Thema dywyll Thema golau

D.J. Williams, Trevor Vaughan a’r Blaid Lafur

erthygl-mawrth-2022-2320-1213 erthygl-mawrth-2022-2320-1213
Roedd gan D.J. Williams (1885–1970), un o sylfaenwyr y Blaid Genedlaethol ac un o dri Penyberth, hen gysylltiad â’r mudiad Llafur. Daethai ei argyhoeddiad gwrthimperialaidd i’r amlwg yn ystod y Rhyfel Mawr, ac yn Rhydychen (1915–1918) fe’i dygwyd i gylch newydd o sosialwyr yn y Fabian Society. Ddechrau Mehefin 1918 anfonodd Arthur Henderson, Ysgrifennydd y Blaid Lafur, lythyr ato yn diolch iddo am ysgrif o’i eiddo, gan ymateb fel hyn: ‘Our labour forces in Wales, and especially in the great coalfields in South Wales, are very keen on this question: and Labour generally hopes to use its influence in the direction of Home Rule for Wales, both in this and the next Parliament.’ Pan ddychwelodd i Gymru, am gyfnod byr i ddysgu yn Ysgol Lewis Pengam, ac yna i Abergwaun, roedd yn uniaethu â’r Blaid Lafur. ‘Uniaethu’ – dyna i chi air annigonol i gyfleu’r ymroddiad brwd, llwyr, digyfaddawd a roddai i’r achosion a’i denai.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mawrth-2022-2319-1212

Hanes angenrheidiol, bratiaith ddiangen

Ymlaen >
erthygl-mawrth-2022-2321-1214

Pwdin, Petula ac Alys