Thema dywyll Thema golau

Diwedd Michael Jackson. Dechrau’r diwedd i deledu?

Ar Question Time, o bob rhaglen, y clywais i am ei farwolaeth. Torrwyd ar draws darllediad o un o raglenni teledu mwyaf difrif a difyr y BBC i gyhoeddi’r newydd. Roeddwn i’n gegrwth. Fedrwn i ddim credu na allai’r wybodaeth fod wedi aros tan ddiwedd y rhaglen. Wrth gwrs, be oeddwn i ar y pryd ddim yn ei sylweddoli oedd bod marwolaeth Jackson wedi cael ei gyhoeddi hanner awr ynghynt ar wefan TMZ. Safle ydi honno sy’n arbenigo mewn cyhoeddi newyddion o’r byd adloniant. Mewn dim o dro roedd miloedd ar filoedd o ddefnyddwyr Twitter yn postio eu hymateb i’r newydd, cymaint ohonyn nhw yn wir fel bod y gwasanaeth yn gwegian yn arw ac yn cael trafferth i ymdopi â’r holl brysurdeb. Ar yr un pryd hefyd roedd y fath niferoedd o bobol led led y byd wrthi’n cyd-deipio’r ddau air ‘Michael Jackson’ nes peri i benaethiaid Google ofni bod rhyw fath o feirws cyfrifiadurol dieflig yn ymosod ar eu cyfundrefn chwilio-am-wybodaeth.

Gyda’r holl weithgarwch rhyngwladol cyffrous hyn yn digwydd doedd gan gynhyrchwyr a golygyddion hen dechnoleg y teledu ddim syniad beth i’w wneud. Roedden nhw wedi cael eu bwrw oddi ar eu hechel yn llwyr. Onid oedd gan y BBC, CNN, Sky News, Fox ac ati hawl ddwyfol i fod y cyntaf i roi gwybod i’r byd bod Rhywbeth o Bwys wedi digwydd? Y math o ddigwyddiadau y mae’r darlledwyr wrth eu boddau’n eu plastro ar draws y sgrîn efo’r pennawd ymffrostiol – ‘BREAKING NEWS’. Mewn panig y tarfodd y BBC ar Question Time. Panig hen ddarlledwr a oedd wedi colli’r ras – a cholli ei ben. 

Ond fe all y nos Iau dan sylw fod yn drobwynt yn hanes cyfathrebu am weddill y ganrif hon. Dipyn o osodiad, dw i’n llawn sylweddoli. Ond nid un cwbl amhriodol. Beth sy’n arwyddocaol yw hyn. Wnaeth y ganran gynyddol o boblogaeth y byd sy’n dibynnu ar eu cyfrifiaduron am wybodaeth ddim trafferthu i aros am gadarnhad y Cyfryngau Mawr Pwysig bod Michael Jackson wedi marw. Roedd gan y genhedlaeth newydd o ddefnyddwyr newyddion ffydd yn TMZ. Ac roedd pob sail i’w ffydd. Dim ond ar ôl i wefan papur newydd yr LA Times gadarnhau bod stori TMZ yn wir y mentrodd Sky News, i gychwyn, ac wedyn y teledwyr eraill gyhoeddi marwolaeth Jackson. Roedd yr hen gyfryngau wedi gorfod cydnabod bod y cyfryngau newydd wedi rhoi chwip din iawn iddyn nhw. Tybed a fydd y digwyddiad hwn yn dod i gael ei weld fel un diffiniol yn eu perthynas? Proffwydwyd goruchafiaeth y we ers tro byd. Yn sgil ymadawiad Michael Jackson cafwyd lle i gredu o ddifrif y gall y broffwydoliaeth honno, maes o law, ddod yn wir. 

A dim ond ffwl bellach fyddai’n dirmygu Twitter. O fewn wythnos yn unig enillodd Twitter ei blwyf nid yn unig yn achos Michael Jackson ond hefyd fel cyfrwng a ganiataodd i bobol orthrymedig Iran roi gwybod i’r byd beth yn hollol oedd yn digwydd yn dilyn etholiadau’r wlad. Ac ar un arall o’r cyfryngau newydd amgen, YouTube, y gwelodd y byd bethau nad oedd awdurdodau Iran yn dymuno am eiliad inni eu gweld. 

Yn anffodus i’r BBC fe ddigwyddodd hyn ar yr union adeg pan ddatgelwyd nad yn San Steffan yn unig yr oedd treuliau ymddangosiadol amheus yn cael eu hawlio. A’r gwahaniaeth mwyaf trawiadol oedd fod llawer o dramgwyddwyr tybiedig y BBC yn ennill peth wmbredd yn fwy o gyflog na’r Prif Weinidog, heb sôn am y cyflog cymharol fychan mae aelodau seneddol cyffredin yn ei dderbyn. 

Wrth i mi sgwennu hyn, cyflogau a threuliau BBC Llundain sydd wedi bod dan y chwydd wydr. Pwy tybed sy’n mynd i holi am gyflogau a threuliau penaethiaid y cyfryngau Cymreig, yn y BBC ac S4C? Dywedir wrthym fod yn rhaid talu arian mawr i’r bobol hyn neu fe fyddan nhw’n cael eu potsio gan ddarlledwyr eraill. Ond yng Nghymru faint o wir sydd yn hynny? Pwy yn hollol sy’n mynd i fod eisiau dwyn Menna Richards ac Iona Jones o’r BBC ac S4C? Fedr yr hen ITV Wales dlawd ddim o’u fforddio nhw, mae hynny’n sicr. Ac os ydi cyflogau’n cael eu talu ar sail perfformiad onid yw’n bryd gofyn pwy sy’n mynd i dderbyn cyfrifoldeb am y gostyngiad alaethus yng nghynulleidfa nosweithiol Pobol y Cwm? 

Ys dwedodd Michael Jackson mewn cyswllt arall, yn hanes presennol S4C mae’r Bad yn amlycach o lawer nag unrhyw Thriller.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dyfodol Llafur: plaid ranbarthol, nid cenedlaethol?

Ymlaen >

Arswyd y Byd