Thema dywyll Thema golau

Dysgu byw efo’n teimladau

'Fleabag', rhaglen deledu BBC 'Fleabag', rhaglen deledu BBC
Mi ges i’n atgoffa yn ddiweddar o fonolog wych gan y cymeriad Fleabag, yn y gyfres o’r un enw, ble mae hi’n trafod poen ac emosiynau. Mae merched wedi eu tynghedu i gario poen efo nhw yn dragywydd, meddai hi. Poenau mislif, geni plant a wedyn y menopos yn goron ar y cyfan. Dydi hynny ddim mor wir, meddai, am ddynion, sy’n gorfod creu duwiau a diafoliaid er mwyn cael rhywbeth i deimlo’n euog yn ei gylch, tra mae merched yn teimlo’n euog am bopeth yn dragywydd. Mae poen yn rhan naturiol o fywyd merch, tra mae dynion yn cychwyn rhyfeloedd er mwyn gallu teimlo rhywbeth – a phan maen nhw isio profi agosatrwydd at rywun, maen nhw’n chwarae rygbi. Tafod-yn-y-foch ydi hyn oll ganddi wrth gwrs, ond yn ddoniol a deifiol iawn wedi’i gyflwyno gan yr unigryw Fleabag, yn ei ffordd ddihafal ei hun.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
'Olion, Rhan 1: Arianrhod'

Perthnasedd a nerth Arianrhod

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Tachwedd