Thema dywyll Thema golau

Dwyn creadigol i ddathlu archif Sain

Don Leisure yn astudio archifau Sain Don Leisure yn astudio archifau Sain
Mae gwrando ar yr albwm Tyrchu Sain fel bod mewn breuddwyd sain, os oes y fath beth. Fel ym mhob breuddwyd, mae pethau’n gyfarwydd ac anghyfarwydd yr un pryd, yn llithro i mewn ac allan o’ch gafael. Rydych yn nabod ambell ddarn o gân neu riff yma ac acw ond mae’r darnau hynny wedi’u cymysgu efo pethau eraill, yn synau a rhythmau a churiadau newydd electronaidd o bob math. Croeso i fyd Don Leisure. Ef yw’r dyn sydd wedi bod yn ‘tyrchu’ trwy gatalog y cwmni recordiau annibynnol hynaf yng Nghymru er mwyn creu taith sonig liwgar, droellog a chynhyrfus ar ffurf ugain o draciau. Cerddor, artist ‘bît’, cynhyrchydd a DJ yw Aly Jamal sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio o dan yr enw Don Leisure. Mae’n egluro, gyda gwên, ei fod wedi ‘dwyn’ yr enw hwnnw chwarter canrif yn ôl gan siop peiriannau hapchwarae yn y ddinas am ei fod yn ei daro fel un doniol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Paentiad 'Cycle of Nature' (1944) – © Ystâd Ceri Richards. Cedwir pob hawl. DACS 2025 / Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Moderniaeth Ceri Richards

Ymlaen >
Tom Waters yng ngegin Gorse

Seren Michelin i fwyty’r eithin