Thema dywyll Thema golau

Dwylo dros y môr

erthygl-mawrth-2019-1951-883 erthygl-mawrth-2019-1951-883
Ym mhob un orymdaith ar ŵyl ein nawddsant (17 Mawrth) mae rhywun wedi ei wisgo fel Sant Padrig. Mae’r Sgowtiaid a’r clybiau chwaraeon i gyd yn cerdded y tu ôl i’w baneri. Mae’r injan dân yno. A rhes o dractorau a hen geir. Grwpiau o blant yn dawnsio. A phawb yn gorymdeithio’n swnllyd i lawr y brif stryd heibio i’r llwyfan lle mae’r pwysigion lleol yn aros i chwifio a churo dwylo. Mae ein cynulleidfa eisiau gweld eu tref nhw, a’u parêd nhw, ar y teli – a gwae ni os byddwn ni’n anghofio unrhyw gornel o’r wlad. (Gwae fi, a dweud y gwir, achos fi sy’n gyfrifol am y rhaglen eleni.) Defod arall bob blwyddyn pan ddaw Gŵyl Sant Padrig yw ecsodus y llywodraeth, gyda 36 o weinidogion i gyd yn teithio rownd y byd er mwyn dathlu popeth Gwyddelig ym mhobman. Dim ond un gweinidog sy’n aros adre i edrych ar ôl y siop. Yn ddigon eironig, y gweinidog trafnidiaeth sy’n aros ar ôl y tro yma.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mawrth-2019-1950-882

Brexit, Prydeindod a Llynges ei Mawrhydi

Ymlaen >
erthygl-mawrth-2019-1952-884

‘Ac eithrio gwylwyr yn yr Alban’