Yn 1949 daeth Rhyfel Cartref Tsieina i ben gyda buddugoliaeth i Mao Zedong a’r Comiwnyddion. Ond methwyd â chipio ynys Taiwan. Pa mor hir y gall Taiwan wrthsefyll yr ymdrechion i’w dwyn yn ôl i’r gorlan Tsieineaidd? A pha mor hir y gall yr Unol Daleithiau barhau i chwarae’r ffon ddwybig ynghylch y sefyllfa?
Wrth i mi lunio’r darn hwn, dim ond dyfalu y gellir beth yn union gaiff ei drafod gan Donald Trump a Xi Jinping yn ystod ymweliad gwladol arfaethedig yr olaf â’r Unol Daleithiau ddiwedd mis Medi. Ond mae’n sicr y bydd Taiwan ar feddwl Xi Jinping. Roedd sylwadau Trump, yn dilyn ei ymweliad gwladol yntau â Tsieina fis Mai diwethaf, yn fêl ar fysedd Xi Jinping. Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau ar Fox News, wrth gael ei holi am Taiwan, nad oedd o am weld neb yn ‘mynd yn annibynnol’ ac ‘nad oedd ymladd rhyfel 9,500 milltir i ffwrdd’ (er mwyn amddiffyn Taiwan) yn rhywbeth y byddai’n ‘rhuthro i’w wneud’. Tybed a fydd Xi wedi ei blesio i’r un graddau ddiwedd Medi?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
