynyddol. Ond erbyn diwedd y flwyddyn honno penderfynodd Cyngres yr Unol Daleithiau barhau â’r cynllun. A bellach, ar gost o ryw $10 biliwn, ni fedrwn ond dychmygu nerfusrwydd y miloedd a oedd ynghlwm â’r gwaith wrth i fotwm tanio’r roced (Ewropeaidd) Ariane 5 gael ei danio ar ddydd Nadolig yn Kourou, Guyane.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2022-2311-1203

Cofio Penri Jones

Ymlaen >
erthygl-chwefror-2022-2313-1205

Binj-wylio