Thema dywyll Thema golau

Drakeford: dyn y dŵr coch clir

Mark Drakeford yn cael ei gyfweld Mark Drakeford yn cael ei gyfweld
Yn eistedd dan blac ‘Prif Weinidog Cymru’, sydd ar wal ystafell Cabinet Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, mae Mark Drakeford yn cael llymaid o goffi. Fel sy’n arferol, dwi’n canfod y Prif Weinidog mewn hwyliau hamddenol, er ein bod ni’n cwrdd yn ystod wythnos gythryblus i ddatganoli. Ddyddiau yn unig ynghynt roedd llywodraeth Rishi Sunak wedi defnyddio feto yn erbyn Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr SNP gan roi pwysau digynsail ar setliad cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. ‘Nawr yw’r amser i gryfhau’ – mae’n ailadrodd y gair er mwyn ei bwysleisio – ‘popeth sydd i’w wneud â datganoli,’ meddai Drakeford, bron yn syth ar ôl i ni gychwyn ein cyfweliad. O leiaf mae’r Prif Weinidog yn gyson ei ddadleuon. Mae’n dweud bod y ffraeo gwleidyddol rhwng San Steffan a Holyrood yn adlewyrchu ‘pwysigrwydd’ adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig. Mynna’n daer mai dim ond y llywodraeth Lafur yma yng Nghymru sydd wedi dangos agwedd bragmataidd tuag at ddatblygu perthynas gyfansoddiadol newydd ac aeddfed.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Adeiladau wedi eu dinistrio gan ddaeargryn Twrci

Esgeulustod a llygredd yn dwysáu trychineb naturiol

Ymlaen >
Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, Pont Trefechan, 1963

Nid fi oedd y cynta i eistedd ar yr hewl