Bu LOWRI HAF COOKE yn blasu’r arlwy ym mwyty The Shed, Abertawe, a chael ei phlesio’n fawr.
Anaml y clywch chi ganmol i fwyty ganol gaeaf, wedi holl oferedd tymor y Nadolig. Ond eleni ces bersbectif newydd ar y tymor tywyll, diolch i wibdaith ysbrydoledig i Abertawe. Gyda’r cynhyrchiad Our Town (Welsh National Theatre) ar daith ledled Cymru rhwng dechrau Ionawr a diwedd Chwefror, trefnais docyn matinee yn Theatr y Grand, Abertawe, a bwrdd am ginio yn The Shed ger y marina.
Dim ond unwaith yr ymwelais i â’r bwyty cyn hynny, ym mis Mai 2024, ond roedd yn brofiad cofiadwy, diolch i bwyslais y cogydd lleol – Jonathan Woolway o Orseinon – ar seigiau a chynnyrch lleol a thymhorol. A hithe’n wanwyn bryd hynny, dotiais at flasau ffres y tymor, fel salad merllys gyda chaws Gwyn Bach o Ffostrasol, sorbet rhiwbob, a’i fersiwn odidog ef ei hun o gawl cig oen. Ond tybed beth fyddai’n cael ei gynnig ganddo ganol gaeaf?
Ro’n i ar ben fy nigon i weld yr haul yn disgleirio wrth groesi pont droi drawiadol y marina. Lleolir y bwyty chwaethus mewn hen warws anferthol yn natblygiad cyfoes, llawn golau SA1. Mae’r dodrefn clasurol yno yn adleisiol o arddull syml bwytai poblogaidd St John, Llundain. A pha ryfedd mewn gwirionedd? Bwrodd y Cymro ei brentisiaeth yno, dan adain y cogydd Fergus Henderson; eicon ym myd coginio a atgyfododd y traddodiad cynaliadwy o fwyta cig ‘o drwyn i gynffon’. Mae llun ohono ar silff y bar am reswm.
Ces groeso cynnes yn The Shed gan weinyddes oedd yn gwbl ymwybodol o’r cynnwrf mawr yn lleol fod Michael Sheen a’i griw yn Abertawe. Derbyniais felly wasanaeth chwim a diffwdan, a adawodd hen ddigon o amser i mi ymlwybro tuag at y theatr.
Mae’n ystrydeb, mi wn, ond gallwn i fod wedi archebu popeth ar y fwydlen – wel y tair bwydlen, a dweud y gwir. O’r fwydlen ginio dau gwrs am £24 archebais salad brest cwningen; yna’r risol cig moch o benrhyn Gŵyr (gydag wy wedi’i ffrio a sglods) fel prif gwrs, oedd hefyd ar y fwydlen bwrdd du o ‘seigiau arbennig y dydd’. A minnau wedi sawru’r crocetas cocos ddwy flynedd yn ôl (‘fy mhlentyndod yn Abertawe mewn briwsion bara’ meddai’r cogydd wrth y Western Mail), dewisais archebu un arall o ffefrynnau’r Shed, y ‘Welsh Rarebit’, fel tamaid ychwanegol i gyd-fynd â glasied o win pefriog Crémant blas eirin. Yna i bwdin? Blas bach ysgafn, sorbet cyrains cochion, i gloi’r cyfan mewn steil, o’r brif fwydlen.
Asiodd y wledd i’r dim ag arlwy theatrig y prynhawn, oedd yn cwblhau diwrnod campus. Mae clasur Thornton Wilder, Our Town, yn dathlu manylion bach bywyd bob dydd mewn cymuned fechan yn nhalaith New Hampshire. Cyflwynwyd y ddrama o bersbectif Cymreig, gan gyffwrdd cynulleidfa’r Grand i’r byw nes bod pawb ar eu traed ar y diwedd.
Rhywbeth digon tebyg a wna Jonathan Woolway a’i dîm yng nghegin The Shed, wrth ddod ag urddas i flasau a seigiau cartrefol, a chynnig tro cyfoes ar y traddodiadol. Ac fel yn y ddrama, cafwyd cydbwysedd cyson rhwng y chwerw a’r melys – blas y gwin eirin, a’r salad cwningen (a barwyd â dail sicori a finegr cwins), heb sôn am sudd Swydd Caerwrangon sur-hallt y caws pob, saws brown ffrwythog yr wy a sglodion, a’r sorbet amheuthun i orffen. A ches hefyd gwmni atgofion o hoff flasau fy nheulu a ’nghyfeillion. Cyrains cochion gardd fy modryb, a risols Mam-gu, heb sôn am gaws pob, ac wy a sglods – seigiau cysur bron pawb dwi’n eu hadnabod! Yn The Shed – fel yn Our Town – dyrchafwyd y cyffredin. Gwledd i fwydo’r enaid a chynhesu’r galon.
The Shed, Uned 1–2, J Shed Arcade, Heol y Brenin, Abertawe SA1 8PL (theshedsa1.com / 01792 712120)
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru