Thema dywyll Thema golau

Drama ym mhob twll a chornel

Un o aelodau Kitch ’n’ Sync yn perfformio ar y Maes Un o aelodau Kitch ’n’ Sync yn perfformio ar y Maes
Wrth adolygu arlwy theatr yr Eisteddfod y llynedd, fe gwynais yn groch fod sŵn bwrlwm y Maes (yn enwedig Caffi Maes B) yn llifo’n ddilywodraeth i Theatr y Maes, ac yn tarfu ar wrandawiad y gynulleidfa. Wel, datryswyd y broblem, ac yn y modd mwyaf di-lol. Cafodd trefnwyr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wared ar Theatr y Maes yn llwyr, a gosod nifer o’r sioeau theatr yng Nghaffi Maes B ei hun. At hynny, trefnwyd bod mwy o sioeau a pherfformiadau ar hyd y Maes: yn lle cael Theatr ar y Maes, felly, trowyd y Maes i gyd yn theatr. Golygai’r penderfyniad hwn fod modd i rywun ddod ar draws perfformiadau o ddramâu yn ddisymwth wrth grwydro ar hyd y lle. Pleser digamsyniol oedd hynny, ac yn gwbl gyson â’r profiad o fod ar y Maes. Fodd bynnag, fe olygai hefyd y gallai rhywun golli sawl un o’r perfformiadau oni bai iddo gynllunio’r cyfan o flaen llaw yn reit ofalus.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Ifor Davies yn dyfarnu ei wobr i waith Callum Humphreys

Yr hudolus, yr hiraethus a’r amwys

Ymlaen >
Jac Morgan, cyd-gapten tîm rygbi Cymru

Aelod diweddaraf cylch anrhydeddus