Thema dywyll Thema golau

Dyrchafaf fy llygaid

Y Berllan (1924?), dyfrlliw gan David Jones Y Berllan (1924?), dyfrlliw gan David Jones
Artist, bardd ac ysgrifwr o dras Cymreig oedd David Jones (1895–1974). Er iddo gael ei eni yn Swydd Gaint, un o Dreffynnon yn Sir Fflint oedd ei dad ac uniaethodd yntau fwyfwy â’i wreiddiau Cymreig wrth ddatblygu fel bardd ac fel arlunydd. Mae arddangosfa sylweddol o’i waith celfyddydol sydd i’w gweld yn Aberhonddu ar hyn o bryd yn tystio i un wedd benodol ar hynny. Mae Rhythmau’r Bryniau: David Jones + Capel-y-ffin yn Y Gaer yn cynnwys oddeutu 70 o baentiadau a lluniadau ac yn canolbwyntio ar y gwaith a greodd yn sgil ei ymweliadau estynedig â’r pentref bychan ar gyrion Bannau Brycheiniog. Rhwng Nadolig 1924 a haf 1928 ymunodd David Jones ar sawl achlysur â chymuned y cerflunydd a’r dylunydd teipograffeg Eric Gill yn yr hen fynachlog yng Nghapel-y-ffin. Roedd y cyfnod hwn yn drobwynt allweddol yn natblygiad yr artist. Yn ôl y cyflwyniad ar un o banelau’r arddangosfa, ‘Cyffrowyd Jones gan “rythmau’r bryniau” a “gwrth-rythmau” yr afonydd a dechreuodd luniadu gydag ysgafnder a llyfnder newydd.’

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Dafydd Owain mewn fideo gan S4C

Croeso i fyd Uwch Dros y Pysgod

Ymlaen >
Ian Rowlands

Ailhawlio ein llwyfan – holi Ian Rowlands